'Erchyll' na fydd clwb o'r canolbarth yn y Cymru Premier

Mae'r Drenewydd ac Aberystwyth wedi syrthio o'r Cymru Premier
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n ddiwedd cyfnod i'r Cymru Premier.
Am y tro cyntaf ers i'r gynghrair gael ei sefydlu yn 1992, fydd 'na ddim clwb o'r canolbarth yn chwarae ynddi y tymor nesaf.
Aberystwyth a'r Drenewydd ydi'r ddau glwb sy'n disgyn y tymor yma, gyda Bae Colwyn a Llanelli yn ennill dyrchafiad.
Felly yn nhymor 2025/26 mi fydd 'na chwe chlwb wedi eu lleoli yn y gogledd, a'r chwe chlwb arall wedi eu lleoli'n y de.
Yn ôl i'r dechrau
Pan gafodd y gynghrair ei sefydlu yn 1992 mi oedd 'na bedwar clwb o'r canolbarth ynddi - Aberystwyth, Y Drenewydd, Caersws a Llanidloes.
Tan yn ddiweddar, Aber a'r Drenewydd oedd yr unig ddau glwb oedd wedi chwarae yn y brif adran ym mhob tymor am y 33 mlynedd ddiwethaf.
Felly sut effaith fydd hyn yn ei gael ar bêl-droed yn y canolbarth?

Mae Neuadd Y Parc - cae Aberystwyth - wedi bod yn cynnal gemau Cymru Premier ers 1992
"Mae'n beth erchyll i'r clwb ein bod ni wedi syrthio," yn ôl rheolwr Aberystwyth Antonio Corbisiero.
"Dwi'n poeni am yr ardal, dwi'n poeni am fy mab yn tyfu fyny [heb glwb yn y Cymru Premier].
"Mae ein academi hefyd wedi cael ei israddio felly mae ganddo ni lai o dimau ieuenctid.
"Mae ganddo ni garfan o 18 o chwaraewyr, a mi fyddai'n colli 13 ohonyn nhw."

Parc Latham yw cartref Y Drenewydd
Tydi Aberystwyth na'r Drenewydd erioed wedi ennill y brif gynghrair, ond mae'r ddau glwb wedi chwarae yn Ewrop.
Fe gafodd Y Drenewydd y cyfle i wynebu Copenhagen o Ddenmarc yng Nghynghrair Europa yn 2015, ac mi oedd 'na fuddugoliaeth gofiadwy iddyn nhw'n erbyn Torshavn o Ynysoedd y Ffaro yng Nghyngres Europa yn 2022.
"Mae'r clwb yma yn haeddu chwarae yn y Cymru Premier, dyna lle 'da ni fod," yn ôl rheolwr Y Drenewydd, Craig Williams.
"Does 'na ddim rheswm pam na fedrwn ni gael tymor llwyddiannus y tymor nesaf.
"Mi fydd 'na dri thîm yn ennill dyrchafiad, felly dyna fydd y nod i ni."
'Ergyd i lot o chwaraewyr lleol'
Un sydd wedi chwarae i Aberystwyth a'r Drenewydd ydy Marc Lloyd Williams, sef y prif sgoriwr yn hanes y Cymru Premier.
Mae ganddo atgofion melys o gynrhychioli'r ddau glwb, ac mae'n poeni am y ffaith na fydd 'na glwb o'r canolbarth yn chwarae yn y brif adran y tymor nesaf.

Marc Lloyd Williams gyda rheolwr Hwlffordd Tony Pennock
"Mae'n bechod gweld y ddau'n disgyn", meddai Marc.
"Doedd 'na neb yn disgwyl gweld Y Drenewydd yn disgyn yn enwedig ar ôl iddyn nhw roi crasfa i Aberystwyth ar benwythnos agoriadol y tymor."
"Mae Aber wedi bod yn hofran uwch ben y ddau safle isaf ers sawl tymor, felly tydi hi ddim yn sioc eu gweld nhw'n mynd.
"Mae dim cynrhychiolaeth yn y Cymru Premier o'r canolbarth yn mynd i fod yn ergyd i lot o chwaraewyr lleol.
"Os ti'n edrych i'r gogledd o Aberystwyth, Y Bala ydi'r tîm agosaf i'r dre wedyn.
"Mae hi yn ergyd fawr, ond yr un cysur ydi fod gan y ddau ohonyn nhw gyfle da i ddod syth 'nôl i fyny y tymor nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2024
- Cyhoeddwyd26 Ionawr