Ysgol Dyffryn Aman: 'Gwersi i'w dysgu' medd yr ysgrifennydd addysg

Lynne Neagle
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr ysgrifennydd addysg Lynne Neagle ei bod yn gwneud "llawer o waith yn ymwneud ag ymddygiad mewn ysgolion"

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgrifennydd addysg Cymru yn dweud y bydd "gwersi yn cael eu dysgu" ar ôl i dri o bobl gael eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Lynne Neagle ei bod yn gwneud "llawer o waith yn ymwneud ag ymddygiad mewn ysgolion" a bod "unrhyw ymddygiad treisgar yn ein hysgolion tuag at staff a disgyblion yn gwbl annerbyniol".

Dydd Llun, cafodd merch 14 oed ei dyfarnu yn euog o geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn yr ysgol yn Rhydaman ar 24 Ebrill 2024.

Cafodd Liz Hopkin, Fiona Elias a disgybl eu trywanu yn ystod amser egwyl yn yr ysgol ac fe gafodd y tri eu trin yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cadarnhau hefyd eu bod wedi cyfeirio'r achos at y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol "ac rydym yn aros am eu penderfyniad ynghylch fformat a llinell amser yr adolygiad amlasiantaeth".

Fiona Elias a Liz Hopkin
Disgrifiad o’r llun,

Y ddwy athrawes a gafodd eu trywanu - Fiona Elias a Liz Hopkin - y tu allan i'r llys wedi'r dyfarniad ddydd Llun

Dywedodd Ms Neagle ar Radio Wales Breakfast fore Mercher bod "cyfarwyddyd clir yng Nghymru ar gario cyllyll ac mae gan ysgolion yr hawl i archwilio disgyblion i weld os oes ganddyn nhw gyllyll neu arf niweidiol".

Dywedodd hefyd y gall athrawon ofyn i'r heddlu archwilio bagiau disgyblion.

"Dydw i ddim yn credu y byddai llawer o athrawon yn gyfforddus gyda swyddogion diogelwch mewn ysgolion ac os nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny [edrych ym magiau disgyblion], fe allan nhw ofyn i'r heddlu wneud hynny.

"Mae hynny'n glir yn y canllawiau," meddai.

Wrth ymateb, dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn bod "yr awgrym y gallai'r heddlu wneud hynny'n eironig, o gofio ei bod hi wedi rhoi'r gorau i ariannu cynllun School Beat Cymru".

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Llywelyn yn teimlo fod problemau ymddygiad mewn ysgolion yn gwaethygu

Pwrpas cynllun School Beat Cymru yw cael swyddogion i fynd i ysgolion i siarad â disgyblion ynglŷn â materion diogelwch a lles.

Ychwanegodd Mr Llywelyn ei fod wedi penderfynu parhau â'r cynllun yn ardal Dyfed-Powys, sy'n golygu bod ganddyn nhw'r modd i fynd i ysgol benodol os fyddai angen.

Ond dywedodd ei fod "yn gwbl anymarferol meddwl mai'r heddlu fyddai'n archwilio bagiau bob tro byddai angen gwneud hynny", gan ddweud y byddai "delio gyda'r galw am hynny yn anodd".

Disgrifiad,

Cafodd y fideo CCTV yma o'r digwyddiad ei ddangos i'r llys

Dywedodd Lynne Neagle bod y digwyddiad nid yn unig wedi effeithio ar staff a disgyblion Ysgol Dyffryn Aman, ond ei fod wedi cael "effaith sylweddol ar ysgolion ar draws Sir Gâr".

Ychwanegodd ei bod wedi cyfarfod ag un o'r athrawon gafodd ei hanafu yn y digwyddiad, Fiona Elias, a'i bod wedi ymweld â'r ysgol ddwywaith.

"Rydw i wedi bod yn glir iawn fy mod i eisiau gwneud popeth alla i i gefnogi'r ysgol, sydd wedi bod drwy amser ofnadwy, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn dysgu gwersi o'r hyn ddigwyddodd," meddai.

"Mae ysgolion yn gallu diarddel disgyblion yn barhaol os oes ganddyn nhw gyllell yn yr ysgol - mae hynny'n glir yn y canllawiau.

