Ymosodiad Southport: Dyn yn y llys ar gyhuddiadau ar wahân

Axel Muganwa Rudakubana
  • Cyhoeddwyd

Mae'r dyn ifanc sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio tair merch ifanc yn Southport wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o gynhyrchu gwenwyn.

Fe ymddangosodd Axel Rudakubana, 18, yn Llys Ynadon Westminster drwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh fore Mercher.

Cafodd y dyn ifanc, a gafodd ei eni yng Nghaerdydd, ei gyhuddo o gynhyrchu gwenwyn a chael deunydd sy'n ymwneud â hyfforddiant Al Qaeda yn ei feddiant ddydd Mawrth.

Roedd Axel Rudakubana yn dawel drwy gydol y gwrandawiad ac roedd yn ceisio gorchuddio ei wyneb gyda'i grys.

Ni ddaeth unrhyw fanylion pellach i'r amlwg am y cyhuddiadau diweddaraf yn ystod y gwrandawiad.

Mae'r llanc eisoes wedi'i gyhuddo o lofruddio Bebe King, chwech, Elsie Dot Stancombe, saith, ac Alice da Silva Aguiar, naw, mewn dosbarth dawns yn Southport ym mis Gorffennaf.

Mae hefyd yn wynebu deg cyhuddiad o geisio llofruddio, ac o fod a chyllell yn ei feddiant.

Bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at Lys y Goron Lerpwl lle bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ar 13 Tachwedd i drafod yr holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Pynciau cysylltiedig