Cau canolfan ddydd i oedolion yn Noc Penfro

Daeth protestwyr ynghyd tu allan i adeilad Cyngor Sir Penfro ym mis Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Penfro wedi derbyn cynnig i gau canolfan ddydd yr Anchorage yn Noc Penfro erbyn mis Tachwedd.
Pleidleisiodd yr holl aelodau cabinet a oedd yn bresennol yn y cyfarfod fore Llun o blaid cau’r ganolfan.
Fe fydd Canolfan Bro Preseli yng Nghrymych a Chanolfan Lee Davies yn Arberth yn trosglwyddo i fodelau menter gymdeithasol erbyn Ebrill 2025.
Bydd Cyngor Sir Penfro yn trefnu bws uniongyrchol i’r unigolion, sy’n galw eu hunain yn “deulu”, i ganolfan ddydd Meadow Park yn Hwlffordd, 10 milltir o’r Anchorage.
Ond mae arweinydd y grŵp annibynnol ar y cyngor, y Cynghorydd Huw Murphy, y bydd cais swyddogol yn cael ei gyflwyno yn galw am ail ystyried y penderfyniad ar ddyfodol y canolfannau dydd.
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2024
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2024
Ym mis Gorffennaf fe wnaeth protestwyr gasglu y tu allan i Neuadd y Sir yn Hwlffordd yn galw ar Gyngor Sir Penfro i achub canolfannau dydd oedolion y sir.
Ar y pryd roedd y cyngor wedi’u cyhuddo o “roi punnoedd o flaen pobl” gan deuluoedd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu, Tessa Hodgson, fod adroddiad newydd yn dangos bod gan yr Anchorage gostau cynnal a chadw o dros £400,000.
Mae'r cyngor yn wynebu bwlch ariannol o £32.3m ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
Ychwanegodd: “Rwy’n gwerthfawrogi pa mor anodd, cythryblus a dirdynnol mae’r cyfnod yma wedi bod i deuluoedd ac anwyliaid, a hefyd i’n staff ymroddedig.
“Rwy’n gobeithio, yn dilyn ein penderfyniad heddiw, gan dderbyn nad dyna’r hyn yr oedd rhai teuluoedd yn gobeithio amdano, y bydd y cyfnod o ansicrwydd yn dod i ben.”

Mae'r penderfyniad yn "hynod siomedig", meddai Georgina Knowles
Roedd Georgina Knowles, o Templeton, yn y brotest ym mis Gorffennaf gyda’i merch, Sapphire, 28, sy’n mynychu canolfan Bro Preseli.
Dywedodd ei bod hi a Sapphire yn “hynod siomedig” gyda'r cyhoeddiad fore Llun.
Yr Anchorage yw'r unig ganolfan ddydd o'r dair sy'n eiddo i'r cyngor. Mae Canolfan Lee Davies a Chanolfan Bro Preseli yn cael eu rhentu gan Gyngor Sir Penfro.
Ychwanegodd Ms Knowles: “Ni ddim eisiau menter gymdeithasol. Mae gan y Cyngor Sir beth maen nhw ei eisiau, dim canolfannau dydd.
"Y peth trist yw na fydd yn arbed un geiniog iddynt. Mae pawb angen gofal!”

Fe fydd canolfan ddydd yr Anchorage yn cau erbyn mis Tachwedd
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, Mel Laidler, y bydd y cyngor yn "gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw pawb gyda’i gilydd".
"Bydd hyn yn cynnwys bws uniongyrchol o'r Anchorage i Meadow Park yn Hwlffordd. Bydd y daith yn cymryd tua 20 munud," meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson fod pawb sy'n defnyddio'r canolfannau dydd ac a fydd yn cael eu heffeithio wedi cael asesiad un-i-un i weld beth yw'r dewisiadau amgen gorau.
Fe wnaeth Mel Laidlaw gyfaddef fod sgyrsiau gyda theuluoedd wedi bod yn “anodd”.
Bydd Canolfan Lee Davies a Chanolfan Bro Preseli yn trosglwyddo i fodelau menter gymdeithasol ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, ac yn ôl Ms Hodgson, fe fydd yr amserlen hon yn caniatáu cyfnod o graffu pellach gan y cyhoedd a'r cyngor.
Ychwanegodd Ms Hodgson, yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol: "Ry'n ni eisiau i bobl hŷn a phobl gydag anableddau gael ystod eang o bethau i'w wneud yn eu cymunedau lleol sy'n cynnig pwrpas, cysylltiad, a pha'n fo hynny'n addas, cyfle i wneud cynnydd.
"Ar bob cam o'r ffordd ry'n ni wedi ceisio cydbwyso anghenion y defnyddwyr a'u teuluoedd gyda'r angen i newid, ac fe fyddwn yn parhau i gefnogi defnyddwyr wrth i'r broses yma barhau.
"Hoffwn bwysleisio na fydd unrhyw ddefnyddwyr yn cael eu gadael heb gymorth o ganlyniad i'r penderfyniad yma."