Uchafbwyntiau'r haf ar blatfform digidol Am

Alun Llwyd, prif-weithredwr AmFfynhonnell y llun, Alun Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Alun Llwyd, prif-weithredwr Am

  • Cyhoeddwyd

Fis Mehefin eleni, fe lansiodd Am, dolen allanol wefan newydd i gyd-fynd â phen-blwydd y gwasanaeth yn bump oed.

Bwriad y Am yw bod yn 'gartref digidol i ddiwylliant Cymru', gan roi platfform i bob math o gynnwys creadigol, o gerddoriaeth i gelf, ffilmiau a straeon.

Mae amrywiaeth o sefydliadau o fyd cerddoriaeth, llenyddiaeth a theatr Cymru yn cyhoeddi cynnwys ar y platfform.

A hwythau wedi cael haf prysur, fe ofynnon ni i'r prif-weithredwr Alun Llwyd ddewis rhai o uchafbwyntiau'r wefan dros y misoedd diwethaf:

Olion III: Y Fam

Olion III: Y FamFfynhonnell y llun, Am / Cwmni'r Frân Wen

Epilog Olion, chwedl gyfoes mewn tair rhan gan Frân Wen. Ffilm fer sy'n cyfuno deunydd o rannau I a II wrth i ni ddilyn stori teulu cyffredin o Fangor.

Ond beth sy'n digwydd pan fydd siwrne seicedelig yn trawsnewid Hirael i mewn i fyd ffantasi Caer Arianrhod?

Uchafbwyntiau Gŵyl Tawe 2025

Poster Gŵyl TaweFfynhonnell y llun, Gŵyl Tawe

Ffilm arbennig yn ail-fyw uchafbwyntiau Gŵyl Tawe 2025, yn cynnwys artistiaid fel Los Blancos, Gruff Rhys, Adwaith a mwy.

Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2025

Llyfr y FlwyddynFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru / Am

Mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, cafodd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2025 ei ffrydio yn fyw o Theatr y Sherman, Caerdydd ar Am.

Dewch i adnabod rhai o enillwyr y noson yma.

I Siarad – Frances Abigail Bolley

Frances Abigail BolleyFfynhonnell y llun, Frances Abigail Bolley
Disgrifiad o’r llun,

Frances Abigail Bolley

Fideo cerddoriaeth ar gyfer sengl gyntaf yr artist gwerin cyfoes yn y Gymraeg, a ariannwyd gan gronfa fideos PYST x S4C. Mae Frances hefyd yn Artist y Mis ein partner strategol, Celfyddydau Anabledd Cymru, ar hyn o bryd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.