Cyngor yn diwygio cynnig i ofyn pam fod rhieni'n dewis addysg Gymraeg

Bydd y gwelliant newydd yn ystyried nifer o ffactorau megis iaith, canlyniadau dysgu a darpariaeth cludiant
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio o blaid diwygio cynnig dadleuol oedd yn ystyried gofyn i rieni pam eu bod nhw am ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant.
Daw wedi i aelodau'r Pwyllgor Craffu Addysg benderfynu anfon y penderfyniad gwreiddiol yn ôl at y cabinet i'w ailystyried.
Roedd Comisiynydd y Gymraeg hefyd wedi mynegi pryder eu bod yn "cyfleu negeseuon negyddol i rieni".
Cafodd gwelliant ei basio gan y cabinet ar 28 Ebrill yn galw ar swyddogion i gael "gwell dealltwriaeth o'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg".
Daeth ar gais y dirprwy arweinydd Paul Miller, a ddywedodd nad oedd rhai rhieni yn "poeni dim" bod eu plant yn cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ond yn hytrach yn dewis yr ysgol am ei bod hi'n ysgol "dda".
Mae'r gwelliant newydd yn cael gwared ar y cyfeiriad uniongyrchol at yr iaith Gymraeg.
Yn hytrach, mae'n gofyn i'r Cyfarwyddwr Addysg archwilio'r galw am leoedd mewn ysgolion yn seiliedig ar amryw o ffactorau.
Mae'r ffactorau hynny'n cynnwys iaith, canlyniadau dysgu, ansawdd gwasanaethau, darpariaeth cludiant a darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mewn cyfarfod cabinet arbennig ddydd Mercher, fe wnaeth Paul Miller gyhuddo arweinydd yr wrthblaid, y cynghorydd Huw Murphy, o ysu i gael paentio'r weinyddiaeth fel un gwrth-Gymreig, er bod hynny, meddai, "ymhell o fod yn wir".
Dywedodd y Cynghorydd Miller fod ganddo gymaint o ddiddordeb clywed penderfyniad rhieni dros anfon eu plant i ysgolion Saesneg eu hiaith hefyd.
Awgrymodd y dylai'r gwelliant gwreiddiol gael ei ddiwygio i fod yn fwy eang, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, iaith.
Roedd Mr Murphy wedi disgrifio sylwadau Mr Miller mewn cyfarfodydd blaenorol fel rhai oedd wedi peri "loes a rhwystredigaeth", gan alw am ymddiheuriad gan yr arweinydd Jon Harvey.

Dywedodd y Cynghorydd Miller fod ganddo ddiddordeb mewn clywed penderfyniad rhieni dros anfon eu plant i ysgolion Saesneg eu hiaith hefyd
Wrth ailystyried y gwelliant, dywedodd y cynghorydd Tessa Hodgson ei bod yn eilio cynnig y cynghorydd Paul Miller, am fod y meini prawf "yn cael eu hehangu".
Roedd yr arweinydd Jon Harvey hefyd yn cytuno gyda chynnig Mr Miller i ddiwygio'r gwelliant, gan ddweud nad oedd yr hyn roedden nhw'n gofyn i'r Cyfarwyddwr Addysg ei wneud yn afresymol.
Dywedodd ei fod hefyd yn teimlo fod y sefyllfa wedi cael ei "chwythu i fyny", lle'r oedd y cabinet yn cael eu portreadu yn wrth-Gymreig neu yn erbyn yr iaith Gymraeg, er mai "nid dyna'r achos".
Dywedodd mai eu bwriad oedd casglu "ychydig mwy o ddata" am y pwnc, a'u bod wedi buddsoddi'n helaeth mewn darpariaeth iaith Gymraeg.
"Ry'n ni'n sicr ddim yn gwrthwynebu darpariaeth Gymraeg yn Sir Benfro mewn unrhyw fodd," meddai.
Llythyr Comisiynydd yn destun 'embaras'
Yn ystod trafodaeth y cabinet, fe ddywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Steven Richards-Downes ei fod wedi gofyn am gyngor gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd eu bod wedi ei gynghori i "beidio ceisio casglu data ychwanegol ynglŷn â materion nad oedd yn uniongyrchol berthnasol".
Penderfynu beirniadu Comisiynydd y Gymraeg wnaeth y cynghorydd Jacob Williams, gan ddweud fod llythyr Efa Gruffudd Jones wedi rhoi'r cart o flaen y ceffyl.
"Dyna'i gyd wnaethon ni oedd holi swyddogion pa mor ymarferol fyddai casglu'r data," meddai.
Dywedodd y dylai Comisiynydd y Gymraeg deimlo "embaras" dros anfon ei llythyr ac fe awgrymodd nad oedd hi wedi ymddwyn mewn ffordd ddiduedd.

