Y Canghellor yn amddiffyn sut mae Cymru'n cael ei hariannu

Rachel Reeves (L) yn siarad â Mark Drakeford, mewn siacedi llacharFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rachel Reeves bod Llywodraeth y DU yn barod yn gwario mwy fesul pen yng Nghymru nag yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Canghellor wedi amddiffyn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ariannu Cymru, er gwaethaf galwadau o fewn ei phlaid ei hun am newidiadau.

Fe bleidleisiodd aelodau Llafur Cymru ym mis Mehefin dros ddiwygio'r system sy'n pennu faint o arian y mae Llywodraeth Cymru'n ei gael gan y Trysorlys.

Ond fe ddywedodd Rachel Reeves fod Llywodraeth y DU eisoes yn gwario "mwy fesul pen yng Nghymru nag ydyn ni yn Lloegr".

Dywedodd hefyd fod anghytuno o fewn y Blaid Lafur yn iach i ddemocratiaeth.

Rachel Reeves (L) yn sefyll wrth ymyl Mark Drakeford menw hen domen glo.Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mark Drakeford gwrdd â Rachel Reeves mewn safle adfer tomen lo ddydd Iau

Ym mis Mehefin, fe gytunodd cynrychiolwyr yng nghynhadledd y Blaid Lafur i alw am newidiadau i fformiwla Barnett.

Mae'r fformiwla'n penderfynnu ar faint o arian mae Llywodraeth Cymru yn ei gael, ac mae'n seiliedig yn bennaf ar gyfran o'r boblogaeth.

Mae rhai'n dadlau nad yw'n mynd yn ddigon pell i ystyried anghenion Cymru.

Roedd y cynrychiolwyr yn galw am drafodaeth i gael fformiwla "sy'n seiliedig ar degwch, ac asesiad" o'r hyn sydd ei angen ar Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi galw am ddiwygio'r fformiwla ers tro.

'Gwario ar reilffyrdd a thomenni glo'

Fe wnaeth Ms Reeves ymweld â Dyffryn Afan er mwyn hyrwyddo gwariant £118m ei llywodraeth ar ddiogelu tomenni glo.

Wrth gael ei holi am alwadau i fwy o feysydd gael eu datganoli dywedodd: "Rydym eisoes yn gwario mwy fesul pen yng Nghymru nag ydyn ni yn Lloegr, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru i sicrhau ein bod bob amser yn cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn.

"Yn yr Adolygiad Gwariant, dim ond ychydig fisoedd yn ôl, gwnaethom y setliad mwyaf erioed i Gymru", meddai.

"Ond, yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth Lafur y DU hefyd yn gwario'n uniongyrchol yma yng Nghymru, gyda'r buddsoddiad hwnnw mewn prosiectau rheilffyrdd ac adfer y tomenni glo."

Llun o Rachel Reeves mewn siaced llachar a chap caled.Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pwysleisiodd Rachel Reeves bod Llywodraeth y DU wedi pennu arian ar gyfer rheilffyrdd Cymru a'r gwaith o adfer tomenni glo

Fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU £445m ar gyfer rheilffyrdd Cymru yn gynharach ym mis Mehefin.

Pan ddywedwyd wrthi fod aelodau'r Blaid Lafur yn anghytuno ar gyllid, ychwanegodd: "Holl bwynt datganoli yw galluogi gwahanol rannau o'r wlad, hyd yn oed o'r un blaid, gyflwyno gwahanol flaenoriaethau.

"Mae hynny'n iach mewn democratiaeth ac yn iach o dan setliad datganoli."

Bu Ms Reeves yn cwrdd â Gweinidog Cyllid Cymru, Mark Drakeford, ddydd Iau yn ystod ei hymweliad â'r safle, a dywedodd y byddai'n cwrdd â'r Prif Weinidog Eluned Morgan yn ddiweddarach.

Dywedodd Mr Drakeford mai "cyfrifoldeb sylfaenol Llywodraeth Cymru yw siarad dros y pethau sy'n bwysig yma yng Nghymru, a does dim gwahaniaeth pwy sydd mewn grym yn San Steffan".

Dywedodd hefyd y byddai angen perswadio gwledydd eraill y DU sy'n destun i'r fformiwla.

"Rydym yn cael trafodaethau cynhyrchiol, nid yn unig gyda Llywodraeth y DU, ond gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, ynghylch sut y gallwn wneud i'r system bresennol weithio'n well i ni i gyd", meddai.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds: "Mae datganiad y Canghellor heddiw yn dangos unwaith eto cyn lleied o ddylanwad sydd gan Lafur Cymru ar eu cydweithwyr yn Llundain."

Mae Plaid Cymru wedi galw'r fformiwla yn un "annheg i Gymru sydd ddim yn ystyried anghenion ein poblogaeth".

Ychwanegodd y llefarydd cyllid, Heledd Fychan AS, bod "y ffaith ein bod yn dal i orfod gofyn am gyllid teg yn dweud cyfrolau am statws Cymru o fewn undeb anghyfartal".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.