Oriel: Mapiau Ynys Môn dros y canrifoedd

Ian Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ian Jones yw rheolwr casgliadau Oriel Môn

  • Cyhoeddwyd

Dros ganrifoedd mae gwneuthurwyr mapiau wedi ceisio mapio Ynys Môn.

Cyn bod unrhyw loeren yn bodoli i gymryd llun o’r awyr, roedd cartograffwyr yn dibynnu ar fesuriadau manwl iawn a siarad gyda phobl leol er mwyn dogfennu pob pentref a thref yn y man cywir.

Gyda datblygiad cwmpawdau a thelesgopau daeth cywirdeb mapiau, ac roedd gweisg argraffu yn gwneud dosbarthu yn haws, fel arfer wedi'u rhwymo fel atlasau.

Does dim rhyfedd felly fod rhai o fapiau cynharaf Ynys Môn yn edrych ychydig yn wahanol i siâp yr ynys yr ydym yn ei adnabod heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arddangosfa yn Oriel Môn tan fis Ionawr 2025

Dros y flwyddyn nesaf, mae arddangosfa arbennig yn Oriel Môn, Llangefni.

Mae Mapio Môn yn gasgliad arbennig o fapiau o'r ynys yn dyddio nôl dros 500 mlynedd.

Ian Jones, rheolwr casgliadau Oriel Môn, fu'n son wrth BBC Cymru Fyw am "y fraint" o allu arddangos casgliad mor arbennig:

"Dwi wedi synnu gweld cymaint o bobl yn dod yma yn nyddiau cynnar yr arddangosfa i weld yr hyn sydd yma.

"Yn sicr hyd yma mae'n un o'r atyniadau mwyaf poblogaidd rydym wedi ei gael.

"Rydym yn ddiolchgar i'r casglwr preifat sydd berchen y rhan fwyaf o'r mapiau am ei barodrwydd i ni arddangos yr adnoddau hanesyddol bwysig yma."

Dyma ddetholiad o rhai o'r mapiau sydd i'w gweld yn yr arddangosfa.

Ffynhonnell y llun, Oriel Môn

Map Sebastian Münster o Brydain, cyhoeddwyd yn Basle tua 1550

Daearyddwr a chartograffydd Almaenig oedd Sebastian Münster (1488-1552).

Dyma un o'r mapiau cyntaf o Ynysoedd Prydain i'w hargraffu ar wahân ac mae'n garreg filltir yn ein hanes cartograffig.

Dyma hefyd y tro cyntaf i Ynys Môn ymddangos ar unrhyw fap.

Wedi'i gynhyrchu fel engrafiad pren, mae'r map wedi'i gyfeirio gyda'r dwyrain ar y brig ac yn ymestyn i Gaeredin yn y gogledd.

Mae hefyd yn dangos Iwerddon ac arfordir gogledd Ewrop. Mae'n cynnwys yr enwau Saesneg a Lladin ar gyfer 17 o brif enwau lleoedd.

Ymddangosodd fersiwn cyntaf y map hwn yn ei atlas Geographia 1540.

Ffynhonnell y llun, Oriel Môn

Map Humphrey Llwyd o Gymru, 1588

Lluniwyd y map unigol cyhoeddedig cyntaf o Gymru gan Humphrey Llwyd (1527–1568) o Dinbych, a'i gyhoeddi yn atlas enwog Abraham Ortelius Theatrum Orbis Terrarum yn 1570.

Mae'r map yma yn ffurf lai o'r map hwnnw, a ymddangosodd yn Ad Hispaniae Et Hungariae Reges, llyfr teithio cynnar o'r Byd Cristnogol, a gyhoeddwyd yn Cologne yn 1588, gan Johannes Metellus a Michael von Eitzing.

Ffynhonnell y llun, Oriel Môn

An Atlas of England and Wales gan C. Saxton

Cyhoeddwyd yn An Atlas of England and Wales gan C. Saxton, 1587, a dyma'r map printiedig cynharaf o siroedd Môn a Chaernarfon.

Mae'n dangos y dirwedd a'r aneddiadau fel darluniau sy'n cynrychioli'r bryniau, coetiroedd, afonydd, trefi a dinasoedd a geir ar draws y sir.

Mae'r lliwio yn wreiddiol.

Ffynhonnell y llun, Oriel Môn

Map Mercator o Fôn, 1620

Ganed Gerard Mercator (1512 – 1594) ger Antwerp ac astudiodd fathemateg ac athroniaeth.

Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r term Atlas a chreodd yr amcanestyniad Mercator a oedd yn dangos yn gywir wyneb crwm y ddaear ar arwyneb gwastad.

Argraffwyd y map hwn o Fôn ar ddalen yn dangos tair o ynysoedd eraill Prydain.

Yn aml, fel sydd wedi digwydd yma, mae'r map gwreiddiol yn cael ei dorri'n bedwar, gyda phob un yn cael ei werthu ar wahân.

Mae’r testun disgrifiadol ar y cefn yn Ffrangeg ac o rifyn Ffrengig o Atlas Major gan Mercator.

Ffynhonnell y llun, Oriel Môn

The Ile of Anglesey and Canarvan Michael Drayton, 1622

Cyhoeddwyd y map prin ac unigryw hwn yn wreiddiol yn Poly Olbion gan Michael Drayton, llyfr o gerddi topograffig o Gymru a Lloegr ym 1612.

Cynhyrchwyd fersiwn estynedig gyda 10 map ychwanegol yn 1622. Un o'r rhai weithiodd ar y map oedd William Hole, a oedd wedi’i ysbrydoli gan gartograffwyr Christopher Saxton a John Speed.

Roedd Sexton yn un o'r bobl gyntaf i wnaeud map cywir o Fôn. Roedd yn mynd o amgylch yr ynys mewn cwch ac yn defnyddio cadwyni er mwyn mesur yn gywir.

Ffynhonnell y llun, Oriel Môn

Map Sirol John Cowley 1744

Cyhoeddwyd y map hwn, sy'n dangos rhai o brif ffyrdd yr ynys, yn The Geography of England gan John Cowley yn 1744.

Mae rhai o drefi a phentrefi'r ynys hefyd yn ymddangos ac wedi eu sillafu'n wahanol iawn i'r arfer.

Mae Amlwch yn cael ei alw'n 'Anbuoch' a 'Llandourodok' yn lle Llaneuddog.

Y prif reswm am y sillafu oedd fod y mapwyr yn dibynnu'n helaeth ar y bobl leol i ddweud enw'r lleoliadau ar lafar.

Gan nad oedd y mapwyr yn siarad Cymraeg, roedd yn rhaid iddyn nhw ddehongli enwau'r llefydd ar yr hyn yr oedden nhw'n glywed gan y bobl leol.

Ffynhonnell y llun, Oriel Môn

John Owen ac Emanuel Bowen, 1753

Roedd Bowen yn wneuthurwr mapiau medrus a chynhyrchiol ac roedd Owen yn gyhoeddwr a gynhyrchodd yr atlas y cymerwyd y map hwn ohono.

Mae'r panel uwchben y map yn rhoi manylion y ffordd o Lundain i Gaergybi

Ffynhonnell y llun, Oriel Môn

Map George Rollos, tua 1769

Mae'r map yma o Fôn, er ei fod yn anghywir o ran ei amlinelliad, yn rhyfeddol o fanwl ac yn cynnwys peth gwybodaeth ddefnyddiol.

Fe'i cyhoeddwyd yn atlas England Displayed yn 1769.

Pynciau cysylltiedig