Mewnfudo ddim yn 'fater allweddol' yng Nghymru, yn ôl Rhun ap Iorwerth

Rhun ap Iorwerth yn gwisgo siwt glas tywyll a chrys glas golau, gyda bryniau a chaeau gwyrdd yn y cefndir.Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn arweinydd ar Blaid Cymru ers Mehefin 2023

  • Cyhoeddwyd

Dyw mewnfudo ddim yn "fater allweddol" sy'n wynebu Cymru cyn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Mewn sgwrs ar bodlediad Political Thinking awgrymodd yr aelod sy'n cynrychioli Ynys Môn yn y Senedd nad yw'r drafodaeth ar fewnfudo yn ymwneud â'r heriau sy'n wirioneddol effeithio ar fywydau beunyddiol pobl.

Ychwanegodd bod arolygon barn yn awgrymu y gallai e fod yn arwain llywodraeth leiafrifol ar ôl mis Mai, gan ddod y Prif Weinidog cyntaf yng Nghymru na sydd o'r blaid Lafur.

Daeth ei sylwadau ar ôl i Blaid Cymru ennill is-etholiad Caerffili, gan drechu Reform UK sydd wedi galw am reolaethau mewnfudo llymach.

Wrth drafod y rhaniad rhwng agwedd Plaid Cymru a Reform at fewnfudo, dywedodd Rhun ap Iorwerth nad yw'n credu bod mewnfudo'n "fater allweddol" ond yn derbyn ei fod wedi dod yn thema wleidyddol amlwg.

Dywedodd hefyd fod "methiant llywodraethau'r DU i reoli mudo a ffiniau yn fater sydd angen sylw".

Mewn ymateb i gwestiwn a oedd yn gofyn a fyddai'n cefnogi cynyddu mewnfudo i lenwi swyddi gwag, dywedodd ei bod yn naturiol bod pobl yn symud ar draws ffiniau ac y dylai llywodraethau reoli hynny'n effeithiol.

Ychwanegodd fod sectorau fel prifysgolion a gofal yn dibynnu ar fyfyrwyr a gweithwyr o dramor, ac y dylid cydnabod bod hynny, ochr yn ochr â hyfforddi pobl ifanc Cymru, yn "gadarnhaol i ni".

Wrth drafod arwain llywodraeth leiafrifol yn y Senedd newydd fydd â 96 aelod, dywedodd y byddai Prif Weinidog Cymru'n gorfod adeiladu cefnogaeth fesul mater "i roi sefydlogrwydd a symud Cymru ymlaen o dan arweinyddiaeth newydd".

Dywedodd ei fod yn falch nad oedd Seremoni Arwisgo i nodi bod y Tywysog William wedi dod yn Dywysog Cymru yn 2022, gan y gallai fod wedi "peri rhwyg".

Ychwanegodd ei fod yn Weriniaethwr o ran egwyddor ond nad yw'r mater yn flaenoriaeth wleidyddol iddo.

Gallwch wrando ar y bennod lawn yma o Political Thinking ar BBC Sounds. Bydd y bennod hefyd ar BBC 2 ddydd Gwener am 12:30 ac ar Radio 4 ddydd Sadwrn am 17:30.