Neil Foden: Cyn-gomisiynydd plant i gadeirio bwrdd craffu ar ymateb Gwynedd

Neil FodenFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd ar ôl cam-drin pedair merch yn rhywiol

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi cyn-gomisiynydd plant Cymru i gadeirio bwrdd fydd yn "cadw llygad fanwl" ar gynllun ymateb y cyngor i droseddu Neil Foden.

Mae'r Athro Sally Holland, sydd wedi'i phenodi, yn uchel ei pharch o fewn y maes gwaith cymdeithasol.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf y llynedd ar ôl cam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Roedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.

Dywedodd yr Athro Holland ei bod hi'n "allweddol" fod y dioddefwyr, y goroeswyr a'r gymuned yn hyderus fod y cyngor yn cymryd camau pendant i ddysgu o'r achos.

Yn ôl Nia Jeffreys, arweinydd Cyngor Gwynedd mae hi'n "hynod falch ein bod wedi gallu apwyntio unigolyn sydd â'r hygrededd uchaf posib".

Sally Holland
Disgrifiad o’r llun,

Sally Holland oedd Comisiynydd Plant Cymru rhwng 2015 a 2022

Bydd y "bwrdd rhaglen" yn gwirio a herio pob agwedd o gynllun ymateb y cyngor i droseddu Foden.

Bydd hefyd yn sicrhau fod yr holl faterion unigol yn cael eu cyflawni'n drwyadl a phriodol, gan adrodd yn rheolaidd i gyfarfodydd cabinet y cyngor.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ochr-yn-ochr ag Adolygiad Ymarfer Plant statudol, sy'n cael ei gynnal gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae sefydlu'r bwrdd yn "un o gonglfeini ymateb Cyngor Gwynedd i'r troseddau erchyll hyn".

Pwrpas y bwrdd, yn ôl y cyngor, fydd "cydlynu a sicrhau cynnydd priodol ac amserol i gamau a gweithdrefnau ymatebol".

'Craffu, herio a chynghori'

Dywedodd Yr Athro Holland ei bod hi'n "allweddol fod y dioddefwyr a'r goroeswyr a'r gymuned ehangach yn hyderus fod y Cyngor yn cymryd camau pendant i ddysgu o amgylchiadau'r achos gofidus hwn".

"Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod allan ei gynllun a bydd pobl Gwynedd yn disgwyl gweld canlyniadau yn dilyn hyn."

Ychwanegodd y bydd gan y bwrdd rôl bwysig i'w chwarae.

"Bydd gan y Bwrdd Rhaglen rôl bwysig wrth graffu, herio a chynghori Cyngor Gwynedd wrth iddo weithredu ei gynllun ymateb, ac fel Cadeirydd byddaf yn ymdrechu i sicrhau bod y cynllun yn cadw momentwm ac yn cael effaith bendant."

Nia Jeffreys
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bwrdd yn "greiddiol i sicrhau fod gwersi yn cael eu dysgu," meddai Nia Jeffreys

Dywedodd Nia Jeffreys, arweinydd Cyngor Gwynedd eu bod "yn parhau i fod wedi cael ein hysgwyd gan y troseddau erchyll a gyflawnwyd".

"Mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda'r dioddefwyr a phawb sydd wedi eu heffeithio," meddai.

Ychwanegodd eu bod wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod "neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto".

"Bydd y Bwrdd Rhaglen yn greiddiol i sicrhau fod gwersi yn cael eu dysgu a'n bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein plant a'n pobl ifanc.

"Mae'n newyddion da fod yr Athro Sally Holland wedi cytuno i gadeirio ein Bwrdd Rhaglen.

"Rydw i'n hynod falch ein bod wedi gallu apwyntio unigolyn sydd â'r hygrededd uchaf posib ac sydd wedi bod yn llais cryf dros hawliau a diogelu plant yng Nghymru ers blynyddoedd lawer."

Ychwanegodd ei bod hi'n "brofiadol iawn" yn y maes, ac y bydd yr Athro Holland yn "llais annibynnol a chadarn".