Roedd Efa Gruffydd Jones wedi dweud ei bod hi'n "pryderu am y gwelliant am sawl rheswm"
Mewn ymateb, dywedodd Efa Gruffudd Jones: "Yn fy ymateb gwreiddiol i'r ymholiad a dderbyniais ynghylch y mater hwn fe wnes i gwestiynu'r rhesymeg dros wneud asesiad am addysg Gymraeg yn benodol.
"Mae'r cynnig a basiwyd heddiw wedi ymateb i'r hyn a godais yn y llythyr hwnnw gan mai gofyn i ystyried gwneud asesiad mwy cyffredinol y mae'r Cyngor bellach.
"Wedi dweud hynny mae fy sylwadau gwreiddiol yng nghyd-destun darpariaeth addysg Gymraeg yn parhau yn ddilys sef bod yna ddisgwyliad i awdurdodau lleol fynd ati yn rhagweithiol i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a thrwy hynny annog mwy o rieni i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant.
"Roedd yn braf gweld gŵyl gyhoeddi lwyddiannus yn Arberth ddydd Sadwrn lle daeth cannoedd o bobl at ei gilydd i ddathlu diwylliant a Chymreictod wrth iddynt groesawu yr Eisteddfod Genedlaethol i'r sir yn 2026.
"Mae hyn yn adlewyrchu'r gwaith da a chadarnhaol sy'n digwydd ym Mhenfro yng nghyd-destun addysg Gymraeg a gobeithio y gellir adeiladu ar hynny yn y dyfodol."
'Dyma rôl Comisiynydd y Gymraeg'
Yn ôl Meirion Prys Jones, cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg a chyn-brif weithredwr Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Lleiafrifol, mae rôl awdurdodau lleol tuag at yr iaith Gymraeg "yn glir".
"Mae ganddyn nhw darged sydd wedi cael ei osod gan y llywodraeth a'u job nhw fan hyn yw mynd ati i gyrraedd y targed," meddai.
"Does dim angen mesur y galw. Mae angen cynllunio'n strategol."
Ychwanegodd fod ymyrraeth Comisiynydd y Gymraeg yn gwbl briodol.
"Dyma yw rôl Comisiynydd y Gymraeg, sef gweld os oes 'na rywbeth negyddol yn digwydd o safbwynt y Gymraeg, rhywbeth sy'n torri'r rheolau, rhywbeth sy'n gwbl amhriodol.
"Pan mae hynny'n digwydd, dyna rôl comisiynydd.
"Mae rhywun yn edrych yn ôl dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf, ac mae 'na newidiadau mawr wedi bod yn digwydd yn Sir Benfro o safbwynt y cynllunio ar gyfer addysg Gymraeg.
"Mae'r newidiadau 'na wedi bod yn rhai cadarnhaol iawn.
"Mae'n drist falle'n gweld ni'n disgyn yn ôl i'r hen ddadl yma - de Sir Benfro yn erbyn y gogledd ac yn y blaen - hynny sy'n drist dwi'n meddwl.
"Ro'n i'n gobeithio ein bod ni wedi dod allan o'r cyfnod yna, a'n bod ni'n gallu cynllunio ar gyfer addysg Gymraeg, fel bod e ar gael drwy'r sir, ond maen amlwg fod hynny ddim yn wir."
Dywedodd y cyngor mewn datganiad eu bod yn credu ei bod hi'n "bwysig casglu'r wybodaeth orau bosib" er mwyn sicrhau bod modd gwneud "y penderfyniadau cywir er lles disgyblion a'i rhieni".