Dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod ar gyfres deledu yn 'anodd'

Jenkin EdwardsFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu Jenkin Edwards yn rhan o'r rhaglen Big Brother yn 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae ymddangos ar gyfres deledu sy'n cael ei wylio gan filiynau o bobl yn freuddwyd i rai, ond yn hunllef i eraill.

Ar ôl cael eich gweld gan lwyth o bobl, sut mae un yn ymdopi a'r cyfnod ar ôl i'r rhaglen gael ei darlledu?

Mae nifer o Gymry wedi ymddangos ar raglenni teledu poblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag unigolion megis Amber Davies ac Elen Wyn wedi profi llwyddiant yn dilyn eu hymddangosiadau.

Un arall fu'n serennu oedd Jenkin Edwards, 27 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, a oedd yn rhan o gyfres Big Brother yn 2023, ac mae bellach wedi dychwelyd i'w swydd 9-5.

'Roedd e mor wyllt'

Wedi'r gyfres gael ei darlledu, dywedodd Jenkin iddo "gael trafferth" wrth fod mewn lleoliadau cymdeithasol.

Nid oedd gan Jenkin fwriad i fod yn ddylanwadwr ar ôl gorffen recordio, yn wahanol i nifer.

"Ar ôl i fi adel Big Brother, roedd e'n teimlo fel bod pawb yn 'nabod fi a doeddwn i ddim yn 'nabod unrhyw un," esboniodd.

Dywedodd Jenkin ei fod yn teimlo fel ei fod ar ei ben ei hun ar adegau.

"Doeddwn i ddim yn gwybod sut i ymdopi â bod yn y sefyllfaoedd hynny, roedd e mor wyllt.

"Roedd e'n anodd mynd allan a gwneud pethau am y tri mis cyntaf, ond fe lwyddais yn y diwedd".

Jenkin a ffrindFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jenkin: "Do'n i ddim eisiau bod mewn llefydd lle'r oedd llawer o bobl, roedd e'n teimlo'n ormod i fi"

Er yr her, dywedodd fod cymryd rhan yn y gyfres yn "anhygoel" a'i fod "yn caru'r ffaith mod i wedi mynd a byw yn y tŷ."

Wedi'r rhaglen, dywedodd ei fod wedi ceisio osgoi pobl am y tri mis canlynol.

"Do'n i ddim eisiau bod mewn llefydd lle'r oedd llawer o bobl, roedd e'n teimlo'n ormod i fi".

"Ond ar ôl meddwl, do'n i byth eisiau bod yn influencer, hoffwn i fod yn berson normal efo experience anhygoel".

Mae cynnwys cyfryngau cymdeithasol Jenkin bellach yn llawn fideos o'i swydd.

Ellie
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellie bellach yn rhannu ei hamser fel dylanwadwr a gweithio ei swydd arferol

Un arall sydd wedi dychwelyd i weithio ar ôl serennu mewn rhaglen realiti yw Ellie Jackson, 24 o Gaerdydd.

Bu Ellie yn rhan o'r gyfres boblogaidd Love Island yn 2024.

Erbyn hyn, mae'n siarad yn agored am sut mae'n ymdopi wrth ddychwelyd i weithio mewn swydd 9-5 wedi'r gyfres.

Dywedodd: "Rydw i wedi gwylio Love Island ers iddo ddechrau, rydw i'n gweld pobl fel Molly Mae a Maura Higgins, y dylanwadwyr gorau go iawn, ac roeddwn i'n meddwl 'O Duw gallai hyn newid fy mywyd mewn gwirionedd, gallwn i ddod yn un ohonyn nhw'," meddai.

Ellie yn y swyddfaFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn, mae Ellie yn siarad yn agored am sut mae'n ymdopi wrth ddychwelyd i weithio mewn swydd 9-5 wedi'r gyfres

Cyn mynd ar y sioe, meddyliodd: "Mae hwn yn gyfle perffaith i fynd a chael hwyl ar y teledu, cael fflyrt gyda bechgyn a chael fy ffordd i mewn i ffordd o fyw gwahanol".

Ar y pryd roedd hi'n gweithio i gwmni cyfrifwyr, ac ychwanegodd: "Ro'n i'n caru'r ffordd o fyw corfforaethol, ond rwy'n rhywun sydd bob amser eisiau 'chydig mwy."

Er bod ei chyfnod ar y rhaglen yn gymharol fyr, mae'n cyfaddef ei bod hi'n teimlo pwysau i wneud yn dda ar ôl gadael y sioe.

Dywedodd Ellie fod llawer o bobl yn meddwl yn ganiataol y byddai'n dod yn ddylanwadwr.

Er iddi fwynhau blwyddyn o fod yn hunangyflogedig gan weithio i frandiau gwahanol, dywedodd ei bod wedi cyrraedd pwynt lle'r oedd yn "mesur llwyddiant yn hollol anghywir... roeddwn i'n mesur llwyddiant gyda nifer y dilynwyr oedd gen i".

"Anghofiais yn llwyr fy mod i'n llwyddiannus mewn cymaint o ffyrdd eraill heblaw am gyfryngau cymdeithasol,

"Anghofiais am y rhan honno o fy mywyd lle'r oeddwn i wedi cael gradd Saesneg, cefais fy hun mewn cwmni cyfrifyddiaeth mawr iawn," meddai.

"Roeddwn i wedi anghofio am hynny a gwneud fy mywyd yn ddibynnol ar fy nilynwyr a fy nghyfryngau cymdeithasol, a oedd yn anghywir.