Dirwy i gigydd yng Ngheredigion am droseddau hylendid bwyd

Cigydd Golwg y MôrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyngor Ceredigion fod safle Golwg y Môr yng Ngheinewydd yn ymwneud â'r achos

  • Cyhoeddwyd

Mae perchnogion busnes yng Ngheredigion wedi cael dirwy o £10,000 ar ôl pledio'n euog i gyfres o droseddau hylendid bwyd.

Plediodd Sheena ac Eifion Thomas o gwmni cigydd Golwg y Môr yn euog i naw cyhuddiad.

Clywodd ynadon fod y ddau wedi anwybyddu cyfarwyddiadau swyddogion iechyd yr amgylchedd ac wedi ceisio cuddio'r troseddau.

Cafodd y ddau ddirwy o £5,000 yr un yn ogystal â gorchymyn i dalu bron i £4,500 yr un mewn costau.

Mae'r cwmni yn rhedeg mwy nag un safle yn y sir, a dywedodd y cyngor fod yr achos yn ymwneud â mwy nag un o'r safleoedd hynny.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion mewn datganiad fod pryderon wedi'u codi ynglŷn â Golwg y Môr yn dilyn archwiliad gan uwch swyddog iechyd yr amgylchedd.

Daethpwyd o hyd i beiriant pacio gwactod wedi'i labelu 'cig wedi'i goginio yn unig' yn cael ei ddefnyddio i becynnu cig amrwd.

Er i'r arfer yma gael ei wahardd gan y swyddog ar unwaith, cafodd y cyfarwyddiadau hynny eu hanwybyddu.

Yn ôl y cyngor, fe allai arfer o'r fath fod wedi arwain at werthu cigoedd wedi'u coginio a oedd wedi'u heintio.

'Gwneud sefyllfa wael yn waeth'

Clywodd ynadon hefyd fod Sheena ac Eifon Thomas wedi ceisio rhwystro'r ymchwiliad drwy beidio â chydweithio'n llawn â swyddogion a newid cofnodion mewn ymgais fwriadol i guddio troseddau.

Yn ôl yr ynadon, roedd eu hymdrechion i guddio troseddau wedi gwneud "sefyllfa wael yn waeth".

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae tîm amddiffyn y cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda busnesau i gyflawni eu gofynion cyfreithiol i ddiogelu iechyd a diogelwch y rhai sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â Cheredigion.

"Yn yr achos hwn, bu'n rhaid i'r cyngor gymryd camau ar unwaith i waredu'r risg i iechyd y cyhoedd, ac roeddent yn siomedig bod y cyngor a'r camau a gymerwyd wedi hynny gan y busnes bwyd wedi parhau i beryglu'r cyhoedd.

"Nid yw'r cyngor yn cymryd camau cyfreithiol ar chwarae bach, ac mae'r camau a gymerir yn adlewyrchu'r risg i'r cyhoedd."

Yn ogystal â'r ddirwy o £5,000 yr un, fe gafodd y ddau orchymyn i dalu gordal llys o £1,000 a £3,428 mewn costau cyfreithiol.

Pynciau cysylltiedig