Buddugoliaeth i un Cymro yn Rhufain - yn y Parkrun!

Ian Williams a'i frawd Evan ar drac rhedeg ym Mharc Caffarella.Ffynhonnell y llun, Ian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Ian Williams (dde) i orffen yn gyntaf, tra bo'i frawd Evan (chwith) wedi dod yn bedwerydd

  • Cyhoeddwyd

Doedd hi ddim yn benwythnos da i dîm rygbi Cymru draw yn Yr Eidal, ond fe wnaeth un Cymro brofi llwyddiant yn Rhufain.

Roedd Ian Williams wedi teithio yno yn y gobaith o weld Cymru yn curo'r Eidal, a dod â'r rhediad hir heb fuddugoliaeth i ben.

Ond colli'r 14eg gêm brawf yn olynol oedd hanes Cymru yn Rhufain.

Ond i Ian, doedd y trip ddim yn siom i gyda, gan iddo gyrraedd y brig yn y Caffarella Parkrun - a sicrhau bod o leiaf un Cymro'n profi llwyddiant yn Yr Eidal.

Ian Williams a'i frawd Evan ar drac rhedeg ym Mharc Caffarella. Ian sy'n arwain y pac gyda'r crys-t glas tywyll, ei frawd ychydig ar ei ôl, ac yna dau redwr arall.Ffynhonnell y llun, Ian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Ian (chwith) yn herio'r rhedwyr eraill ar y Caffarella Parkrun

Fel nifer o'i gyd-gefnogwyr, fe gyrhaeddodd Ian Rhufain fore Iau gyda chriw o deulu a ffrindiau.

Dywedodd mai dyma'r tro cyntaf iddo fynd i'r Eidal i wylio gêm Chwe Gwlad.

Esboniodd ei fod yn mwynhau cadw'n heini tra'n teithio oherwydd ei fod yn "ffordd wych o ddod i 'nabod y ddinas".

Penderfynodd Ian a'i frawd Evan roi eu henwau ymlaen ar gyfer y Caffarella Parkrun - ras 5km hwyliog yn y ddinas - fore Sadwrn cyn y gêm rygbi.

Ian a'r criw yn tynnu llun o flaen y Colosseum.Ffynhonnell y llun, Ian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Ian a'i ffrindiau i ganfod amser i weld rhai o atyniadau Rhufain hefyd

Dywedodd Ian nad oedd o erioed wedi gwneud Parkrun dramor o'r blaen, er ei fod yn rhedwr brwd.

"Nes i a fy mrawd godi mewn pryd, tra bo'r bechgyn eraill wedi aros yn eu gwlâu. Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth cynhyrchiol," meddai.

Yn wreiddiol, rhedeg gyda'i gilydd oedd y cynllun, ond newidiodd hynny wedi iddyn nhw ddod ar draws rhedwr arall o Gymru.

"Ti byth yn gwybod beth wyt ti am ei gael pan ti'n troi fyny," meddai Ian.

"Wedi ychydig gannoedd o fedrau, rhedodd rhywun o Eryri heibio, ac yna mi wnaeth yr ysbryd cystadleuol ddechrau!"

Ffotograff o gêm Cymru v Yr Eidal o'r standiau yn y Stadio Olimpico yn Rhufain.Ffynhonnell y llun, Ian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Er llwyddiant Ian yn y Parkrun, siom oedd hi yn y Stadio Olimpico i'w gyd-Gymry

Enillodd Ian y ras mewn amser o 17 munud, 20 eiliad. Daeth ei frawd Evan yn bedwerydd, tra bo'r dyn o Eryri wedi gorffen rhwng y ddau, yn drydydd.

"Roedd y bechgyn yn falch ein bod o leiaf wedi cael un fuddugoliaeth Gymreig ar y diwrnod!" meddai.

Pynciau cysylltiedig