Eisteddfod: Coroni'r Bardd fydd prif seremoni dydd Llun

Mae'r goron wedi'i dylunio a'i chreu gan yr un crefftwyr â'r llynedd
- Cyhoeddwyd
Coroni'r prifardd buddugol fydd prif seremoni Eisteddfod Wrecsam ddydd Llun a hynny am bryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau.
'Adfeilion' oedd y testun gosod a'r beirniaid eleni yw Ifor ap Glyn, Siôn Aled a Gwyneth Lewis.
Mae'r tri beirniad yn brifeirdd - fe enillodd Ifor ap Glyn y goron yn Eisteddfod Môn 1999 - am ei gerdd "Golau yn y Gwyll", ac yn Eisteddfod Sir Ddinbych 2013 am ei gerdd "Terfysg" - "Rhywun" oedd ei ffugenw y tro cyntaf a "Rhywun Arall" yr eildro.
Enillodd Siôn Aled goron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'i chyffiniau yn 1981 am bryddest ar y teitl "Wynebau" ac yn 2012 yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg enillodd Gwyneth Lewis y goron am ddilyniant o gerddi ar y testun "Ynys".
Mae'r goron yn cael ei noddi gan Elin Haf Davies a bydd y wobr ariannol o £750 yn cael ei chyflwyno gan Prydwen Elfed Owens.

Roedd Elan Rowlands yn un o'r rhai oedd yn gyfrifol am goron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn 2024 hefyd
Mae'r goron eleni wedi'i chreu gan Neil Rayment ac Elan Rowlands - y ddau a greodd goron Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024.
Mae hi wedi'i hysbrydoli gan y ffosiliau hynafol gafodd eu darganfod yng Nghoedwig Brymbo – sy'n dyddio'n ôl dros 300 miliwn o flynyddoedd i'r cyfnod Carbonifferaidd.

Mae dyddiadau allweddol yn hanes Wrecsam wedi'u hymgorffori yn y goron
Yn amgylchynu'r goron mae patrwm organig ailadroddus ac o fewn y patrymau mae dyddiadau allweddol sy'n nodi cerrig milltir pwysig yn hanes Wrecsam.
Mae rhain yn cynnwys dechrau chwyldro diwydiannol Wrecsam yn 1782 a chychwyn adeiladu Traphont Pontcysyllte yn 1795.
Mae hefyd yn cynnwys dyddiad sefydlu Clwb Pêl-droed Wrecsam yn 1864, lansio Lager Wrecsam yn 1882 a'r flwyddyn y creodd James Idwal Jones yr atlas hanesyddol cyntaf o Gymru yn 1900.
Mae'r gair WRECSAM wedi'i osod ar draws y goron sy'n deyrnged i'r arwydd "Wrexham" arddull Hollywood eiconig gafodd ei ddatgelu yn 2021.

Helen Prosser yn cofleidio ei mab, Gwynfor Dafydd, ar ôl iddo gael ei enwi fel enillydd y Goron yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
Os bydd teilyngdod bydd y bardd buddugol yn cael ei gyfarch gan y prifardd Gwynfor Dafydd - enillydd y goron yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024.
Yn ôl y traddodiad, ar ddechrau seremoni'r coroni fe fydd cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd - Cernyw, Llydaw, Yr Alban, Iwerddon ac Ynys Manaw - a gorsedd y Wladfa yn cael eu cyflwyno i'r Archdderwydd a'u croesawu i'r Eisteddfod.
Rachel Thomas fydd yn cyflwyno'r Corn Hirlas i'r Archdderwydd, sef symbol o'r gwin a estynnir i groesawu'r Orsedd. Bydd hi'n cael ei hebrwng gan y macwyaid Gruffydd a Steffan Thomas.
Bydd y flodeuged a chynnyrch y meysydd - symbol o ddymuniad ieuenctid Cymru i gynnig blagur eu doniau i'r Eisteddfod - yn cael eu cyflwyno gan Elin Tesni Bartlett a'i llawforynion Gwenllian Bostock ac Eiri-Haf Jones.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024
- Cyhoeddwyd17 Mehefin
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl