Cymorth i farw: Ofn bod yn 'sownd mewn poen'

Gemma Williams yn eistedd wrth fwrdd ac yn edrych yn syth at y camera. Mae hi'n gwisgo crys coch.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gemma Williams wedi byw gyda sglerosis ymledol ers dros 20 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Sir Gaerfyrddin, sy'n dweud bod y syniad o fod yn "sownd mewn poen" yn ei "dychryn", yn credu y dylai cymorth i farw fod ar gael i bawb sy'n "dioddef o boen annioddefol".

Mae Gemma Williams wedi byw gyda sglerosis ymledol (multiple sclerosis) ers dros 20 mlynedd.

Ddydd Gwener bydd Aelodau Seneddol (ASau) yn pleidleisio ar fesur fyddai'n caniatáu i bobl yng Nghymru a Lloegr sy'n nesáu at ddiwedd eu bywyd i gael cymorth meddygol i farw.

Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud bod y cynlluniau'n "anniogel".

Dywedodd Gemma, 47, o Landdeusant bod ei chyflwr yn gallu cael effaith ar ei golwg. Yn aml, mae'n gorfod aros yn y gwely ac mae mewn poen gwirioneddol.

"Mae'n ofnadwy pan dwi'n cael cyfnodau ble dwi mewn cymaint o boen o ddydd i ddydd," meddai.

"Yn ffodus dwi'n gwybod bod cyfnodau mwy cyfforddus ond os taw dyna oedd fy realiti i a bod y boen yna drwy'r amser dwi ddim yn gwybod sut y byddwn i'n delio ag e."

Mae Gemma'n credu y dylai cymorth i farw fod ar gael i bawb sy'n "dioddef o boen annioddefol".

"Mae'n anghywir bod rhywun arall yn gallu dweud wrtha'i bod yn rhaid i fi barhau i fyw mewn poen pan dydw i ddim eisiau gwneud hynny a does dim ffordd o leddfu'r boen."

Aelod Seneddol Llafur Kim Leadbeater yn siarad yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae hi'n dal papurau yn ei llaw dda.  Mae'n gwisgo dillad glas tywyll.Ffynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Yr AS Llafur Kim Leadbeater sydd wedi cyflwyno'r mesur

Cafodd y mesur cymorth i farw ei gyflwyno gan yr Aelod Seneddol Llafur Kim Leadbeater.

Byddai'r mesur yn caniatáu i bobl dros 18 oed yng Nghymru a Lloegr y mae disgwyl iddynt farw o fewn chwe mis gael cymorth meddygol i ddod â'u bywyd i ben.

Mae'r cyn-gystadleuydd Paralympaidd ac aelod o Dŷ'r Arglwyddi y Farwnes Grey-Thompson yn un sy'n gwrthwynebu'r mesur.

"Mae'r mesur presennol yn anniogel. Dydy hyn ddim am yr egwyddor, mae e am y manylion," meddai wrth BBC Cymru.

"Byddai'r mesur yn caniatáu i unrhyw feddyg godi hyn does ots pa mor fregus ydy'r claf, gan gynnwys rheiny gydag anableddau dysgu."

Mae rhai meddygon wedi dweud eu bod yn bryderus.

"Bydde llawer o feddygon yn sicr ddim eisiau bod yn rhan o hyn a dwi yn bersonol yn un ohonyn nhw," meddai Dr Nia Davies o ardal Caerfyrddin.

"O safbwynt y pwyse... pan chi'n trafod opsiynau i bobl, chi'n cynnig pob opsiwn. Felly os chi'n anghytuno gyda rhywbeth chi ddim mo'yn bod yn cyflwyno hyn fel opsiwn."

Beth fydd yn digwydd ddydd Gwener?

Ddydd Gwener bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar y mesur.

Os nad ydyn nhw'n pleidleisio o'i blaid, bydd y mesur yn methu.

Pan bleidleisiodd ASau ar y mesur ym mis Tachwedd fe bleidleisiodd 330 o blaid a 275 yn erbyn.

O blith y 32 AS o Gymru, pleidleisiodd 23 o blaid a chwech yn erbyn. Fe wnaeth tri beidio pleidleisio.

Ond mae'r AS Llafur dros Fro Morgannwg Kanishka Narayan wedi dweud yn barod y bydd e'n pleidleisio yn erbyn y mesur ddydd Gwener ar ôl pleidleisio o blaid ym mis Tachwedd.

Dywedodd Mr Narayan wrth BBC Cymru ei fod o blaid cymorth i farw "mewn egwyddor" ond nad oedd e'n credu bod y mesur yn ddigon cadarn i ddiogelu pobl fregus.

Yn y cyfamser bydd yr AS Llafur dros Rhondda ac Ogwr Syr Chris Bryant yn cefnogi'r mesur ar ôl ymatal ei bleidlais y tro diwethaf.

"Yn anffodus, mae'r gyfraith bresennol yn methu gormod o bobl sy'n dioddef o salwch terfynol," meddai.

Mae Liz Saville Roberts o Blaid Cymru wedi cefnogi'r ddeddfwriaeth hyd yma a chyn y bleidlais ddydd Gwener dywedodd: "Ni allwn golli'n golwg ar ddioddefaint dim ond oherwydd bod y ddeddfwriaeth yn anodd."

Fodd bynnag, bydd ei chyd-aelod o'r Blaid, Ann Davies, yn pleidleisio yn erbyn y mesur, gan ddweud nad oedd hi'n "argyhoeddedig bod y ddeddfwriaeth hon yn darparu digon o ddiogelwch i'r rhai mwyaf agored i niwed".

Dywedodd AS Llafur Sir Fynwy, Catherine Fookes, y byddai'n cefnogi'r cynlluniau ar ôl gweld profiad ei thad gyda salwch a gofal lliniarol.

Cyn bod modd cynnal pleidlais ar y mesur yn ei gyfanrwydd, bydd ASau yn trafod ac yn pleidleisio'n gyntaf ar welliannau sydd wedi eu cyflwyno, gan gynnwys un sy'n ymwneud â phwerau Senedd Cymru.

Yn dilyn newid blaenorol i'r mesur, fel ag y mae ar hyn o bryd, byddai'r Senedd yn gallu penderfynu pryd y byddai'r mesur yn dod i rym yng Nghymru.

Mae Leadbeater yn ceisio gwrthdroi hynny, gan adael y Senedd gyda phwerau dros sut y byddai'r system yn gweithio o fewn i'r gwasanaeth iechyd, ond heb bwerau dros y ddeddf yn ei chyfanrwydd.

Fe bleidleisiodd Aelodau Senedd Cymru yn erbyn yr egwyddor o gymorth i farw ym mis Hydref.

Pe bai'r mesur yn cwblhau ei daith drwy Senedd San Steffan byddai'n rhaid i Senedd Cymru gynnal pleidlais arall ar y mater.