Ymgyrch Môn fel sir nawdd ar gyfer Sioe Fawr 2027 am 'godi ysbryd'

Llysgennad Sioe Frenhinol Cymru 2027, Mari Llifon Jones (chwith) a Susan Jones, Llywydd Sioe Frenhinol Cymru 2027
- Cyhoeddwyd
Ar godi ysbryd a chyfeillgarwch fydd pwyslais ymgyrch Ynys Môn fel sir nawdd ar gyfer Sioe Frenhinol 2027, meddai'r llywydd.
Cafodd yr ymgyrch ei dechrau'n swyddogol mewn digwyddiad ar faes Sioe Môn nos Sadwrn gyda dros gant a hanner o bobl yn bresennol.
Wrth siarad â rhaglen Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru dywedodd Susan Jones bod yna "fwrlwm mawr yn barod".
"Dwi ddim yn meddwl amdano fo fel cyfnod heriol ond fel cyfnod sy'n mynd i fod yn bleserus a braf," meddai.
Lluniau: Dydd Llun yn y Sioe Frenhinol 2025
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf
Lluniau hanesyddol i ddathlu 120 mlynedd o'r Sioe Fawr
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2024
"Yn y lawnsio nos Sadwrn roedd 'na chwerthin a chyfeillgarwch – ac os fedra ni gario hynny ymlaen i bob dim dros y ddwy flynedd nesa' mi fyddwn ni yn iawn.
"Mae 'na dipyn o weithgareddau wedi eu trefnu," ychwanegodd.
Ond mae Susan Jones yn derbyn fod y diwydiant amaeth – a'r economi wledig yn ehangach - yn wynebu problemau.
Mae hynny i'w weld yn rhinwedd ei gwaith fel un o ymddiriedolwyr elusen Tir Dewi.
"Mae 'na lot o dlodi yng nghefn gwlad Sir Fôn fel sydd mewn sawl sir arall - a dwi'n ymwybodol iawn o hynny," meddai.
"Ond, be' dwi'n dymuno ei weld ydy ein bod ni'n dod at ein gilydd a bod ni'n cynnal y digwyddiadau yma heb roi'r pwyslais ar y codi arian o hyd ac o hyd, ond yn medru codi ysbryd."

Logo newydd Ynys Môn fel rhan o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2027
Dywedodd eu bod wedi cynnal cwis yn ddiweddar gan godi "ychydig o gannoedd" ond "mi ddaru pobl anfon negeseuon yn deud eu bod nhw wedi mwynhau a mi oedd hynny ynddoi'i hun yn codi calon".
Mae cysylltiad Susan â'r Sioe yn mynd yn ôl ddegawdau – o fod yn cofio gwyliau blynyddol hefo'r teulu pan yn blentyn i fod yn aelod o bwyllgor rheoli'r Sioe ar ran Ynys Môn ers chwarter canrif.
"Mae'r Sioe a'r Gymdeithas wedi bod yn rhan o 'mywyd i ers blynyddoedd," meddai.
"A felly mae'n fraint aruthrol cael bod yn llywydd y flwyddyn ar ôl nesa'."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.