Bwriad i godi dros 70 o dai yn Aberystwyth yn 'drasiedi'

Elin Mabbut
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elin Mabbut y byddai'n 'drasiedi' pe bai'r tai yn cael eu hadeiladu

  • Cyhoeddwyd

Mae grŵp o ymgyrchwyr sy'n ceisio atal tai rhag cael eu hadeiladu ar ddarn o dir yn Aberystwyth yn addo parhau â'u brwydr i amddiffyn "ardal gymunedol bwysig".

Yn 2021 fe wnaeth Cyngor Ceredigion – ar y cyd gyda Wales and West Housing – gyflwyno cais cynllunio ar gyfer dros 70 o dai ar Erw Goch.

Roedd yr ymgyrchwyr wedi gobeithio sicrhau dynodiad maes pentref (village green) i'r cae.

Ond ar ôl i'w cais gael ei wrthod gan Gyngor Ceredigion, maen nhw wedi anfon llythyr at y cyngor yn amlinellu meysydd lle gellir herio'r penderfyniad mewn adolygiad barnwrol.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion dyw'r cyngor "ddim yn ymwybodol o unrhyw fwriad presennol nac yn y dyfodol i gyhoeddi achos cyfreithiol".

'Colled fawr i'r gymuned'

Mae Erw Goch yn gae yn Waunfawr uwchlaw pentref Llanbadarn Fawr.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, cafodd y cae ei brynu yn yr 1960au gan yr hen Gyngor Sir Aberteifi er mwyn ei ddatblygu at bwrpas addysgiadol.

Ond ers degawdau mae Erw Goch wedi cael ei defnyddio gan bobl leol ar gyfer gwahanol weithgareddau hamdden.

Ar ôl i'r cais cynllunio gael ei gyflwyno, daeth grŵp o bobl leol at ei gilydd i wrthwynebu'r cynllun gan ddweud bod y cae yn bwysig iawn i'r gymuned.

erw goch
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr wedi anfon llythyr at y cyngor yn amlinellu meysydd lle gellir herio'r penderfyniad mewn adolygiad barnwrol

Mae Elin Mabbutt wedi byw ger Erw Goch ers 12 mlynedd, ac mae'n aelod o'r grŵp ymgyrchu.

Dywedodd bod y cae wedi bod yn bwysig i'w theulu ers iddyn nhw symud i fyw gerllaw: "Mae'n lle saff i'r plant chwarae, ni'n cerdded y cwn yma ddwywaith y dydd, ac mae'n ardal gymunedol bwysig."

Ychwanegodd y byddai'n "drasiedi" pe bai'r tai yn cael eu hadeiladu.

"Byddai fe'n golled fawr i'r gymuned i gyd. Mae'n bwysig iawn i'r henoed achos mae'n weddol fflat, mae'n ddiogel, mae'n dda ar gyfer y plant hefyd achos mae e wedi ffensio mewn."

Sian Richards
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Sian Richards gyflwyno cais i ddynodi'r cae yn faes pentref

Fel rhan o'r ymgyrch, fe wnaeth Sian Richards gyflwyno cais i ddynodi'r cae yn faes pentref.

Pe bai'r cais hwnnw wedi llwyddo fyddai ddim modd adeiladu unrhywbeth ar y safle.

Ond ym mis Medi y llynedd, fe wnaeth cynghorwyr Ceredigion wrthod y cais.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, doedd dim modd ei ddynodi fel maes pentref gan fod y cae wedi cael ei brynu i'w ddatblygu – roedd wedi cael ei glustnodi yn y 1960au fel safle posib ar gyfer Ysgol Ramadeg Ardwyn.

Ym mis Rhagfyr, fe anfonodd bargyfreithiwr ar ran yr ymgyrchwyr lythyr at Gyngor Ceredigion yn amlinellu pwyntiau lle gallai penderfyniad y cyngor i wrthod y cais gael ei herio'n gyfreithiol.

Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae'r llythyr yn cefnogi barn y gymuned leol bod y broses arweiniodd at y penderfyniad yn wallus.

Maen nhw'n honni bod cynghorwyr wedi cael eu camarwain ac yn ychwanegu nad oedd modd i'r cyngor fod yn ddiduedd wrth wneud y penderfyniad gan ei fod hefyd yn rhan o'r cais i adeiladu ar y safle.

erw goch
Disgrifiad o’r llun,

Mae grŵp o ymgyrchwyr yn ceisio diogelu'r ardal yma o dir

Dywedodd Sian Richards: "Achos y cyngor sy' berchen y cae a'r cyngor sydd isie datblygu'r tai ar y cae, o'n i'n teimlo y dylai'r penderfyniad [ynglŷn â dynodiad maes pentref] fod wedi mynd naill ai i ymgynghoriad cyhoeddus neu at gyngor arall.

"Dylai'r cais fod wedi mynd i ymgynghoriad annibynnol o'r dechrau, fel bod dim unrhyw ragfarn wedyn."

Mewn ymateb dywedodd Cyngor Ceredigion nad yw'n derbyn yr honiad nad oedd modd iddo fod yn ddiduedd wrth wneud y penderfyniad ynglŷn â'r cais maes pentref.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae'r llythyr at y Cyngor sy'n "amlinellu bwriad i wneud cais am adolygiad barnwrol" wedi cael sylw cynhwysfawr. 

"Nid yw'r Cyngor yn ymwybodol o unrhyw fwriad presennol nac yn y dyfodol gan unrhyw barti i gyhoeddi achos cyfreithiol."

Erw goch
Disgrifiad o’r llun,

Mae cefnogwyr Erw Goch wedi dweud y byddan nhw'n parhau â'u hymgyrch i wrthwynebu'r cais i godi tai yno

Dywedodd Sian Richards nad yw'n gwrthwynebu adeiladu tai yn yr ardal yn llwyr ond ei bod hi'n meddwl nad yw Erw Goch yn addas.

"Mae sawl ardal arall sy'n fwy addas dwi'n meddwl," meddai.

"Mae 'na ddatblygiad tai wedi dechrau jyst lawr y ffordd. Mae cae arall ar y cynllun datblygu lleol, maen nhw'n dymchwel Bodlondeb (cyn-gartref gofal) er mwyn adeiladu mwy o dai, felly mae opsiynau eraill ar gael."

Mae cefnogwyr Erw Goch wedi dweud y byddan nhw'n parhau â'u hymgyrch i wrthwynebu'r cais i godi tai yno.

Dywedodd Elin Mabbutt: "Mae pocedi dwfn gyda'r cyngor, maen nhw'n sefydliad sy'n hapus i ddefnyddio arian cyhoeddus i ymladd yn erbyn y trigolion lleol, rhywbeth na allwn ni wneud ein hunain.

"Mae'n sefyllfa Dafydd a Goliath, ond ni'n mynd i barhau â'r ymgyrch."

Pynciau cysylltiedig