"Nawr bod yr achos llys drosodd, mae'n rhaid i ni ddeall beth ddigwyddiad cyn yr achos yma ac rydyn ni'n siarad gyda'r awdurdod lleol i ddeall sut y gallwn ni ddysgu o hynny."

Galw am ganllawiau ymddygiad

Wrth ymateb i sylwadau Ms Neagle, dywedodd Neil Butler o undeb athrawon NASUWT: "Dyw'r mater o ddisgyblion yn dod ag arfau i'r ysgol ddim yn newydd, ond mae'r achosion diweddar o ymosodiadau gyda chyllell mewn ysgolion yn dangos bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb".

Dywedodd bod "athrawon yn poeni pa bwerau sydd ganddyn nhw pan maen nhw'n wynebu ymddygiad treisgar mewn ysgolion".

"Hoffai NASUWT weld cynlluniau atal cryfach.

"Dylai cario arf arwain at waharddiad awtomatig gan ei fod yn drosedd ac mae angen ymateb cadarn i achosion o'r fath.

"Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio ar ganllawiau Rheoli Ymddygiad ar gyfer ysgolion fyddai'n nodi'n glir mai diogelwch mewn ysgolion yw'r flaenoriaeth, a bod unrhyw un sy'n bygwth hynny yn cael eu heithrio o'r ysgol ac yn cael cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol rhywle arall."

Plismyn y tu allan i Ysgol Dyffryn AmanFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd dwy athrawes a disgybl eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman fis Ebrill y llynedd

Wrth grynhoi'r achos ddydd Llun, dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn, Caroline Rees KC bod gan y diffynnydd, oedd yn 13 oed ar y pryd, "gefndir o unigedd a hunan-niwedio", a'i bod yn "ffaith drist iawn bod y ferch wedi dod i'r arfer o gario arf i'r ysgol bob dydd" am ei bod yn ofni cael ei bwlio.

Ond roedd yr erlyniad yn dadlau bod yr ymosodiadau "yn fwriadol ac wedi eu hailadrodd", ac y gallai'r anaf i wddf Liz Hopkin fod "fod wedi arwain at rywbeth lawer mwy difrifol".

Yn ôl William Hughes KC, roedd darluniau'r ferch, yn cyfeirio at ladd Fiona Elias a'r disgybl a gafodd ei thrywanu, yn amlygu ei chyflwr meddyliol ar y pryd.

Mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu ar 28 Ebrill.

Disgrifiad,

"Ni ddylai unrhyw aelod o staff mewn ysgol deimlo'n ofnus am ei ddiogelwch ei hun," meddai Fiona Elias yn dilyn y dyfarniad ddydd Llun

Dywedodd yr ysgrifennydd addysg, Lynne Neagle wrth BBC Cymru ddydd Mercher: "Mae ysgolion yn delio gyda llawer o bethau ar hyn o bryd, ac rydw i'n clywed yn aml gan ysgolion am faterion yn ymwneud ag ymddygiad.

"Rydyn ni'n gweld mwy a mwy o bobl ifanc gyda materion iechyd meddwl cymhleth.

"Un o'r pethau rydyn ni'n ei wneud fel llywodraeth yw dod â'r holl bartneriaid yng Nghymru at ei gilydd eleni - cyn gynted â phosib - i drafod ymddygiad, lle byddwn yn edrych ar faterion yn ymwneud â diarddel disgyblion... a chynllun gweithredu."

'Dim atebion hawdd'

Dywedodd bod ysgolion yn "gorfod gwneud pethau dydyn nhw ddim wedi gorfod eu gwneud o'r blaen wrth geisio delio ag ymddygiad" disgyblion.

"Rydw i'n ceisio ymateb i hynny ac edrych ar sut mae ysgolion yn delio gyda sefyllfaoedd gwahanol - ond mae hefyd yn cynnwys rhieni a'r gefnogaeth sydd ar gael i rieni y tu allan i'r ysgol ac rydyn ni'n gwneud y gwaith yna fel llywodraeth.

"Ond mae'n sefyllfa gymhleth a does dim atebion hawdd.

"Rydw i eisiau i athrawon gael yr hyn maen nhw angen i ddelio gyda'r materion yma yn yr ysgolion, ond allwn ni ddim rhoi popeth ar yr athrawon."