Cyhuddo Dŵr Cymru o 'ddiffyg uchelgais' wrth ddelio â llygredd

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod am fuddsoddi £2.5bn dros y pum mlynedd nesaf i wella'r amgylchedd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi cyhuddo Dŵr Cymru o ddangos diffyg uchelgais wrth leihau llygredd dŵr.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y cwmni dŵr wedi rhyddhau carthion i afonydd, llynnoedd a moroedd am fwy na 968,000 o oriau'r llynedd - o'i gymharu â mwy na 916,000 o oriau'r flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Giles Bristow, Prif Weithredwr y grŵp amgylcheddol Surfers Against Sewage, nad oedd gan Dŵr Cymru "unrhyw gywilydd" dros faint o garthion a gafodd eu rhyddhau.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod am fuddsoddi £2.5bn dros y pum mlynedd nesaf i wella'r amgylchedd.
Cafodd Hafren Dyfrdwy, sy'n gweithredu mewn rhannau o ogledd a chanolbarth Cymru, 1,810 o ollyngiadau llynedd, oedd yn cyfateb â 17,001 o oriau.
Mae hynny'n cymharu â 1,899 o ollyngiadau yn 2023, oedd gyfystyr â 16,229 awr.
Mae'r cwmni wedi cael cais am sylw.

Mae dadansoddiad o ffigyrau Dŵr Cymru yn dangos bod carthion wedi'u gollwng 118,276 o weithiau'r llynedd - ffigwr sy'n cyfateb i gyfartaledd o fwy nag un gollyngiad bob pum munud.
Cyfanswm yr oriau y cafodd carthion eu gollwng oedd 968,340.
Yn eu hadroddiad ansawdd dŵr blynyddol, honnodd Surfers Against Sewage mai dyma'r ffigyrau uchaf ar gyfer unrhyw gwmni dŵr yn y DU.
Mae'r rheolau yn caniatáu arllwys swm cyfyngedig o garthffosiaeth mewn cyfnodau o law gormodol.
Ond mae grwpiau amgylcheddol yn parhau i boeni fod y lefelau'n achosi bygythiad i fywyd gwyllt a risg iechyd i nofwyr.
Mae'n rhaid i gwmnïau dŵr roi gwybod am orlifiadau stormydd yn flynyddol.
Fe wnaeth ffigyrau'r mis diwethaf ddangos bod cwmnïau wedi rhyddhau carthffosiaeth amrwd i afonydd a moroedd Lloegr am y lefel uchaf erioed y llynedd - 3.61 miliwn o oriau.
Roedd ffigyrau Lloegr yn datgelu mai'r ffigwr uchaf yn Lloegr yn 2024 oedd Dŵr y De Orllewin, oedd gyda 56,173 o ollyngiadau carthion am gyfanswm o 544,439 o oriau.
'Llygru ers llawer rhy hir'
Cododd biliau dŵr i gwsmeriaid Dŵr Cymru ar ddechrau mis Ebrill o 27%, gyda'r bil blynyddol cyfartalog yn codi o £503 i £639.
Dywedodd Giles Bristow, Prif Swyddog Gweithredol Surfers Against Sewage fod y "diffyg uchelgais sydd wedi cael ei ddangos gan Dŵr Cymru i leihau llygredd yn dangos nad oes ganddynt unrhyw gywilydd ynghylch y lefelau trychinebus o garthffosiaeth y maent yn ei chwistrellu i arfordir, afonydd a llynnoedd hardd Cymru."
"Mae dyfroedd Cymru wedi cael eu llygru ers llawer rhy hir a'r system gyfan sydd ar fai," meddai Mr Bristow.
Ychwanegodd fod y sefyllfa'n hollol loerig, "y bod gofyn i ni dalu mwy am helpu i lanhau ein dŵr, pan ddylai fod wedi bod yn digwydd yr holl amser"
Mae Mr Bristow eisiau i bethau gael eu "gwneud yn iawn", er mwyn "buddsoddi yn ein dyfodol".
'Gorlif bach yn cyfri'r un faint a gorlif enfawr'
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru eu bod yn "gweithredu dros 2,300 o orlifau stormydd yng Nghymru gan fod gennym nifer uchel iawn o asedau ar gyfer poblogaeth gymharol fach."
"Mae llawer o'n cymunedau gwledig yn cael eu gwasanaethu gan rwydweithiau carthffosiaeth llai a gorlifoedd stormydd, sy'n hanfodol i sicrhau nad oes gormod o straen ar rwydweithiau gan achosi llifogydd mewn eiddo."
Dywedodd y llefarydd bod gorlif bach iawn yn rhywle yng nghefn gwlad Cymru, yn cyfri'r un faint a gorlif enfawr mewn dinas yn y DU - "un y gallech ddreifio bws trwyddo."
"Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn buddsoddi £2.5bn ar brosiectau i wella'r amgylchedd, gan gynnwys £889m ar ymchwilio a gwella gorlifoedd stormydd."
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru, y rheoleiddwyr, eu bod "wedi bod yn glir iawn gyda Dŵr Cymru ei fod yn hollbwysig ein bod yn gweld newid sylweddol yn eu perfformiad, a gostyngiad sylweddol mewn achosion o lygredd."
"Ers 2021, rydym wedi israddio'r cwmni o fod yn gwmni pedair seren (arwain y diwydiant) i gwmni dwy seren (angen gwella).
Ychwanegon nhw y bydden nhw'n monitro cwmnïau dŵr yn agos dros y pum mlynedd nesaf, "gan wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen i wirio'r gollyngiadau sy'n achosi'r niwed mwyaf i'r amgylchedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
- Cyhoeddwyd27 Mawrth