Carchar am oes i ddyn ymosododd ar heddweision â chyllell

Disgrifiad,

Rhybudd: Fe allai'r fideo yma beri gofid i rai

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wnaeth geisio llofruddio plismon â chyllell y tu fas i orsaf heddlu wedi ei garcharu.

Cafodd Alexander Dighton, 28 oed o Lantrisant, ddedfryd oes ar ôl cyfaddef ymosod ar dri swyddog yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf fis Ionawr eleni.

Bydd yn treulio o leiaf 22 o flynyddoedd dan glo cyn cael ei ystyried am barôl, ac fe fydd hefyd yn destun amodau terfysgaeth am 30 mlynedd.

Mae wedi dod i'r amlwg bod heddlu gwrthderfysgaeth wedi holi Dighton flwyddyn cyn yr ymosodiad.

Roedd wedi cael ei holi gan swyddogion gwrthderfysgaeth ym mis Ionawr 2024, ond fe ddaethon nhw i'r casgliad nad oedd yn fygythiad i gymdeithas, ac ni chafodd ei gynnwys ar raglen gwrth-eithafiaeth Llywodraeth y DU, Prevent.

Dywedodd un o uwch swyddogion Heddlu Gwrthderfysgaeth Cymru wrth BBC Cymru nad oedd Dighton "yn ffitio'r meini prawf" i gael ei gynnwys ar y rhaglen.

Lluniau cctv o'r digwyddiad a'r arfau oedd gan DightonFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi rhyddhau lluniau o noson y digwyddiad, a'r arfau oedd gan Dighton

Clywodd llys yr Old Bailey yn Llundain bod Dighton wedi anafu tri o swyddogion yr heddlu yn yr ymosodiad y tu fas i orsaf Tonysguboriau ar 31 Ionawr eleni.

Bu'n rhaid i ddau ohonyn nhw gael triniaeth yn yr ysbyty am gyfnod.

Fe gyrhaeddodd Dighton yr orsaf gyda bwyell, polyn a nifer o ddyfeisiadau ffrwydrol neu goctel molotov.

Pan gafodd ei herio gan y PC Stephanie Fleming, dywedodd: "Dwi wedi cael llond bol."

Fe daflodd un o'r ffrwydron at fan yr heddlu, ond pan fethodd a thanio, fe ddechreuodd arllwys petrol ar gerbyd arall a'i roi ar dân.

Fe wnaeth Dighton roi cerbyd heddlu ar dân yn ystod yr ymosodiadFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dighton roi cerbyd heddlu ar dân yn ystod yr ymosodiad

Defnyddiodd bolyn pren hir i dorri ffenestri'r cerbyd, ac fe ymosododd ar un o geir yr heddlu.

Fe ymosododd ar Sarjant Richard Coleman yng nghyntedd swyddfa'r heddlu, gan ei guro yn ei ben gyda'r polyn.

Fe fwrodd blismon arall, y Ditectif Gwnstabl Joshua Emlyn.

Wrth i dri swyddog geisio ei rwystro, fe drywanodd Dighton y Ditectif Gwnstabl Jack Cotton yn ei goes.

Yn ôl y prif arolygydd Stephen Jones, o Heddlu'r De, mae'r ymosodiad yn arwydd o'r peryglon mae swyddogion yn eu hwynebu.

Dywedodd bod y swyddogion gafodd eu hanafu yn "rhyfeddol o dda", ond bod y digwyddiad wedi cael "effaith sylweddol" ar eu teuluoedd.

Roedd Dighton wedi pledio'n euog i 10 o gyhuddiadau gwahanol gan gynnwys ceisio llofruddio gyda chyllell, ymosod gan achosi niwed corfforol, a churo un o swyddogion y gwasanaethau brys.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr, Mark Lucraft KC, ei fod yn fodlon bod "cysylltiad terfysgol" i bob un o'r troseddau.

"Fe aethoch chi i'r orsaf heddlu gyda'r bwriad o achosi trais difrifol, ar ôl paratoi yn sylweddol."

Roedd 'na dystiolaeth, meddai, bod Dighton wedi bod yn chwilio arlein am bynciau fel amrywiaeth, pedoffiliaid, mewnfudo, teimladau gwrth-Islamaidd ac anfodlonrwydd gyda Llywodraeth y DU.

Dywedodd ei bod yn "glir" bod Dighton yn dal i gredu safbwyntiau eithafol, ac oni bai am y ffaith iddo bledio'n euog yn gynnar, "ychydig iawn arall sydd o'ch plaid".

Yr uwch arolygydd Andrew Williams o gynllun Heddlu Gwrth-derfysgaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yr Uwcharolygydd Andrew Williams o gynllun Heddlu Gwrthderfysgaeth Cymru

Mae'r heddlu yn credu bod Dighton wedi bod yn cynllunio'r ymosodiad am fis.

Pan gafodd ei gartref ym Mhontyclun ei archwilio gan yr heddlu, fe ddaethon nhw o hyd i lyfrau oedd yn cynnwys sylwadau yn erbyn mewnfudwyr a galwad am ddychwelyd at gymdeithas "draddodiadol".

Yn ôl yr Uwcharolygydd Andrew Williams o gynllun Heddlu Gwrthderfysgaeth Cymru, cafodd Alexander Dighton ei gyfeirio at raglen Prevent "oherwydd pryderon ynglyn a'i agweddau gwrth-fewnfudo, ei sylwadau gwrth-Islamaidd, a'i agweddau hiliol cyffredinol".

Dywedodd bod swyddogion o'r heddlu gwrthderfysgaeth wedi cynnal "asesiad manwl dros gyfnod o ryw dair wythnos" oedd yn cynnwys cyfweld â Dighton.

"Canlyniad yr asesiad hwnnw oedd, nad oedd yn ffitio'r meini prawf angenrheidiol i gael ei gynnwys ar gynllun Prevent," meddai.

"Doedd dim gwybodaeth i awgrymu y byddai'n mynd ati i gyflawni ymosodiad o'r fath."

Pynciau cysylltiedig