Streic meddygon iau i effeithio ar filoedd o apwyntiadau
- Cyhoeddwyd
Bydd miloedd o apwyntiadau a thriniaethau'n cael eu gohirio unwaith eto yr wythnos hon wrth i feddygon iau streicio.
Bydd y gweithredu diwydiannol yn dechrau am 07:00 ddydd Mercher ac yn para am dridiau.
Cafodd 22,258 o apwyntiadau allanol, a 1,467 o driniaethau eu gohirio yn ystod eu streic ddiwethaf ym mis Ionawr.
Mae undeb y BMA wedi gwrthod cynnig cyflog o 5% gan Lywodraeth Cymru, sy'n dweud nad oes rhagor o arian i'w gynnig.
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2024
Bydd gofal brys yn parhau yn ystod y streic, a fydd yn dod i ben am 07:00 ddydd Sadwrn 24 Chwefror, ond mae gofyn i'r cyhoedd i beidio defnyddio'r ysbytai oni bai eu bod angen gofal brys.
Y cyngor i gleifion yw i gadw unrhyw apwyntiadau oni bai bod rhywun o'r bwrdd iechyd yn cysylltu i aildrefnu.
Mae disgwyl i lefel staffio ysbytai yn ystod cyfnod y streic fod yn debyg i wyliau banc.
Dywedodd prif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget: "Rydym yn disgwyl i driniaethau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw gael eu heffeithio'n sylweddol yn ystod y gweithredu diwydiannol, gyda llawer o waith eisoes wedi’i ohirio.
"Yn ystod y streic ddiwethaf cafodd tua 41% o apwyntiadau cleifion allanol a 61% o lawdriniaethau eu gohirio ledled Cymru."
Yn ôl Iechyd a Gofal Digidol Cymru, roedd yna 13,700 o apwyntiadau cleifion allanol bob diwrnod gwaith yng Nghymru yn 2023 - ar ŵyl banc, fe ostyngodd y ffigwr i 317 ar gyfartaledd.
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2024
Ddydd Mercher, fe fydd tua 3,000 o aelodau'r BMA yng Nghymru yn gweithredu'n ddiwydiannol am dridiau mewn ymdrech i sicrhau cyflogau uwch.
Dywedodd Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey, cyd-gadeiryddion y BMA yng Nghymru: "Nid oes unrhyw feddyg eisiau streicio, ond tra bod y rhai sydd mewn grym yn methu â deall difrifoldeb y sefyllfa a chryfder teimladau ein haelodau, rydym yn teimlo ein bod ni wedi cael ein gadael heb ddewis."
Ychwanegon nhw: "Dydyn ni ddim yn gofyn am godiad cyflog – rydyn ni’n gofyn i’n cyflog gael ei adfer yn unol â chwyddiant yn ôl i lefelau 2008, pan ddechreuon ni dderbyn toriadau cyflog mewn termau real.
"Mae angen i gyflogau fod yn deg ac yn gystadleuol gyda systemau gofal iechyd eraill ar draws y byd i gadw a recriwtio meddygon a staff y gwasanaeth iechyd ac i ddarparu gofal y mae mawr ei angen."
'Rydym wedi cyrraedd pen tennyn'
“Yn sicr dim dyma rydyn ni eisiau bod yn ei wneud - rydyn ni eisiau bod yn y gwaith yn helpu cleifion fel rydyn ni’n gwneud bob dydd yn y gwaith," dywedodd Dr Owain Williams, sy'n gweithio yn adran pediatrig Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.
"Ond gan fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cynnig gwell i ni o ran adfer ein cyflog, y cyflog rydyn ni wedi’i golli dros gyfnod o bymtheg mlynedd, dyma’r unig opsiwn sydd gyda ni.
"Yn sicr mae’n siom ond mae o hefyd yn anghenreidiol. Rydyn ni wedi cyrraedd pen tennyn fel criw o bobl, fel gweithwyr, fel meddygon.
“Rydyn ni’n gweithio mewn amodau gwael, rydyn ni’n cael ein talu’n wael o gymharu â beth roedden ni’n cael ein talu flynyddoedd yn ôl a rydyn ni wedi cael digon i fod yn onest.
"Dyna pam mae rhai ohonon ni’n symud i bedwar ban arall y byd i dderbyn cyflog ac amodau call.
"Dwi’n deall bod effaith ar gleifion yn ystod cyfnod y streic. Mae gyda ni ffrindiau a teulu sydd ar restrau aros a dyna pam mae’r dewis i streicio yn un anodd ond rydyn ni wedi cael digon a wir wedi blino ar y sefyllfa.”
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, fod Llywodraeth Cymru "bob amser yn agored" i drafodaethau pellach.
"Rydym ni'n siomedig bod meddygon iau wedi penderfynu gweithredu’n ddiwydiannol eto yng Nghymru, ond rydym ni'n deall eu cryfder teimlad dros ein cynnig cyflog o 5%," meddai.
"Dyna'r cynnydd mwyaf gallen ni roi ar y bwrdd ac mae hynny'n adlewyrchu’r sefyllfa a gyrhaeddwyd gyda’r undebau iechyd eraill.
"Ond byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drosglwyddo’r cyllid sydd ei angen ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus."
Mae'r BMA yng Nghymru yn bwriadu cynnal streic arall ar gyfer 25 Mawrth hefyd.