Arian i helpu gweithwyr dur sy'n 'brwydro' gyda'u hiechyd meddwl

Mae Chris Curtis yn dweud ei fod wedi dysgu i flaenoriaethu ei iechyd meddwl ers colli ei swydd
- Cyhoeddwyd
Pan glywodd Christopher Curtis y byddai'n colli ei swydd gyda Tata Steel, roedd yn ddechrau cyfnod o "frwydro" gyda'i iechyd meddwl.
Ar ôl gweithio ym Mhort Talbot ers saith mlynedd, mae'n un o gannoedd sydd wedi colli eu swyddi ers diffodd ffwrneisi chwyth y safle dur chwe mis yn ôl.
Wrth gychwyn ei fusnes newydd fel garddwr, dywedodd y gŵr 42 oed o Lanelli ei fod wedi "dysgu i flaenoriaethu ei iechyd meddwl" o ganlyniad i'w brofiadau dros y misoedd diwethaf.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mwy na £3m i wella gofal iechyd meddwl i weithwyr dur ym Mhort Talbot.
Cyhoeddodd Tata gytundebau newydd i gwmniau lleol yr wythnos hon ar gyfer gwaith paratoi i godi ffwrnais drydanol.
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd16 Chwefror
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
Dywedodd Mr Curtis ei fod wedi treulio misoedd yn pryderu am ei allu i dalu biliau a chefnogi ei deulu ar ôl darganfod ei fod yn debygol o golli ei swydd yn y gwaith dur.
"Fe wnes i frwydro gyda fy iechyd meddwl am sbel, i fod yn onest. Ges i drafferth yn feddyliol ac fe gymerais ychydig o amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd roeddwn i o dan gymaint o straen."
Fe ofynnodd am gymorth gan gyn-swyddog iechyd meddwl a lles Tata Steel, Martyn Wagstaff, a helpodd i sylweddoli bod yna obaith a "dyddiau gwell o'i flaen", meddai.
"Penderfynais i ddechrau fy musnes garddio llawn amser wedi i fi adael Tata.
"Wedi'r profiadau yma dros y misoedd diwethaf, dwi wedi dysgu bod arian yn gallu bod yn help mawr ond mae eich iechyd meddwl yn bwysicach fyth," meddai.

Dywedodd Martyn Wagstaff bod hyd at 50 o bobl yn aml yn dod i'w sesiynau iechyd meddwl mewn clybiau chwaraeon lleol
Ar ôl colli ei rôl fel swyddog iechyd meddwl Tata Steel ar ddiwedd 2024, fe benderfynnodd Martyn Wagstaff ddefnyddio ei sgiliau a'i brofiadau i gychwyn ei fusnes gofal iechyd meddwl.
Tra'n gweithio i Tata, dywedodd ei fod wedi helpu dros 100 o weithwyr dur yn ystod dwy flynedd heriol i'r staff.
"Mae cael grŵp o ddynion a menywod mewn ystafell gyda'i gilydd ac yn rhannu eu straeon o flaen ei gilydd, yn brofiad eithaf anarferol yn y math yna o amgylchedd.
"Ers gadael, dwi'n parhau i gael sgyrsiau gyda nifer o weithwyr a chyn-weithwyr wrth iddyn nhw geisio symud ymlaen o ddatblygiadau'r misoedd diwethaf," meddai.
"Mae llawer o aelodau'r clybiau chwaraeon o gwmpas fan hyn yn dal i weithio yn Tata ac mae rhywfaint o'r ansicrwydd hwnnw o hyd ynglyn â'r hyn sy'n digwydd o fewn y diwydiant dur."

Cafodd ffwrnais chwyth rhif 4 ym Mhort Talbot ei ddiffodd ar 30 Medi 2024
Er gwaethaf pryderon dros ddyfodol dur Prydeinig, fe gymerodd cynlluniau Tata i godi ffwrnais arch drydanol gam ymlaen yr wythnos hon.
Fe gadarnhaodd Tata gytundebau newydd gyda thri chwmni lleol a fydd yn sicrhau 300 o swyddi, medden nhw.
Ers cyhoeddi cynlluniau i ail-strwythuro'r busnes ym Medi 2023, mae 1,800 o weithwyr wedi gadael y cwmni ar draws y DU.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens AS: "Wrth i nifer y bobl sy'n gadael y gwaith dur gynyddu, gallai'r galw [am wasanaethau iechyd meddwl] gynyddu hefyd, ac rydyn ni yna i gwrdd a'r galw yna gyda gwasanaethau i helpu pobl."
Ychwanegodd y byddai'r cymorth mewn tair ffurf: "Byddwn ni'n recriwtio cwnselwyr i fod yn rhan o'r hwb [yn Aberafan] ar y rheng flaen yn helpu pobl, bydd arian yn benodol ar gyfer ysgolion fel bod plant sydd â theulu sy'n cael eu heffeithio yn gallu cael cefnogaeth, ac yna bydd mwy o wasanaethau yn cael eu cynnig drwy grwpiau cymunedol, elusennau a'u tebyg yn ddibynnol ar ba fath o wasanaethau sydd eu hangen."