Dyn yn cyfaddef anafu drwy yrru peryglus ar ôl taro maes pebyll

Maes Gwersylla Niwgwl
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd naw o bobl eu hanafu pan darodd car Jack Hale faes gwersylla yn Niwgwl ym mis Awst 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 19 oed wedi cyfaddef achosi anaf drwy yrru'n beryglus ar ôl i'w gar daro maes gwersylla yn Sir Benfro yn 2023.

Cafodd naw o bobl eu hanafu pan adawodd car Ford Fiesta yr A487 yn Niwgwl nos Sadwrn, 12 Awst 2023, gan daro pebyll ar safle Newgale Campsite.

Fe wnaeth babi oedd yn cysgu mewn pabell gafodd ei tharo gan y car osgoi anaf difrifol.

Roedd teithwyr yn y car ymhlith y rhai gafodd eu hanafu yn y digwyddiad.

Yn Llys Ynadon Hwlffordd fe blediodd Jack Hale o Hwlffordd yn euog i bedwar cyhuddiad o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth, a bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ym mis Gorffennaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig