Storm Bert: Beth nesaf i'r busnesau sydd methu cael yswiriant?

Mill Street / Stryd y FelinFfynhonnell y llun, Cerith Mathias
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Heol y Felin wedi dioddef llifogydd drwg am yr eildro ers 2020.

  • Cyhoeddwyd

Mae perchennog siop sydd wedi ei heffeithio gan lifogydd sawl tro yn dweud nad yw’n gallu cael yswiriant ac mae’n bosib y bydd rhaid iddo gau'r busnes o ganlyniad.

Cafodd siop sglodion Abdul Chowdry ar Heol y Felin, Pontypridd, ei tharo gan lifogydd yn ystod Storm Bert ddydd Sul diwethaf.

Dywedodd ei fod wedi gorfod lleihau maint y busnes yn dilyn Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, a'i fod wedi methu yn ei ymgais i werthu'r siop.

Mae perchnogion siopau eraill ar Heol y Felin yn y dref wedi dweud y byddan nhw'n gorfod talu am y gwaith adfer wedi'r difrod gafodd ei achosi gan Storm Bert allan o'u pocedi eu hunain.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Abdul Chowdry ddim yn dweud bod dyfodol ei fusnes yn ansicr ar ôl wynebu un her ar ôl y llall

Mae Mr Chowdry wedi rhedeg y siop sglodion ers 10 mlynedd, ond dywedodd ei fod yn teimlo dan bwysau gan nad yw'n gallu cael yswiriant ar gyfer unrhyw lifogydd.

Mae'n credu fod Storm Bert wedi achosi gwerth tua £10,000 o ddifrod iddo.

"Alla i ddim gwerthu'r lle yma," meddai, “fydd neb yn ei brynu, fydda i ddim hyd yn oed yn derbyn yr hyn wnes i dalu amdano".

"Roedden ni'n arfer bod yn stryd brysur. Ond mae'r ddwy neu dair blynedd ddiwethaf yn araf. Dim ond jyst goroesi ydym ni.

Roedd Mr Chowdry yn gobeithio ail-agor y siop ddydd Mercher ond roedd ei offer coginio wedi ei ddifrodi gan y dŵr.

"Yn 2020, fe gymerodd hi chwe mis i fynd yn ôl i normal," ychwanegodd, "y tro yma does dim yswiriant o gwbl. Does dim cymaint o ddifrod y tro hwn ond, yn ariannol, rydym mewn trafferthion".

"Dydw i ddim yn gallu talu'r cyflogau ar hyn o bryd, bydd yn rhaid i mi gael gwared ag aelodau o staff."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeff Baxter yn dweud bod y gymuned wedi dod at ei gilydd yn gyflym i lanhau'r difrod

Fe wnaeth sawl perchennog busnes adael Heol y Felin yn dilyn Storm Dennis, ac roedd maint y difrod yr wythnos diwethaf yn sioc i nifer o'r tenantiaid ddaeth yn eu lle.

Un o'r tenantiaid newydd yw Jeff Baxter, 54, perchennog siop lyfrau ar y stryd.

Eglurodd ei fod yn "ymwybodol na fydde ni’n cael yswiriant yn erbyn llifogydd".

"Ond y sôn yn ystod y llifogydd blaenorol oedd bod Storm Dennis yn ryw fath o ddigwyddiad 'unwaith mewn 50 mlynedd'," meddai.

Dywedodd ei fod wedi colli gwerth tua £20,000 o stoc yn y llifogydd.

"Un funud roedd y cyfan yn iawn ac yna'n sydyn fe ddechreuodd y dŵr saethu drwy'r draeniau," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Cerith Mathias
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd siop Storyville Books mwy na 50% o'u stoc yn yn y llifogydd

Dywedodd Mr Baxter fod cefnogaeth pobl leol a'r gymuned lyfrau ehangach wedi bod yn ardderchog, gan alw'r sefyllfa'n "wake-up call".

"Mae pobl wastad eisiau beio pobl eraill, ond dwi'n cymryd cyfrifoldeb; does gen i ddim gatiau llifogydd, a dwi wedi bod ychydig yn hunanfodlon ac yn naïf," meddai.

Dywedodd fod ateb hirdymor i'r mater yswiriant sy'n wynebu'r stryd yn hanfodol.

"Mae'r ffaith bod cwmnïau'n cael rhoi gwaharddiad cyffredinol [ar ardal] yn broblem, a'r unig ateb yw ymyrraeth gan y llywodraeth," meddai.

