Angen penodi dau yn lle Gatland i achub rygbi Cymru - Owens

Nigel OwensFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nigel Owens bod y diweddglo i gyfnod Gatland wrth y llyw yn "drist iawn"

  • Cyhoeddwyd

Mae angen penodi dau berson er mwyn trawsnewid tîm rygbi Cymru, yn ôl y cyn-ddyfarnwr rhyngwladol, Nigel Owens.

Fe adawodd Warren Gatland swydd y prif hyfforddwr ddydd Mawrth, yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig.

Matt Sherratt fydd wrth y llyw hyd at ddiwedd y Chwe Gwlad, ond mae Owens yn un o sawl sy'n galw am greu swydd i gydweithio gyda'r hyfforddwr newydd yn y tymor hir.

Byddai cael cyfarwyddwr rygbi yn gam mawr ymlaen, meddai Owens ar Dros Frecwast.

"Fi'n credu y peth mwya' pwysig nawr yw bod ni'n cael yr hyfforddwr iawn am y swydd, ond hefyd mae'r un mor bwysig os nad yn fwy pwysig bod ni'n cael rhywun sy'n mynd i edrych ar y gêm yn gyfan gwbl - o ben y gêm yr holl ffordd lawr i'r gemau lleol, a'r system ar y cae - dyw hwnna ddim am y blynydde diwetha' wedi gweithio.

"So ma' isie cael dau berson mewn i 'neud y swydd."

Disgrifiad,

Pwy sydd yn y ffrâm i olynu Warren Gatland?

Ychwanegodd bod "ffydd" rhwng y ddau yn "bwysig iawn", ond nad oes ots pa un sy'n cael ei benodi gyntaf.

"Sdim pwynt i chi gael hyfforddwr yn ei le, ac allwch chi gael hyfforddwr gorau'r byd, os nag oes gyda chi rywun sy'n mynd i edrych ar yr holl system achos ma' lot o bethe sy' angen newid, nid dim ond yn y gêm broffesiynol."

'Gyda'r gwaetha' ni'n cofio'

Wrth edrych yn ôl ar gyfnod Gatland gyda Chymru, dywedodd Owens bod y diweddglo'n "drist iawn".

"Rhaid i ni beidio anghofio y llwyddiant mae wedi ei gael gyda Chymru dros y blynydde hefyd, ond yn anffodus pan mae 'da chi 14 gêm heb ennill...

"Fi'n credu yn y Chwe Gwlad hyn, yn enwedig dydd Sadwrn [yn erbyn Yr Eidal], o'dd y perfformiad ddim 'na o gwbl, o'dd e gyda'r gwaetha' ma' rhan fwya ohono ni yn cofio fi'n credu. So o'dd rhaid i rywbeth newid.

"Mae'n drist iawn bod e wedi digwydd ond mae'n ddealladwy iawn pam bod e wedi digwydd."

Dadansoddiad

Ma'r ffaith nad oes 'na rywun yn gweithredu fel cyfarwyddwr rygbi dros Undeb Rygbi Cymru yn amlwg wedi bod yn broblem enfawr yn ystod yr holl anghydfod diweddar yn ymwneud â Warren Gatland.

Er o gefndir busnes, dyw Abi Tierney yn amlwg ddim â'r arbenigaeth rygbi angenrheidiol, ac mae'n ymddangos ei bod hi wedi bod yn gyndyn i wneud penderfyniad ar ddyfodol prif hyfforddwr Cymru.

Fe wrthodwyd cynnig Gatland i ymddiswyddo'r llynedd, ac yn hytrach na mynd â'r cais hwnnw i'r bwrdd - fe benderfynodd y prif weithredwr wrthod hynny'n syth heb unrhyw adolygiad.

Mae hynny bellach wedi'i amlygu'n benderfyniad annoeth i ddweud y lleiaf.

Mi ddylai'r prif hyfforddwr nesa fod yn atebol i'r cyfarwyddwr rygbi, fyddai o leiaf â'r hygrededd i allu gweithredu penderfyniadau yn ymwneud â'r gêm broffesiynol.

Mae hyn yn rôl sy'n cael ei chyflawni yn y gwledydd eraill, ac mi fydd penodi'r person cywir a chymwys yr un mor bwysig â phenodi olynydd Warren Gatland.

Un cam yn unig fyddai hyn yn y darlun ehangach wrth gwrs a Chymru eisoes ar y 'droed ôl', ond o leiaf fe fydd yn gam i'r cyfeiriad cywir.