'Teimlo'n rhan o gymuned' ar ôl bod mewn canolfan drochi
- Cyhoeddwyd
Mae galluogi plant i ddysgu Cymraeg yn hwyr yn cael effaith sylweddol ar yr ymdrech i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Dyna neges Llywodraeth Cymru bedair blynedd ers iddyn nhw fuddsoddi £8.8m er mwyn sefydlu canolfannau trochi hwyr ym mhob sir.
Mae plant mewn canolfannau trochi yn cael cyfle i ddysgu'r iaith mewn ychydig fisoedd fel bod digon o Gymraeg ganddyn nhw i gael addysg cyfrwng Cymraeg.
Yn ôl y llywodraeth, mae'r buddsoddiad wedi galluogi 4,000 o bobl ifanc i ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.
Ar ôl cystadlu yn y llefaru i ddysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd 2019 fe wnaeth Alys berswadio ei theulu i'w symud o addysg Saesneg i addysg Gymraeg.
"Pan o'n i'n cael fy medal ar y llwyfan fe ges i gyfweliad a doeddwn i ddim yn deall beth oedden nhw'n dweud felly fe wnes i ofyn i Mam os ga' i fynd i ysgol Gymraeg," meddai.
"Fis yn ddiweddarach doedd dim byd wedi digwydd felly fe ofynnais i eto, ac fe sylweddolodd mam fy mod i o ddifri.
"Fi'n really falch mod i wedi symud i ysgol Gymraeg, mae'n brofiad amazing."
'Fel ymuno gyda secret club'
Roedd ei brawd Evan ym mlwyddyn wyth erbyn iddo fe ddechrau addysg drochi.
"Ro'n i wedi gweld pa mor anodd oedd e i Alys felly ro'n i ar y ffens.. ar ôl gwneud trochi ac yna dechrau mynd i'r gwersi fe ddaeth e'n eitha' cyflym," meddai Evan.
"Oherwydd yr holl bethau cultural mae e fel ymuno gyda secret club.
"Mae e'n lot o hwyl a dwi'n teimlo'n rhan o gymuned Cymraeg."
Mae 'na un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg a phedair ysgol gynradd Gymraeg yng Nghasnewydd.
Ysgol Nant Gwenlli yw'r diweddara' a bydd ganddi le i dros 400 o blant pan fydd hi'n symud i safle newydd ym Mhilgwenlli ym mis Mawrth.
Mae Cyngor Casnewydd yn awyddus i hyrwyddo addysg Gymraeg ac mae Alys, Evan a phlant eraill yn sôn am eu profiad o ddysgu'r iaith mewn fideo newydd sy'n hyrwyddo addysg drochi., dolen allanol
Y cynghorydd Deb Davies yw dirprwy arweinydd Cyngor Casnewydd.
"Yn wahanol i nifer o ardaloedd eraill mae'r boblogaeth yn tyfu yma a hynny am fod pobl yn symud i weithio yma," meddai.
"Mae 'na swyddi technoleg da yma gyda chwmnïau fel Microsoft.
"Mae pobl yn dweud wrtha'i eu bod nhw eisiau teimlo fel tase nhw'n perthyn i Gymru ond maen nhw yn poeni y bydd addysg Gymraeg yn rhy anodd i'w plant felly mae hi'n wych i fedru dweud wrthyn nhw am addysg drochi."
'Math yma o gefnogaeth yn hanfodol'
Mae'r neges yr un mor bwysig i deuluoedd lleol o gefndiroedd gwahanol, meddai, ac mae Elin Maher o fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn cytuno.
"Mae'n bwysig ein bod ni yn adlewyrchu bod addysg Gymraeg i bawb drwy ein systemau addysg ni.
"Maen hanfodol bod gyda ni'r math yma o gefnogaeth i'r teuluoedd hyn."
Tra bod y nifer sy'n cael addysg drochi hwyr yn fychan o gymharu â phlant sy'n dechrau eu haddysg yn Gymraeg, maen nhw'n allweddol meddai.
"Ry ni'n gweld gostyngiad yn nifer y plant sy'n cael eu geni ar draws Cymru a bydd yna lefydd gweigion wedyn yn ein hysgolion felly ni'n gweld hyn yn fodd i ddod a niferoedd pellach i fewn."
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr
Rhiannon England sy'n gyfrifol am addysg drochi hwyr yn Ysgol Gyfun Gwent Is-Coed, ac mae hi'n dweud bod y buddsoddiad mewn canolfannau trochi wedi gwneud gwahaniaeth.
"Mae'n golygu fod gyda ni ganolfan penodedig yn yr ysgol lle mae gyda ni pob math o dechnoleg ac mae e wedi caniatáu i fi rwydweithio gyda dysgwyr ac athrawon trochi reit ar draws Cymru a rhannu arfer da gyda nhw."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae addysg drochi yn allweddol i'n nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Mae effaith canolfannau trochi hwyr ar gyrraedd y targed hwn wedi bod yn sylweddol, ac mae'r galw am y ddarpariaeth wedi tyfu gryn dipyn.
"Dyma pam rydyn ni wedi buddsoddi £8.8m dros y 4 blynedd diwethaf i gefnogi'r gwaith o sefydlu darpariaeth drochi hwyr ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.
"Mae'r buddsoddiad hwnnw wedi cefnogi dros 4,000 o ddysgwyr i gael addysg cyfrwng Cymraeg a dod i siarad yr iaith."