Cyflenwad dŵr dros dro wedi'i sicrhau i achub camlas rhag sychu

Cwch camlas wyrdd i'w weld ar Gamlas Mynwy ac Aberhonddu yn croesi uwchben yr Afon Wysg.Ffynhonnell y llun, Beacon Park Boats / As You See It Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyfodol y gamlas yn dibynnu ar sawl ffactor ond bydd y cyflenwad yn helpu am yr wythnosau nesaf o leiaf, yn ôl Glandŵr Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae elusen wedi llwyddo i sicrhau cyflenwad dŵr dros dro i achub un o gamlesi mwyaf poblogaidd y wlad rhag sychu o fewn diwrnodau.

Mae Glandŵr Cymru, sy'n rhedeg Camlas Mynwy ac Aberhonddu, wedi cadarnhau cyflenwad dros dro o ddŵr gan Dŵr Cymru a hynny mewn "argyfwng".

Fe ddaw hyn yng nghanol dadl ynghylch sut y dylai'r atyniad hanesyddol sicrhau ei gyflenwad dŵr yn y dyfodol, ar ôl i gyfyngiadau gael eu gosod ar gymryd dŵr o Afon Wysg - sy'n amgylcheddol sensitif.

Yn ôl Cyfarwyddwr Rhanbarthol Glandŵr Cymru, Mark Evans, mae'r cyflenwad yma'n "hanfodol i sicrhau cyfanrwydd y gamlas" ond dydy'r elusen ddim yn siŵr am ba mor hir gall y cyflenwad bara.

Daeth yr anawsterau sy'n wynebu'r gamlas i'r amlwg mewn llythyr gafodd ei anfon at fusnesau lleol gan Glandŵr Cymru ym mis Chwefror.

Nododd y llythyr fod y gamlas, sy'n 225 oed, yn dibynnu ar dynnu dŵr o Afon Wysg a'i llednentydd gyda 80-90% o'i chyflenwad yn dod o un ffynhonnell ger Aberhonddu.

Mae cyflwyniad deddf ddiweddar, gafodd ei greu yn rhannol i amddiffyn afonydd yn wyneb newid hinsawdd, yn golygu bod angen trwyddedau bellach i dynnu dŵr o fannau eraill.

Trwyn cwch camlas gwyrdd dan awyr las gyda'r gamlas yn y cefndir. Mae coed ar hyd gyrion y gamlas.
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Camlas Mynwy ac Aberhonddu yn dathlu ei phen-blwydd yn 225 oed eleni

Mae Glandŵr Cymru wedi bod mewn trafodaethau brys i ddod o hyd i ateb dros dro i ddiogelu'r gamlas.

Yn rhan o'r datrysiad mae'r elusen wedi dargyfeirio arian o gynlluniau cynnal a chadw eraill.

Mewn datganiad dywedon nhw: "Pe bai'r gamlas yn sychu, gallai'r effeithiau ar y strwythur hanesyddol a'r ecoleg lewyrchus fod yn drychinebus, a chael effaith anadferadwy ar swyddi a thwristiaeth yn ne Cymru."

Y gobaith yw "cael ateb hirdymor cynaliadwy gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru", meddai'r datganiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydym yn falch o fod wedi dod i gytundeb i gefnogi Camlas Mynwy ac Aberhonddu am y gost o ddarparu'r dŵr. Ni fydd y cytundeb yn achosi costau ychwanegol i'n cwsmeriaid nac yn peryglu'r cyflenwad o ddŵr yfed dros yr haf.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag Glandŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ar ddatrysiad tymor hir i gefnogi'r gamlas."