Araith iaith arwyddion cyntaf Palas Buckingham gan Gymraes
- Cyhoeddwyd
Dynes ifanc o Aberystwyth ydy'r person cyntaf erioed i gyflwyno araith gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain ym Mhalas Buckingham.
Roedd Hafwen Clarke, 19, yn rhan o ddathliadau gwobr aur Dug Caeredin yn ngardd y palas.
A hithau'n un o lysgenhadon ifanc Gwobr Dug Caeredin Cymru, dywedodd ei bod "eisiau bod yn llais dros bobl ifanc gydag anableddau" a'i bod am "roi gobaith a hapusrwydd" iddyn nhw.
Roedd dros 8,000 o bobl yn rhan o'r digwyddiad gafodd ei drefnu gan y Tywysog Edward, Dug Caeredin.
Bu'r gofodwr Tim Peake hefyd yn siarad am ei fywyd a'i yrfa.
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2023
'Rydyn ni'n union fel chi'
Yn ei haraith, gafodd ei throsi i iaith lafar gan ddehonglwr, eglurodd Hafwen ei bod yn falch "o fedru dangos i'r byd beth mae pobl fyddar yn gallu ei wneud".
"Mae pobl fyddar yn medru gwneud popeth mae pobl sy'n gallu clywed yn ei wneud, heblaw clywed.
"Rydyn ni'n cyfathrebu mewn iaith wahanol, ond rydyn ni dal yn medru cyfathrebu.
"Rydw i wedi cyfarfod gymaint o bobl fyddar yn fy mywyd ac rydyn ni'n union fel chi.
"Rydyn ni'n caru cyfathrebu, rydyn ni'n caru teithio'r byd ac rydyn ni'n caru gwneud gweithgareddau yn union fel chi."
Fe wnaeth Hafwen, sy'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Penglais, dderbyn gwobr aur Dug Caeredin am ei gwaith gydag elusen ambiwlans St John Cymru.
Mae hi hefyd yn un o lysgenhadon ifanc Gwobr Dug Caeredin Cymru.
Ar hyn o bryd, mae Hafwen yn astudio cwrs trin gwallt yng Ngholeg Caerwysg.
"Roedd symud i ffwrdd o gartref yn anodd achos roeddwn i'n gweld eisiau fy nheulu, ond mae Gwobr Dug Caeredin wedi dangos i fi, os ydy pethau'n anodd, dwi ddim yn rhoi'r ffidil yn y to a dwi ddim am adael i'r ffaith fy mod i'n fyddar fy atal i rhag gwneud unrhyw beth."
Roedd araith Hafwen yn rhan o ddigwyddiadau ym Mhalas Buckingham oedd yn dathlu llwyddiant dros 8,000 o bobl ifanc sydd wedi cwblhau gwobr aur Dug Caeredin mewn ysgolion, grwpiau ieuenctid a llefydd gwaith ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.
Er mwyn cael gwobr aur, mae pobl ifanc wedi treulio o leiaf blwyddyn yn gwneud gweithgareddau corfforol, dysgu sgiliau, mynd ar daith gerdded dros nos a gwirfoddoli.
Dywedodd Ruth Marvel o Wobr Dug Caeredin: "Mae'r bobl ifanc sydd yma heddiw wedi llwyddo i wneud rhywbeth arbennig iawn, ac mae'n hyfryd gweld pawb yma yn dathlu ac yn rhannu eu profiadau.
"Bwriad y wobr ydy dangos bod unrhyw beth yn bosib ac mae'r bobl ifanc yma wedi dangos i'r byd nad oes terfyn i'r posibiliadau. Allai ddim aros i weld be' fydd eu camau nesaf nhw."
Yn ei araith, dywedodd y gofodwr Tim Peake wrth y bobl oedd yn derbyn eu gwobr: "Wrth i chi wynebu'r bennod nesa' yn eich bywydau, dwi'n eich annog chi i anelu'n uchel ac i freuddwydio am y peth gorau posib, a chofiwch y gallwch chi wneud unrhyw beth.
"Mae pob un ohonoch chi wedi dangos eich bod yn benderfynol drwy ennill y wobr aur, a does dim dwywaith y gwnewch chi wynebu heriau eraill yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020