Cyhoeddi cynlluniau cyntaf cwmni ynni cyhoeddus Cymru

Tyrbin gwynt yn cael ei godi yn fferm wynt Pen y Cymoedd ger Treorci, Rhondda Cynon Taf.Ffynhonnell y llun, Carl Court / Getty
Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r ffermydd gwynt sydd dan ystyriaeth gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi 350,000 o gartrefi

  • Cyhoeddwyd

Mae datblygwr ynni gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru wedi cyhoeddi lle y bydd yn adeiladu ei ffermydd gwynt cyntaf, gan addo cannoedd o swyddi.

Mae tri safle wedi'u dewis, gyda'r potensial i gynhyrchu digon o drydan glân i gyflenwi anghenion chwarter cartrefi'r wlad.

Nod cwmni Trydan Gwyrdd Cymru yw cyflymu'r gwaith o godi mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy ar dir cyhoeddus, tra'n sicrhau bod yr elw ddaw o hynny'n aros yng Nghymru.

Ond cwestiynodd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig pam fod angen cymaint o ffermydd gwynt ar y tir pan fod "potensial enfawr" gan Gymru i adeiladu cynlluniau o'r fath yn y môr.

Cafodd Trydan Gwyrdd Cymru ei lansio yn 2024, gyda'r bwriad o ddatblygu gwerth 1 GW o gynlluniau ynni adnewyddadwy newydd ar dir sy'n eiddo i'r llywodraeth erbyn 2040.

Roedd gweinidogion wedi'u hysbrydoli gan gwmnïau gwladol tebyg, fel Vattenfall o Sweden sy'n berchen ar fferm wynt fwyaf Cymru ar dir, sef Pen-y-Cymoedd.

Byddai cael datblygwr ynni glân sy'n eiddo i'r cyhoedd yn golygu bod yr elw ddaw o fanteisio ar adnoddau naturiol Cymru yn cael ei gadw a'i ail-fuddsoddi yn lleol mewn cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus, meddai'r llywodraeth.

Ble fydd y ffermydd gwynt newydd?

Mae'r cwmni bellach wedi cyhoeddi eu cynlluniau arfaethedig cyntaf, gyda'r bwriad o adeiladu ffermydd gwynt yng ngogledd, de a gorllewin Cymru.

Bydd fferm wynt Clocaenog Dau yn cynnwys hyd at 22 tyrbin ger Llyn Brenig, gan groesi'r ffin rhwng Conwy a Sir Ddinbych.

Bydd fferm wynt Glyn Cothi ger Brechfa yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys 27 tyrbin.

A fferm wynt Carreg Wen, rhwng Aberdâr a Maerdy yn Rhondda Cynon Taf yn ychwanegu 18 tyrbin arall i'r cyfanswm.

Petai'r tri chynllun yn llwyddo i sicrhau caniatâd cynllunio a chysylltiad i'r grid, fe allen nhw gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi anghenion 350,000 o gartrefi.

Mae'r cwmni'n rhagweld y bydd y gwaith yn costio £500m, gan arwain at greu oddeutu 650 o swyddi adeiladu.

Mae yna addewid hefyd o 40 o swyddi uniongyrchol a 55 o swyddi anuniongyrchol yn ystod y 35 mlynedd y byddai'r ffermydd gwynt yn gweithredu.

Richard Evans, prif weithredwr Trydan Gwyrdd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Byddwn yn creu ac yn cefnogi swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol o safon," meddai prif weithredwr Trydan Gwyrdd Cymru Richard Evans

Dywedodd gweinidogion y byddai'r cynlluniau yn helpu ateb y galw cynyddol am ynni glân yng Nghymru.

Y disgwyl ydy y bydd y gofyn am drydan bron yn treblu erbyn 2050, er mwyn hwyluso'r newid at gerbydau trydan, pympiau gwres a thechnolegau carbon isel eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i Gymru gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i gwrdd â 70% o anghenion y wlad erbyn 2030, gan gynyddu i 100% erbyn 2035.

Polyn trydan pren ar dir fferm ger Llanydfaelog, Sir Gaerfyrddin - gyda gwartheg yn pori oddi tano.
Disgrifiad o’r llun,

Byddai fferm wynt Glyn Cothi yn cysylltu ag isorsaf dadleuol newydd ger Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin

Mae dau o'r prosiectau eisoes â threfniadau posib yn eu lle ar gyfer cysylltu gyda'r grid trydan.

Y bwriad ydy cysylltu fferm wynt Glyn Cothi drwy linell o bolion pren â'r is-orsaf newydd arfaethedig yn Llandyfaelog, Sir Gaerfyrddin.

Yn yr un modd, byddai 'na linell o bolion pren yn rhedeg o fferm wynt Carreg Wen i is-orsaf newydd posib ger Hirwaun, Rhondda Cynon Taf.

Mae'r ddwy is-orsaf - a'r awgrym o fwy o bolion trydan ar y tir - eisoes wedi profi'n ddadleuol yn lleol.

Yn ôl Trydan Gwyrdd Cymru, fe fyddan nhw'n dechrau ar gyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth ac ymgynghori i'r cyhoedd yn ddiweddarach eleni, gyda'r nod o gyflwyno ceisiadau cynllunio yn 2027.

"Bydd cymunedau'n cymryd rhan a bydd cyllid yn cefnogi blaenoriaethau lleol," meddai'r prif weithredwr Richard Evans.

"Gyda thrydan yn gyrru datblygiad, a chyda'r elw o'r buddsoddiad hwn yn cael ei gadw yng Nghymru, mae gennym gyfle unigryw i fanteisio ar y prosiectau a'r buddion lluosog y maent yn eu cynnig".

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Ynni Rebecca Evans: "Drwy ddatblygu'r prosiectau hyn ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, rydym yn gwneud y defnydd gorau o'n tir cyhoeddus i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a chreu cyfleoedd economaidd cynaliadwy."

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n rheoli'r tir lle bydd y tyrbinau'n cael eu hadeiladau, fe fyddan nhw'n sicrhau bod yr holl isadeiledd "yn cael ei integreiddio yn ofalus".

"Bydd y gwaith o dorri coed yn cael ei gyfyngu, nodweddion amgylcheddol pwysig yn cael eu gwarchod, ac ardaloedd newydd o goetir yn cael eu plannu," eglurodd Elsie Grace o'r corff.

"Bydd y gwaith hollbwysig o gynhyrchu pren a gwarchod yr amgylchedd yn parhau, tra bod cyllid ychwanegol yn cael ei godi drwy'r prosiectau ynni gwynt".

Ond rhybuddiodd Dr Jonathan Dean o'r Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig y byddai yna wrthwynebiad yn lleol.

Roedd y tyrbeini dan ystyriaeth yn dalach na'r rhai sydd eisoes yn cael eu defnyddio ar y tir yng Nghymru, meddai - o leiaf 200m mewn uchder.

Mynnodd fod y grŵp yn gefnogol o ynni gwyrdd ond bod rhaid lleoli cynlluniau yn y llefydd cywir.

"Rhaid i ni amddiffyn ein tirweddau, ein tir - ac mae ffermydd gwynt yn y môr yn gwneud hynny," meddai.