Dim siwt na diwrnod ffwrdd - sioc meddyg ifanc o ennill gwobr ganu

Caleb a'i deuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Caleb (ail o'r dde) gyda rhai aelodau o'i deulu ar ôl ennill ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Cafodd meddyg ifanc dipyn o sioc yr wythnos hon ar ôl iddo gipio gwobr goffa Osborne Roberts am ganu yn yr Eisteddfod.

Dim ond chwe blynedd yn ôl gychwynnodd Caleb Nicholas, o Sir Benfro, gael gwersi canu.

Mae Caleb, 24, yn gweithio fel meddyg yng Ngholeg Brenhinol Morgannwg ac yn dweud bod canu yn "ddihangfa" iddo.

Nid oedd wedi rhagweld y byddai'n cyrraedd y gystadleuaeth - doedd ganddo ddim siwt yn barod, a doedd heb ofyn am ddiwrnod i ffwrdd o'r gwaith.

'Anrhydedd mawr'

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd mai ei fwriad gwreiddiol oedd "gwneud fy ngorau yn y [gystadleuaeth] bas bariton, ac wedyn oedd cael llwyfan ac ennill hwnna yn fraint yn ei hunain".

Roedd ei ragbrofion ar gyfer y gystadleuaeth bas bariton ddydd Mawrth, yna ar y llwyfan ddydd Mercher ac yn dilyn ennill y gystadleuaeth cafodd ei wahodd i gystadlu yn yr Osborne Roberts ddydd Iau.

"Roedd e'n hollol annisgwyl cael y cyfle i gystadlu yn yr Osborne Roberts, sy'n gystadleuaeth mor anrhydeddus a chyfle newydd i gystadlu ar lefel yn uwch."

Ond ag yntau'n feddyg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg - ac i fod i dderbyn ei sesiwn anwytho i fod yn ddoctor pediatrig ddydd Gwener - dywedodd nad oedd wedi cymryd dydd Iau a Gwener i ffwrdd o'r gwaith.

Ar ôl taro mewn i un o'i gyn gyd-weithiwyr ar y Maes, fe lwyddodd i gael gweddill yr wythnos i ffwrdd, ac roedd yn medru cystadlu i ennill yr ysgoloriaeth.

Dywedodd fod ennill y wobr goffa yn "anrhydedd mawr".

Caleb Nicholas Ffynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond chwe blynedd yn ôl wnaeth Caleb gychwyn canu

Dywedodd fod "ennill y gystadleuaeth bas bariton yn annisgwyl ond wedyn wedd mynd trwy i'r Osborne Roberts yn hollol annisgwyl achos o'n i heb feddwl amdano fe achos o'n i'n gwybod oedd gwaith 'da fi".

Roedd hyd yn oed heb ddod â siwt gydag ef i'r Eisteddfod am nad oedd wedi meddwl y byddai'n cyrraedd y gystadleuaeth.

"Daeth fy mrawd i â'r siwt lan i Landysul o Efail Wen ac wedyn daeth fy chwaer i â fe o Landysul lan i Wrecsam erbyn bore dydd Iau so wedd gwisg 'da fi yn y diwedd!"

Newid gyrfa?

Ond a fydd Caleb yn cyfnewid y scrubs am y meicroffon fel swydd?

Dywedodd: "Mae e'n rhywbeth dwi'n rili mwynhau gwneud, dwi wedi buddsoddi lot o amser i baratoi tuag at y gystadleuaeth hon, ond mae e'n gyferbyniad neis iawn gyda gwaith o ddydd i ddydd.

"Mae e'n ddihangfa rili o stress gwaith, gweithio fel meddyg ac mae'n ddihangfa neis o waith 9-5."

Wrth edrych ymlaen at ei ddyfodol fel canwr, dywedodd ei fod yn gobeithio "parhau i gystadlu, gobeithio cystadlu'r flwyddyn nesaf yn y cystadlaethau agored, gewn ni weld sut eith hi, cadw datblygu'r llais".

Fe ddiolchodd i'w athrawes, Eilyr Thomas, a enillodd wobr T H Parry Williams yn gynharach yr wythnos hon ar Faes yr Eisteddfod.

"Hebddi hi sai'n credu fysen i wedi parhau i ganu o gystadlu tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2018.

"Mae'n dysgu mewn modd mor naturiol sy'n gweddu i 'nghymeriad i, sy'n gwneud fi'n fwy cyfforddus," meddai.

Dywedodd ei fod wedi cael cyfle i ddathlu gyda'i ffrindiau yn dilyn y fuddugoliaeth: "Daeth gang i gwrdd â fi gefn llwyfan - gobeithio newn nhw brynu peint i fi heno!"

Bydd Caleb yn derbyn gwahoddiad gan Ŵyl Cymru Gogledd America (NAWF) i berfformio yn eu dathliad blynyddol ar Ddiwrnod Llafur, yn gynnar ym mis Medi 2026 yn Springfield, Massachusetts.