Galw am dargedau gwell i daclo llygredd aer ger ysgolion

Llun o blant Ysgol Gymraeg Caerffili yn casglu sbwriel ar y iard ar ddiwrnod braf
Disgrifiad o’r llun,

Plant Ysgol Gymraeg Caerffili yn casglu sbwriel

  • Cyhoeddwyd

Mae angen i Lywodraeth Cymru osod targedau mwy uchelgeisiol ar gyfer gwella ansawdd aer, medd ymgyrchwyr, er mwyn taclo llygredd o gwmpas ysgolion.

Daw hynny'n dilyn ymchwil sy'n awgrymu bod dros 200 o ysgolion yng Nghymru lle gall lefel y cemegau yn yr aer o'u cwmpas fod yn uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.

Roedd dau draean o'r ysgolion hynny yng Nghaerdydd, ond mae'r cyngor wedi dweud bod mesuriadau unigol ar gyfer nifer o'r ysgolion hynny'n dangos lefelau is mewn gwirionedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ymgynghori'n fuan ar hybu ymwybyddiaeth am eu cynllun i daclo llygredd aer.

Llun o Thea (chwith) ac Amal (dde) ar iard yr ysgol yn dal eu posteri am deithio yn amgylcheddol i'r ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Dyma bosteri Thea (chwith) ac Amal (dde) am deithio yn amgylcheddol i'r ysgol

Yn ôl ffigyrau sydd wedi ei ryddhau gan ymgyrch Awyr Iach Cymru, mae dros 65,000 o ddisgyblion ar draws Cymru'n mynychu ysgolion mewn ardaloedd lle gallai'r ansawdd aer fod yn wael.

Yn Ysgol Gymraeg Caerffili, mae disgyblion ar y Cyngor Eco eisoes wedi bod yn gwneud pethau i geisio bod yn fwy amgylcheddol, fel casglu sbwriel, a phlannu coed a bylbiau.

"Mae'r nwy sy'n dod mas o'r ceir ddim yn dda i'r blaned, a dwi'n meddwl mae'n well os mae pobl yn cerdded i'r ysgol, neu mynd ar y beic neu sgwter, pethau fel 'na," meddai Elys o Flwyddyn 4.

Mae Amal o Flwyddyn 3 wedi bod yn creu poster i annog plant i deithio i'r ysgol mewn ffyrdd fwy cynaliadwy.

"Y neges yw ni angen stopio llygredd aer, oherwydd mae'n gallu brifo plant, ac maen nhw'n gallu cael asthma oherwydd e," meddai.

Llun o Llywelyn ar y chwith) a Ioan ar y dde ar iard yr ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Llywelyn (chwith) a Ioan (dde) helpu i fesur lefelau traffig

Roedd Ioan o Flwyddyn 6 ymhlith criw o ddisgyblion fu'n cyfri nifer y ceir oedd yn pasio giât yr ysgol, a mesur y lefelau carbon deuocsid (CO2) yno.

"Beth oedd yn poeni fi yw bod 65,000 o blant yng Nghymru yn cael eu heffeithio o'r llygredd, ac mae lot o blant yn gallu bod yn sâl oherwydd llygredd.

"Fi jyst yn gweld tacsis, bysys, ceir ym mhobman, a does dim digon o feiciau, sgwters, neu bobl yn cerdded."

Mae eu hathrawes Ella Jones yn canmol gwaith disgyblion y Cyngor Eco, gan ddweud eu bod wedi codi ymwybyddiaeth am yr amgylchedd i weddill plant yr ysgol.

"Gwraidd y cwricwlwm yw ein cymuned, ac mae'n hollbwysig bod y plant yn dysgu sut i edrych ar ôl y byd a'r lle sydd o'u cwmpas nhw," meddai.

"Ein cyfrifoldeb ni yw e fel oedolion i sicrhau bod plant yn cael y wybodaeth yma, a'r cymorth a'r arweiniad i edrych ar ôl y blaned mewn ffordd gadarnhaol."

Llun o Ella Jones ar iard Ysgol Gymraeg Caerffili
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ella Jones, athrawes yn Ysgol Gymraeg Caerffili, yn credu mai cyfrifoldeb oedolion yw dangos esiampl i'r plant

Yn ôl ffigyrau'r ymchwil, roedd 203 o ysgolion mewn ardaloedd lle roedd lefelau nitrogen deuocsid (NO2) a sylweddau gronynnol (PM2.5) – all effeithio ar ddatblygiad yr ysgyfaint – yn uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.

