Canlyniadau TGAU Cymru wedi gwella ychydig ers y llynedd

Ysgol y Strade
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol y Strade yn Llanelli yn derbyn eu canlyniadau fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y dysgwyr yng Nghymru sydd wedi cael y canlyniadau TGAU gorau wedi cynyddu ychydig ers y llynedd.

Eleni roedd 62.5% o raddau dysgwyr rhwng A* ac C - 0.3% o gynnydd ar ganlyniadau 2024.

Mae disgyblion yn derbyn eu canlyniadau TGAU ddydd Iau ar drothwy newidiadau mawr i'r drefn gymwysterau yng Nghymru.

Mae pynciau TGAU wedi cael eu hailwampio i gydfynd â'r cwricwlwm newydd, a bydd y don gyntaf o gymwysterau yn dechrau cael eu dysgu o fis Medi.

Yr wythnos ddiwethaf roedd graddau Safon Uwch yn debyg i 2024, ond yn uwch nag yn 2019.

Y manylion yn llawn

  • A* i A – 19.5%

  • A* i C – 62.5%

  • A* i G – 96.9%

Mae cyfradd y graddau C neu uwch yn parhau'n is yng Nghymru nag yn Lloegr.

Yn Lloegr roedd 67.1% o'r canlyniadau yn radd 4 - y canlyniad cyfatebol i C yno - neu uwch, tra mai 62.5% oedd y ffigwr yng Nghymru.

Ond mae'r ffigwr wedi gostwng yn Lloegr o'i gymharu â 2024, ble mae wedi cynyddu ychydig yng Nghymru.

Ar draws Cymru gyfan roedd llai o arholiadau wedi cael eu sefyll yn 2025 o'i gymharu â 2024.

Ar gyfer pwnc Cymraeg iaith gyntaf, fe wnaeth llai o ddisgyblion sicrhau gradd A*-C eleni, ond roedd cynnydd bychan o ran Cymraeg ail iaith.

Roedd gwelliant bychan hefyd ar gyfer pwnc Saesneg, tra bod Mathemateg a Rhifedd wedi aros ar lefel debyg i 2024.

Ymysg y pynciau sydd wedi gweld llai yn sefyll arholiadau eleni mae Astudiaethau Crefyddol ac Addysg Gorfforol.

Ar y pen arall, mae'r nifer fu'n astudio ieithoedd tramor fel Ffrangeg a Sbaeneg wedi cynyddu.

Roedd 22,695 wedi gwneud y Fagloriaeth Gymreig - 98% o'r rheiny wedi sicrhau'r cymhwyster, a 87.2% wedi cael gradd A*-C.

Lynne Neagle
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lynne Neagle (ail o'r dde) yn Ysgol y Strade i weld disgyblion yn derbyn eu canlyniadau fore Iau

Tra'n cwrdd â disgyblion yn Ysgol y Strade yn Llanelli, dywedodd yr ysgrifennydd addysg Lynne Neagle: "Llongyfarchiadau a da iawn chi bawb sydd wedi derbyn eu canlyniadau heddiw.

"Dw i'n gobeithio eich bod wedi cael y graddau roeddech chi eu heisiau, a ph'un a ydych chi am benderfynu parhau ag addysg, dewis hyfforddiant galwedigaethol neu fynd i mewn i gyflogaeth, mae yna lawer o opsiynau ar gael.

"Rydyn ni wedi gweld rhai canlyniadau cryf yn ein graddau uchaf ac ar draws ystod o bynciau, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.

"Arwydd cadarnhaol ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir o ran cyrhaeddiad yn ein hysgolion.

"Dw i hefyd eisiau talu teyrnged i'n hathrawon a'n gweithlu addysg y mae eu cefnogaeth a'u gwaith caled wedi helpu ein dysgwyr i ffynnu."

'Cefnogaeth ar gael'

I ddisgyblion sydd ddim yn siŵr o'u camau nesaf, dywedodd y cynghorydd gyrfaoedd Dylan Evans bod modd siarad â chynghorwyr Cymru'n Gweithio am ddim.

"Fy nghyngor i rieni pobl ifanc sy'n casglu eu canlyniadau TGAU yr wythnos hon yw gwrando a thawelu eu meddyliau," meddai.

Dywedodd bod "cefnogaeth ar gael ar gyfer beth bynnag maen nhw am ei wneud nesaf - ac os oes angen iddyn nhw newid eu cynllun, mae hynny'n iawn hefyd."

Ian Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ian Morgan fod y diwygiadau sydd ar y gweill i gymwysterau yn "gyfle cyffrous iawn i ddysgwyr"

Cyn i'r ffigyrau gael eu cyhoeddi, dywedodd Ian Morgan, prif weithredwr prif fwrdd arholi Cymru CBAC, ei fod yn disgwyl i ganlyniadau TGAU eleni fod yn debyg i flynyddoedd cyn Covid-19.

Roedd y disgyblion blwyddyn 11 gymerodd eu TGAU yn yr haf wedi symud o'r ysgol gynradd i ysgol uwchradd pan darodd y pandemig yn 2020.

"Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld rhai heriau dros y pedair neu bum mlynedd diwethaf a dyma'r tro cyntaf gall dysgwyr ddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn ffordd sydd ddim wedi'i heffeithio gan unrhyw newidiadau eraill yn y gorffennol," meddai.

Roedd y broses o ddychwelyd yn ôl i'r drefn 'normal' ar ôl y pandemig yn fwy graddol yng Nghymru nag yn Lloegr.

Gwahaniaeth arall rhwng y ddwy drefn yw bod graddau TGAU yng Nghymru yn A* i G, tra bod gan Loegr system rhifau 9 i 1.

Diwygiadau yn 'gyfle cyffrous iawn'

Mae newid mawr ar y gweill i gymwysterau yng Nghymru o fis Medi i gydfynd gyda'r cwricwlwm newydd sydd wedi cael ei gyflwyno mewn ysgolion ers tair blynedd.

Ymhlith y don gyntaf o ddiwygiadau o fis Medi mae TGAU newydd sydd yn cyfuno Cymraeg iaith a llenyddiaeth a Cymraeg Craidd - cymhwyster newydd ail iaith.

Dywedodd Mr Morgan fod y diwygiadau yn "gyfle cyffrous iawn i ddysgwyr".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig