Carcharu merch, 14, am drywanu merch arall
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
Mae merch 14 oed wnaeth drywanu merch arall ar ôl ei bygwth ar Snapchat wedi cael ei dedfrydu i ddwy flynedd ac wyth mis mewn uned ddiogel i bobl ifanc.
Clywodd Llys y Goron Abertawe iddi drywanu’r ferch bum gwaith gyda chyllell ym mis Tachwedd y llynedd.
Cafodd ei harestio ar 17 Tachwedd, ddiwrnod wedi'r ymosodiad yng Nghoelbren, Powys.
Fe wnaeth y ferch gyfaddef achosi anaf yn fwriadol ac o fod â llafn yn ei meddiant mewn gwrandawiad blaenorol.
Ni all enwau’r merched gael eu cyhoeddi oherwydd eu hoedran.
Negeseuon 'bygythiol', llawn 'cenfigen'
Clywodd y llys ddydd Gwener i’r ferch anfon negeseuon bygythiol gan ei bod yn meddwl fod y person yr oedd hi’n ystyried i fod yn gariad iddi mewn perthynas â’r ferch arall.
Yn ôl yr erlyniad, roedd y negeseuon yn “fygythiol” ac yn “dangos cenfigen”.
Dywedodd Carina Hughes KC bod y ferch wedyn wedi mynd i eiddo lle'r oedd y ferch, ac wedi ei thrywanu bump o weithiau.
Clywodd y llys fod un anaf i’r stumog “yn ddifrifol” a bod crys y ferch “yn llawn gwaed”.
Fe glywodd y llys sut y gwnaeth hi sylw ynglŷn â phetai’r ferch a gafodd ei hanafu yn feichiog, “fyddai hi ddim nawr”.
Fe dreuliodd y dioddefwr bedwar diwrnod yn yr ysbyty.
Cafodd y ferch ei harestio a chlywodd y llys ei bod eisoes ar fechnïaeth pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2023
Dywedodd John Hipkin KC ar ran yr amddiffyniad bod y diffynnydd wedi pledio’n euog “yn syth” ar ôl i adroddiad seiciatryddol awgrymu ei bod mewn sefyllfa i gyflwyno ple.
Ychwanegodd fod nodiadau’n dangos bod “newid sylweddol mewn aeddfedrwydd ac agwedd” ers i’r ferch dreulio amser mewn uned ddiogel wedi'r ymosodiad.
Wrth gyflwyno’r ddedfryd, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC mai “mater o lwc oedd hi na chafodd [y ferch] anafiadau gwaeth… neu yn wir lwc na chafodd hi ei lladd”.
Geiriau 'ofnadwy'
Wrth siarad â’r ferch yn y doc, ychwanegodd: “Gan i chi feddwl fod y person roeddech yn ystyried yn gariad i chi wedi dod o hyd i gariad arall, fe wnaethoch, yn gyntaf, bygwth ei thrywanu ar Snapchat.
“Ac yna… dyna’n union y gwnaethoch. Fe wnaethoch chi ei thrywanu sawl gwaith.”
Dywedodd fod y geiriau a ddefnyddiodd “ynglŷn â ‘pe byddet ti’n feichiog, fyddet ti ddim nawr’” yn “ofnadwy”.
“'Dwi’n gwybod mai 14 oed ydych chi, ond mae’r hyn ry’ch chi wedi ei wneud mor wael,” meddai'r barnwr.
Cafodd y ferch ddedfryd o ddwy flynedd ac wyth mis mewn uned ddiogel i bobl ifanc, ac fe allai gael ei rhyddhau ar ôl cwblhau hanner y ddedfryd.
Fe roddodd y barnwr orchymyn atal mewn grym am bum mlynedd.