Roedd pob un o'r 10 ysgol ar y brig yng Nghaerdydd, ond roedd ysgolion yng Nghasnewydd, Abertawe, Caerffili, Bro Morgannwg a Chastell-nedd Port Talbot hefyd ar y rhestr.

Daw'r data o ymchwil gafodd ei wneud gan Gyfeillion y Ddaear ar gyfer Diwrnod Aer Glân, a hynny ar ôl dadansoddi ffigyrau lleol ar lygredd aer gan Lywodraeth y DU rhwng 2021-23.

"Mae'r ffigyrau'n dangos bod gyda ni argyfwng o ran llygredd aer yng Nghymru, yn enwedig yn ein dinasoedd o beth mae'r mesuriadau'n eu dangos," meddai Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.

"Mae'r rhestr o 200 ysgol yn dangos bod rhaid i ni wneud mwy. Mae gan y llywodraeth ddyletswydd, ac awdurdodau lleol, a ni fel unigolion.

"Mae cyfrifoldeb ar bawb."

Llun o blant wrth giat Ysgol Gymraeg Caerffili yn mesur traffig
Disgrifiad o’r llun,

Plant wrth giat Ysgol Gymraeg Caerffili yn mesur traffig

Cafodd deddfwriaeth ei phasio y llynedd i hybu aer glân yng Nghymru, ond dechrau'r broses yn unig ddylai hynny fod yn ôl Ms Elgar.

"Mae angen i ni nawr osod targedau yn y ddeddfwriaeth fel bod pawb yn gwybod beth rydyn ni'n anelu amdano," meddai.

"Mae eisiau dangos bod uchelgais gyda ni i leihau llygredd aer, ac mae hynny'n gofyn am weithredu ar draws adrannau llywodraeth."

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod eu lleoliadau monitro nhw yn y ddinas yn cwrdd â gofynion ansawdd aer, a bod pob ysgol sy'n cael eu mesur gan y cyngor yn dangos lefelau "tipyn llai" o NO2.

Ychwanegodd llefarydd: "Dylid nodi bod lefelau canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd yn seiliedig ar gasgliadau gwyddonol yn unig am faterion iechyd cyhoeddus ar lygredd aer.

"Dyw'r canllawiau ddim yn ystyried pa mor ymarferol yw hi'n dechnegol, neu ffactorau economaidd a chymdeithasol, o ran cyrraedd y lefelau hynny."

'Gallu arwain at gyflyrau ar y galon'

Dywedodd Joseph Carter o Awyr Iach Cymru fod asthma yn un o'u prif bryderon, gyda bron i 600,000 o bobl yng Nghymru'n byw gyda'r cyflwr.

"Mae'n gallu arwain at gyflyrau ar y galon, diabetes, pob math o broblemau iechyd," meddai.

"Mae llygredd aer yn beth brawychus, a 'dyn ni'n dysgu mwy amdano wrth i amser fynd yn ei flaen."

Ychwanegodd bod angen i bobl ailfeddwl eu harferion, gan gynnwys faint maen nhw'n defnyddio'u ceir, ac osgoi llosgi pren neu lo i gynhesu cartrefi.

Dywedodd Dr Hilary Williams, is-lywydd Cymru gyda Choleg Brenhinol y Meddygon, and oedd unrhyw "lefel saff" o lygredd aer ac y dylai awyr iach fod yn "hawl, nid braint".

"Mae nifer y marwolaethau allai gael eu hosgoi, sy'n digwydd oherwydd ansawdd aer gwael, yn dangos bod hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus na ellir ei anwybyddu," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw gronfa o £1m i helpu awdurdodau lleol i wella ansawdd aer, ac y byddan nhw'n ymgynghori yn yr haf ar gynllun i daclo'r broblem.

"Drwy ein cynllun byddwn yn cefnogi ymgyrch gyfathrebu genedlaethol, adnoddau dysgu, ac arweiniad, gan annog newid positif a sicrhau bod gan bobl y wybodaeth sydd angen arnyn nhw i weithredu," meddai llefarydd.

"Mae codi ymwybyddiaeth o faterion llygredd aer gyda'n plant a phobl ifanc wedi bod yn ystyriaeth allweddol wrth i ni ddatblygu ein cynllun draft."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.