Am yn 5 oed: Uchafbwyntiau 'cartref digidol diwylliant Cymru'

- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaeth Am yn dathlu pen-blwydd yn bump oed eleni, ac yn nodi'r garreg filltir trwy lansio gwefan newydd a mwy.
Uchelgais y llwyfan yw bod yn 'gartref digidol i ddiwylliant Cymru'.
Yn ôl Am mae gan dros 480 o sefydliadau creadigol bresenoldeb ar y platfform, sy'n ofod agored i gyhoeddi a darganfod cerddoriaeth, celf, ffilmiau a straeon – a'r bobl y tu ôl iddynt.
Yn siarad ar raglen Dros Ginio yr wythnos hon, fe wnaeth Alun Llwyd, prif weithredwr Am, egluro mwy am y gwasanaeth a'u gobeithion am y dyfodol.
"Mae'n blatfform i bawb ei ddefnyddio. Mae'n agored, mae'n ddemocrataidd ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
"Rydan ni'n ei weld fel gwasanaeth nid yn unig i hyrwyddo'r cyfryngau ond hefyd i sicrhau fod lleisiau ar yr ymylon a chreadigrwydd cymunedau yn cael eu hadlewyrchu.
"Mae pobl angen y BBC ac S4C, ond mae pobl hefyd angen gofod fel Am sy'n ofod cyfranogol ble mae cyfle i bobl fynegi lleisiau a chreadigrwydd yn hwylus."

Alun Llwyd, Prif Weithredwr Am
Fel rhan o ddathliadau yr wythnos hon, mae partneriaethau creadigol newydd hefyd wedi eu cyhoeddi. Meddai Alun:
"Rydan ni'n dathlu'r pum mlynedd gyda gwefan newydd, gŵyl ffilmiau newydd a phartneriaethau newydd.
"Fe wnaethon ni roi galwad agored allan am syniadau i'r ŵyl ffilmiau gyda chefnogaeth Cyngor y Celfyddydau. Fe gafon ni dros 100 o geisiadau i'r gronfa – gan enwau oedd ddim yn enwau cyfarwydd ym myd ffilm Cymru.
"Mae'n dangos y diddordeb sydd yna am fynegiant cymunedol, a'r angen am blatfform fel Am i gynrychioli a darlledu y mynegiant cymunedol yna."
Felly beth sydd i'w ddarganfod ar Am?
I nodi'r pen-blwydd fe ofynnodd Cymru Fyw i Alun ddewis rhai o uchafbwyntiau diweddar y llwyfan.
1. Pwy Ydw I Heddiw? – Ffion Pritchard
I gyd-fynd â lansiad ein gwefan newydd, rydym wedi darlledu pedair ffilm fel rhan o don gyntaf gwyl ffilmiau ddigidol AmCam.
Ymysg y rhain mae ffilm iaith Gymraeg hyfryd, dolen allanol gan y gwneuthurwr ffilm Ffion Pritchard, sydd yn trafod prosiect creadigol sy'n anelu i godi hyder merched ar ffurf sesiynau creadigol ym Mangor.

2. Yr Hen Iaith – Cyfres 3
Podlediad gweledol hwyliog, dolen allanol am hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda'r Americanwr Jerry Hunter yn dysgu Richard Wyn Jones am drysorau'i iaith ei hun.
Mae wedi cyrraedd dros 60 o benodau erbyn hyn – a gan mai William Williams, Pantycelyn yw pwnc y bennod ddiweddaraf, nid yw'n debygol o ddod i ben yn fuan!

3. Adroddiad o Chwarel Ithfaen ym Mhenmaenmawr a Phroblemau Llwch i Dai Cyfagos
Darn hynod ddifyr o realaeth ffuglennol gan Kayley Roberts, dolen allanol sy'n ymchwilio i themâu a ysbrydolwyd gan ffilm hanesyddol o gymunedau chwarel o Archif Darlledu Cymru.
Comisiynwyd y gwaith gan y mudiad Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru.

4. Artist y Mis: Evrah Rose
Ein partneriaeth gyda Chelfyddydau Anabledd Cymru yw un o uchafbwyntiau pum mlynedd cyntaf Am.
Rydym yn falch iawn o rannu gwaith arbennig ei haelodau drwy'r gyfres Artist y Mis. Y diweddaraf o'r rheiny yw'r bardd, awdur a cherddor rap, Evrah Rose., dolen allanol

5. Aleighcia Scott – Dod o'r Galon
Mae gan PYST gronfa gyda S4C sydd yn ariannu fideos cerddoriaeth cyntaf artistiaid o Gymru.
Yn ddiweddar, roedden yn falch o ariannu fideo cyntaf Aleighcia Scott, dolen allanol yn yr iaith Gymraeg.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol, neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd19 Mawrth