Blair: Araith dŵr coch clir Morgan yn 'nonsens ofnadwy'

Tony Blair a Rhodri MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe gefnodd Rhodri Morgan ar bolisïau Tony Blair ar gyfer ysbytai ac ysgolion

  • Cyhoeddwyd

Cafodd araith gan Rhodri Morgan yn amlinellu ei weledigaeth yn nyddiau cynnar datganoli ei ddisgrifio'n breifat fel "nonsens ofnadwy" gan brif weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd, Syr Tony Blair.

Mewn darlith yn 2002, fe wnaeth Morgan addewid i roi "dŵr coch clir" rhwng Cymru a llywodraeth Lafur Blair.

Mae papurau llywodraeth Prydain o'r cyfnod yn datgelu nodyn mewn llawysgrifen Syr Tony, yn galw rhan o'r araith yn "rwtsh".

Doedd y berthynas rhwng y ddau ddim wastod yn un esmwyth.

Methodd Syr Tony â chynnig swydd i Morgan yn ei lywodraeth gyntaf yn 1997. Yn ddiweddarach, cefnogodd Alun Michael yn lle Morgan fel arweinydd cyntaf y Cynulliad.

Bu Morgan, a fu farw yn 2017, yn brif weinidog am naw mlynedd ar ôl i Michael gael ei wthio allan.

Mae dogfennau sydd newydd eu cyhoeddi gan yr Archif Genedlaethol, dolen allanol yn dangos i Syr Tony dderbyn copi o'r ddarlith, ddeuddydd ar ôl i Morgan ei thraddodi yn Abertawe ym mis Rhagfyr 2002.

Mae adroddiad gan ymgynghorydd yn Rhif 10 Downing Street wedi ei atodi yn beirniadu sylwadau Morgan.

Mewn nodyn ar y ddogfen, mae Syr Tony yn ysgrifennu ei fod yn "ofnadwy ac yn gamgymeriad mawr. Ond mae'n dangos sut mae'r gwynt yn chwythu yno.

"Ond os yw'n llwyddo'n etholiadol, bydd rhaid i ni ei goddef."

Mae sylw arall yn ei lawysgrifen yn dweud bod disgrifiad Morgan o'r ffordd y mae ysbytai'n cael eu diwygio'n Lloegr yn "rwtsh".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhodri Morgan yn arweinydd ar Lafur Cymru am naw mlynedd

Roedd Morgan yn arwain clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd.

Ar ôl i'r blaid Lafur ddioddef canlyniadau gwael yn etholiadau cyntaf y Cynulliad ym 1999, mae'r araith 'dŵr coch clir' wedi cael ei gweld gan rai fel rhan o strategaeth a enillodd yr etholiad nesaf i Lafur yn 2003.

Ysgrifennwyd y ddarlith gan brif ymgynghorydd Morgan ar y pryd, Mark Drakeford, a aeth ymlaen i fod yn Brif Weinidog yn 2018.

Dywedodd Drakeford, sydd bellach yn Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru: "Byddai Rhodri yn esbonio beth oedd yn digwydd, beth oedd yn ei feddwl, beth roedd am ei wneud ac ateb Blair yn ei hanfod fyddai: 'Ni fyddwn yn ei wneud felly, ond ti yw prif weinidog Cymru'.

"Wnaethon nhw ddim trafferthu gormod gyda beth o'n ni'n 'neud yng Nghymru, cyn belled â'i fod yn aros yng Nghymru."

Dywedodd Drakeford y byddai'r ddau brif weinidog yn cyfarfod yn ffurfiol ddwywaith y flwyddyn, ond doedd e ddim yn cofio'r araith byth yn cael ei chrybwyll.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC yn 2017, dywedodd Syr Tony fod Morgan "o adain fwy traddodiadol y blaid" ond roedd ganddo "barch mawr at Rhodri", er iddyn nhw anghytuno.

Dadansoddiad gan Daniel Davies, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru

I rai yn Llafur Cymru, mae'r araith hon bron yn chwedlonol.

Maen nhw'n meddwl taw'r 'dŵr coch clir' yw'r gyfrinach sydd wedi cadw Llafur mewn grym yng Nghymru, yn wahanol i'r Alban.

Mae llawysgrifen Syr Tony yn ein htgoffa pa mor ddadleuol yr oedd, ond mae ei gyfarwyddyd i'w "goddef" yn hynod ddiddorol.

Os oedd Morgan yn gwybod sut i ennill etholiadau yng Nghymru, gwell gadael iddo fwrw ati na ymladd dros bolisïau.