Ymddiheuriad personol i ddioddefwyr Foden wrth geisio dysgu gwersi

Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Neil Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau yn ymwneud â phedair merch

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu cynnig "ymddiheuriad personol" i bob un o ddioddefwyr a goroeswyr y cyn-bennaeth a'r pedoffeil Neil Foden, wrth gyhoeddi cynllun i ystyried y gwersi sydd i'w dysgu.

Cafodd Foden - a oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes - ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl cam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Ymysg amcanion yr awdurdod yw "rhoi hyder i'r cyhoedd fod y cyngor yn gwneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto", gan ail-adrodd galwadau am ymchwiliad cyhoeddus i droseddau Foden.

Bydd y cynllun, i'w drafod gan y cabinet brynhawn Mawrth, yn cynnwys cydnabyddiaeth "agored a chyhoeddus na ddylai'r fath droseddau fyth fod wedi digwydd" ac i "ymddiheuro'n ddidwyll i'r dioddefwyr a'u teuluoedd".

Gydag amcanion hefyd i gefnogi'r dioddefwyr a sefydlu holl ffeithiau'r achos, yr argymhelliad yw sefydlu bwrdd i fonitro cynnydd, i'w arwain gan berson annibynnol ac yn cynnwys aelodau o gyrff allanol.

Yn ôl arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys, byddai cymeradwyo'r cynllun yn "gam ar y daith" o "droi pob carreg i sefydlu beth aeth o'i le".

'Ymddiheuro o waelod calon'

Fe wnaeth rhagflaenydd Nia Jeffreys ymddiswyddo fel arweinydd y cyngor ar ôl cael ei feirniadu am beidio ag ymddiheuro i ddioddefwyr Neil Foden yn wreiddiol.

Camodd Dyfrig Siencyn i lawr ym mis Hydref wedi i bedwar aelod o'i gabinet ymddiswyddo yn dilyn ei sylwadau mewn cyfweliad ar raglen Newyddion S4C.

Wedi ei hethol i'r arweinyddiaeth ym mis Rhagfyr fe wnaeth Ms Jeffreys alw am ymchwiliad cyhoeddus i achos Neil Foden, a datgan ei bod yn "ymddiheuro o waelod calon" i'r dioddefwyr, ac y byddai'n "troi pob carreg i stopio hyn rhag digwydd eto".

Ond er bod y cyngor wedi ymddiheuro'n gyhoeddus, mae'r awdurdod wedi "cychwyn ar y daith i sefydlu sut i gynnig yr ymddiheuriad personol hwnnw".

Disgrifiad o’r llun,

Wrth ffurfio ei chabinet ar ôl dod yn arweinydd, ni wnaeth Nia Jeffreys ddewis yr un o'r pedwar aelod a ymddiswyddodd o'r hen gabinet mewn protest

Nodir yn yr adroddiad ei fod yn "hanfodol" bod y gwaith yn cael ei arwain gan y dioddefwyr a goroeswyr, gan "ddarparu pob cefnogaeth priodol iddynt i wynebu cyfnod nesaf eu bywydau".

"Rydym yn parhau i dderbyn cyngor ac arweiniad eraill sy'n fwy profiadol yn y maes hwn wrth fynd ati i wneud hyn gan fod yn llwyr wyliadwrus nad ydym yn gwneud unrhyw beth na fyddai'n cael ei groesawu gan y genethod a merched ifanc."

Yn ôl yr adroddiad, bellach mae Person Diogelu Dynodedig ymhob ysgol yng Ngwynedd, sy'n chwarae rhan ganolog mewn diogelu ac amddiffyn plant.

Mae'r cyngor hefyd wedi datgelu bod ymchwiliad annibynnol wedi ei lansio yn sgil honiadau na chafodd adroddiadau o ymddygiad amhriodol gyda phlentyn gan Foden eu dilyn.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024

Ym mis Gorffennaf clywodd cynghorwyr bod ffydd y cyhoedd ym mhrosesau diogelu plant Gwynedd wedi ei "thanseilio" yn sgil achos y cyn-brifathro.

Mae Adolygiad Ymarfer Plant eisoes wedi ei sefydlu gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru o dan gadeiryddiaeth Jan Pickles.

Mae disgwyl canfyddiadau agoriadol yr adolygiad yma i gael eu cyhoeddi yng ngwanwyn 2025 o flaen cyhoeddiad llawn yn yr haf.

Ond mae'r cynghorydd oedd yn arfer bod yn gyfrifol am addysg y sir, Beca Brown, wedi dweud ei bod yn poeni am gyfyngiadau'r adolygiad presennol.

"Does 'na ddim modd gorfodi tystion, gorfodi tystiolaeth a fasa pobl ddim yn cyfrannu ar lw," meddai.

"Ond mi faswn i'n disgwyl, wrth gwrs, y bydd pawb sy'n cael eu galw - pawb sy'n cael eu gwahodd i gyfrannu i'r adolygiad - yn gneud hynny yn llawn ac yn llwyr gydweithredol."

Dywed Cyngor Gwynedd ei fod yn "hanfodol" nad yw'r cynllun yn "tanseilio" gwaith yr Adolygiad Ymarfer Plant.

Ond dywedon nhw y byddai ymchwiliad cyhoeddus lawn - sy'n benderfyniad i Lywodraeth Cymru - yn "cryfhau y broses o gasglu a chloriannu tystiolaeth unigolion" gan fod modd cymell tystiolaeth a thystion dan lw.

'Sefyllfa wirioneddol erchyll'

Mae adroddiad y cyngor sy'n cynnwys y cynllun yn parhau: "Holl bwrpas y Cynllun Ymateb hwn a phob cam sy'n cael eu cymryd gennym yw gwneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto, a dyna ddylai fod ar frig ein hystyriaethau pob amser."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cynllun yn cael ei drafod gan y cabinet brynhawn Mawrth

Yn ôl Ms Jeffreys, byddai cymeradwyo'r cynllun a'r camau sy'n cael eu argymell yn "gam ar y daith" tuag at wireddu'r addewid i "droi pob carreg i sefydlu beth aeth o'i le".

"Mae'r cynllun yn tynnu at ei gilydd mewn un ddogfen y mesurau rydym wedi eu rhoi mewn lle yn barod a'r hyn y byddwn yn ei wneud dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Bydd hyn yn galluogi cynghorwyr, pobl Gwynedd, y Llywodraeth a'r Comisiynydd Plant i fesur ein cynnydd ac adnabod unrhyw fylchau.

"Yn ogystal, gan ei bod yn ddogfen fyw, mae hyblygrwydd i'w haddasu yn ôl yr angen.

"Wrth gwrs, ni fydd y gwaith yma'n troi'r cloc yn ôl nac yn dad-wneud yr effaith ar y dioddefwyr, ond mae'n gynllun cadarn a thryloyw sy'n ymateb i sefyllfa wirioneddol erchyll.

"Ein gobaith yw y bydd y gwaith yma o gymorth i gymuned Ysgol Friars wrth iddynt adfer ac ail-adeiladu ac yn gam ar daith y Cyngor i ymchwilio i'r hyn aeth o'i le a'r gwersi sydd i'w dysgu i'r dyfodol."

Pynciau cysylltiedig