Ysgol gynradd yn y de wedi gorlifo â charthffosiaeth

Mae disgwyl i ysgol Aberllydan fod ar agor ddydd Llun fel arfer.
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi ymateb i'r hyn y maen nhw'n ei alw'n ollyngiad dŵr gwastraff, mewn ysgol gynradd yn Sir Benfro.
Er bod y gollyngiad ger Ysgol Gynradd Aberllydan wedi'i drwsio, mae tîm yn dal i fod ar safle'r ysgol yn cynnal gwaith glanhau a diheintio yn dilyn y digwyddiad ddoe.
Cadarnhaodd y Cynghorydd lleol Nick Neumann i BBC Cymru fod pipell sy'n cludo gwastraff carthion o'r pentref hyd at y gwaith carthffosiaeth, wedi byrstio ddoe, a bod rhannau o'r maes chwarae ac offer y cylch chwarae wedi'u llygru â charthffosiaeth.
Dywedodd Dŵr Cymru fod eu tîm wedi bod ar y safle i atgyweirio'r brif bibell sydd wedi byrstio.

"Mae'r ardal yr effeithiwyd arni wedi'i hynysu a'i gwneud yn ddiogel," meddai llefarydd Dŵr Cymru
Canmolodd Mr Neumann yr ymateb gan Dŵr Cymru, a dywedodd ei fod wedi bod yn "gydweithredol ac yn ymatebol."
Mae disgwyl i ysgol Aberllydan fod ar agor ddydd Llun fel arfer.
Cafodd Aber-bach ei effeithio hefyd gan fater yn ymwneud â phrif bibell ddŵr wedi byrstio (mater cwbl ar wahân).
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod wedi gweld bod prif bibell garthffos wedi byrstio yn iard yr ysgol.
"Mae ein tîm wedi bod ar y safle i atgyweirio'r brif bibell," meddai'r llefarydd.
"Mae'r ardal yr effeithiwyd arni wedi'i hynysu a'i gwneud yn ddiogel, a bydd angen gosod wyneb newydd yn gynnar yr wythnos nesaf.
"Rydym wedi bod yn cysylltu â swyddogion addysg, ac ni fydd hyn yn effeithio ar y bwriad i ailagor ysgolion yfory.
"Mae'r iard gyfan wedi'i glanhau a'i diheintio ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.'"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill
- Cyhoeddwyd4 Ebrill
- Cyhoeddwyd2 Ebrill