Pwysau'n cynyddu ar Gatland wedi'r golled yn Rhufain

Warren GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y cwestiynau'n parhau am ddyfodol Gatland fel hyfforddwr Cymru wedi'r golled yn erbyn yr Eidal

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cwestiynau am ddyfodol Warren Gatland fel hyfforddwr tîm rygbi Cymru'n parhau wedi'r golled yn erbyn yr Eidal dydd Sadwrn.

Y gêm yn Rhufain oedd cyfle gorau ei dîm am fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Cymru nawr yn wynebu derbyn y Llwy Bren.

Mae Gatland yn hollti barn, hyd yn oed gyda'i gyn-chwaraewyr.

Mae'r hyfforddwr 61 oed yn mynnu bod y gwallau yn erbyn yr Eidal yn hawdd i'w trwsio, ond mae amser yn rhedeg allan.

Mae Cymru wedi dioddef anafiadau - gan golli'r chwaraewyr allweddol Liam Williams a Dafydd Jenkins nos Wener - ac mae'r gronfa dalent yn ymddangos yn fas.

Ond mae cwestiynau dros ddewisiadau Gatland, gyda'r propiau profiadol Wyn Jones, Dillon Lewis a Tomas Francis, y maswyr Gareth Anscombe a Jarod Evans, a Max Llewellyn a Rio Dyer, ddim yn y garfan.

Roedd y perfformiad yn Rhufain yn un o'r gwaethaf gan Gymru dros y ddwy flynedd diwethaf, meddai'r cyn-chwaraewyr Jamie Roberts a Dan Biggar.

"Roedd pawb yn disgwyl ymateb ar ôl y noson siomedig ym Mharis ond roedd ein cicio ni'n warthus ar adegau," meddai Roberts.

Pan ofynnwyd iddo a ddylai Gatland fynd, atebodd y cyn-faswr Biggar: "Dwi ddim yn meddwl bod dim byd oddi ar y bwrdd ar hyn o bryd... Fedrith hyn ddim parhau."

"Mae'n gymaint o siom achos mae 'na gymaint o bobl dda yna sydd wedi cael llwyddiant yn y gorffennol ond mae'n glir fod beth sy'n digwydd yn yr wythnos ddim yn gweithio ar y cae."

Cymru v Yr EidalFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cwestiynau hefyd yn parhau am dactegau Rob Howley ers iddo gymryd drosodd yr ymosod ar ôl cael ei alw'n ôl gan Gatland.

"Fe roddodd yr hogiau bopeth ond mae ein ffordd o chwarae yn gyfyngedig iawn yn erbyn timau mwy pwerus," meddai cyn-gapten Cymru, Gwyn Jones, wrth bodlediad Scrum V.

"Roedd yna adegau [yn erbyn yr Eidal] pan oedden ni mor oddefol ac yn edrych fel nad oedden ni'n gwybod sut i newid be roedden ni'n ei wneud.

"Nid yw Gatland erioed wedi cael cynllun B. Cynllun B erioed oedd gwneud cynllun A yn well.

"Roedd o fel petawn ni'n cerdded i'r crocbren heb gynllun... ni'n disgwyl nawr i Gatland fynd achos allith o ddim aros, dim ots be am holl broblemau rygbi Cymru."

'Mynd i gymryd blynyddoedd'

Dywedodd cyn-gapten Cymru, Ken Owens: "Ar ôl yr adolygiad [URC o Gyfres yr Hydref], wnaethon nhw ddim byd.

"Wnaethon nhw ddim dweud bod ganddyn nhw gynllun ac mae'n mynd i gymryd amser, ond wnaethon nhw ddim cefnogi Warren chwaith.

"Mae'n debyg y byddan nhw'n gweld sut mae'n mynd yn y Chwe Gwlad a chael adolygiad arall."

"Mae'n mynd i gymryd pump i 10 mlynedd i roi trefn ar y traed moch rydyn ni ynddo ar hyn o bryd, o leiaf.

"Dyna beth mae'r Eidal wedi ei wneud. Pan oedden nhw'n colli pob gêm yn y Chwe Gwlad, fe aethon nhw i'r academi, i'r tîm dan 18 a dan-20 ac adeiladu oddi yno."