Pwysau 'anferthol' wrth i ASau bleidleisio ar gymorth i farw
- Cyhoeddwyd
Bydd ASau yn pleidleisio yn San Steffan ddydd Gwener ynghylch a ddylid caniatáu i oedolion sy'n derfynol wael gael cymorth i ddod â'u bywydau eu hunain i ben.
Byddai’n newid cymdeithasol aruthrol, sy'n cael ei gymharu gan lawer â digwyddiadau fel cyfreithloni erthyliad neu ddileu’r gosb eithaf.
Bydd gwleidyddion yn cael pleidlais rydd, sy'n golygu mai nhw sy'n cael dewis fel unigolyn yn hytrach na chael arweiniad gan eu plaid wleidyddol.
Mae canlyniad y bleidlais yn y fantol, gyda llawer o ASau yn dal heb benderfynu.
Mae Llinos Medi, sy'n cynrychioli Ynys Môn dros Blaid Cymru, eto i benderfynu sut y bydd hi'n pleidleisio.
Esboniodd bod y profiad o golli ei thad yn flaenllaw yn ei meddwl a'i bod yn ystyried barn ei hetholwyr yn ofalus.
Mae hi'n ymwybodol na fydd ei phenderfyniad yn plesio pawb.
“Rwy’n cael fy ethol i wneud y penderfyniadau hynny ac mae’n rhaid i mi gymryd y cyfrifoldeb hwnnw oherwydd gwnes i gynnig fy hun ar gyfer hynny.
"Mae hwn yn benderfyniad enfawr i’w wneud ac mae angen i mi wneud yn siŵr fy mod yn gallu gwneud y penderfyniad hwnnw gan wybod yn llawn deimladau pobl Ynys Môn."
Un pryder allweddol iddi, meddai, yw gallu meddyliol person i wneud dewis i ddod â’i fywyd ei hun i ben tra’n profi salwch terfynol.
Mae amserlen dynn y bil hefyd yn “anffodus”, meddai.
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
Mae AS Llafur Bro Morgannwg, Kanishka Narayan yn dweud bod pwysau’r penderfyniad y mae’n rhaid iddo ei wneud yn “anferthol”.
“Rwy’n teimlo pwysau nid yn unig y penderfyniad ynddo’i hun ond y ddau beth rwy’n meddwl bod fy rôl yn ymwneud â nhw: yn gyntaf, pwyso a mesur y farn yn y Fro ac yn ail, ceisio gwneud popeth o fewn fy ngallu i gael barn arbenigol dda yn seiliedig ar fewnbwn eraill ar beth yw'r ateb cywir."
Mae e wedi bod yn mynychu digwyddiadau gydag arbenigwyr, grwpiau ymgyrchu, gweithredwyr hawliau anabledd a gweithwyr meddygol proffesiynol, yn ogystal â chynnal nifer o ddigwyddiadau gwrando gydag etholwyr.
“Y darn sy’n tawelu fy meddwl yw ffocws cul y mesur o ran i bwy mae’n berthnasol,” meddai’r AS.
“Y rhan yr wyf yn dal yn ansicr yn ei gylch yw a yw ein gweithwyr meddygol proffesiynol yn mynd i fod mewn sefyllfa lle gallant wirioneddol asesu a yw rhywun wedi rhoi caniatâd heb bwysau ac a allant wirioneddol asesu pa mor angheuol yw'r salwch.”
'Cefnogi safiad' ffrind aeth i'r Swistir
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, fe rannodd Rory Francis o Benbedw, ei brofiad o weld ei ffrind, Bob Cole yn teithio i'r Swistir i dderbyn cymorth i farw yn 2015.
Dywedodd ei fod wedi nabod Bob ers ugain mlynedd a bod y ddau wedi cydweithio tipyn fel cynghorwyr tref Ffestiniog.
Roedd gan Bob Cole, a gafodd ei fagu ym Manceinion, mesothelioma, canser yr ysgyfaint o ganlyniad i asbestos, ac wrth iddo wynebu marwolaeth araf a phoenus fe "benderfynodd o fynd i'r Swistir".
Fe wnaeth Mr Cole ddweud wrth bapur newydd y Sun mai ei ddymuniad olaf oedd gweld y ddeddf yn newid yn y DU.
"Mi wnaeth o hyn er mwyn tynnu sylw at y broblem, a dweud na ddylai pobl orfod teithio i'r Swistir," meddai Mr Francis.
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "cefnogi ei safiad" ac o'r farn y dylai ASau bleidleisio o blaid y pwnc ddydd Gwener.
Dywedodd fod "nifer o bobl yn cael cam" am nad ydyn nhw'n medru fforddio teithio i'r Swistir.
"Roedd Bob Cole yn gallu fforddio gwario miloedd o bunnau i fynd i'r Swistir, ond mae nifer o bobl yn methu gwneud hynny.
"'Da ni'n siarad am bobl sy'n anffodus yn marw, sy'n mynd i farw yn reit sydyn ac sydd jyst isho'r hawl i benderfynu sut."
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Os bydd pleidlais o blaid y bil ddydd Gwener bydd yn destun misoedd o graffu a bydd yn rhaid iddo basio sawl cam arall cyn y gall ddod yn gyfraith.
Nid yw’n glir eto a fyddai angen pleidlais gydsynio yn Senedd Cymru ar gyfer y mesur hefyd.
Ym Mae Caerdydd fis diwethaf, pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd yn erbyn cynnig symbolaidd i gefnogi cyfraith newydd a fyddai'n caniatáu'r hawl i ddewis cael marw.