"Nid bod pobl ddim yn barod i dalu, ond ar ôl popeth mae Pontypridd wedi bod trwyddo, gallem ddefnyddio'r cymorth deddfwriaethol hwnnw i roi cyfle i ni helpu ein hunain."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn helpu Jeff a thîm y siop lyfrau gyda'r gwaith adfer yn dilyn Storm Bert

Symudodd Jayne Coleman, 59, i'w siop nwyddau cartref ym mis Mawrth 2022 gan egluro bod gan Stryd y Felin y "broblem unigryw" o brofi llifogydd o'r draeniau o flaen y siopau, ac Afon Rhondda i'r cefn.

"Roedd y system oedd wedi ei rhoi ar waith ar ôl Storm Dennis i gyd fel petaen nhw'n methu," meddai.

"Pwy sy'n gyfrifol? Mae'r gêm feio eisoes wedi dechrau!"

Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf y byddai'n cynnig Grant Adfer Llifogydd Cymunedol gwerth £1,000, yn ychwanegol at gynllun Llywodraeth Cymru, ar gyfer preswylwyr a busnesau, yn ogystal â chyllid dewisol ar gyfer mesurau atal llifogydd.

Maen nhw wedi addo gweithio gyda phob sefydliad arall "i ddeall yn well beth y gellid neu y gellir ei wneud i leihau'r risg i eiddo a sicrhau bod pwy bynnag sy'n gyfrifol yn gallu gweithredu ar y canfyddiadau".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jayne Coleman bod angen dod o hyd i ateb hirdymor os yw busnesau annibynnol yn mynd i aros yn y dref

Dywedodd Dominic Driver, rheolwr strategol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fod rhybudd llifogydd ar gyfer Pontypridd wedi ei gyhoeddi ddydd Sadwrn, gan "roi rhybudd ymlaen llaw i bobl fod llifogydd yn bosib, ac i fod yn barod", ynghyd â rhybudd ychwanegol fore Sul pan gyrhaeddodd "yr afon [Taf] lefel tanio’r rhybuddion llifogydd".

Ar raglen Politics Wales, dywedodd yr ysgrifennydd cabinet sy'n gyfrifol am newid hinsawdd, mewn ymateb i gwestiwn a yw CNC yn cael digon o arian i ateb eu gofynion bod y corff wedi derbyn y lefel cyllido uchaf erioed.

Dywedodd Huw Irranca-Davies bod arian wedi ei roi hefyd at wahanol gynlluniau ac ar gyfer cydweithio gyda chymunedau

"Un o'r prif bethau o ran cymunedau, cartrefi a busnesau yw sut y gallwn ni ymyrryd yn ddoeth fel y gall pobl fod yn ôl at eu traed, yn eu cartrefi a busnesau, yn gyflym," dywedodd.

Gan gydymdeimlo a chydnabod rhwystredigaeth busnesau ar Heol y Felin sydd wedi dioddef wedi Storm Bert, dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru bod eu carffosydd, serch "mwy na mis law o fewn cyfnod byr... wedi aros yn glir ac wedi gweithio yn unol â'u dyluniad".

Ychwanegodd: "Er na achosodd y carthffosydd unrhyw lifogydd, rydym yn gwybod bod rhwydweithiau draenio ehangach wedi eu llethu [yn ystod y storm] a byddwn yn parhau i gydweithio â Chyngor Rhondda Cynon Taf Council ac asiantaethau eraill o ran y ffordd orau o reoli llifogydd yn y dyfydol."

Dywedodd y Swyddfa Dywydd ei bod yn bwysig nodi bod gwahaniaeth rhwng eu rhybuddion tywydd garw a'r rhybuddion llifogydd, ond ychwanegodd: "Bydd asesiad llawn o'r strategaeth rhagolygon a rhybuddion yn digwydd gyda'n partneriaid.”

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cynnig hyd at £1,000 i aelwydydd sydd wedi eu heffeithio, gan ychwanegu y dylai busnesau gysylltu â Busnes Cymru, gyda chefnogaeth bwrpasol bellach i'w hystyried "wrth i effaith Storm Bert gael ei deall yn well".

Mae llywodraeth Cymru, ynghyd â llywodraeth y DU, wedi cael cais am sylw ar y mater yswiriant.

Pynciau cysylltiedig