Cyfarfod i drafod treth etifeddiant yn 'siomedig iawn'

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones y byddan nhw "yn parhau i geisio dod at ddatrysiad gwell"
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones y byddan nhw "yn parhau i geisio dod at ddatrysiad gwell"

  • Cyhoeddwyd

Mae undebau amaeth yn dweud eu bod yn "siomedig iawn" yn dilyn cyfarfod gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â newidiadau i'r dreth etifeddiant.

Bu NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn cyfarfod â'r gweinidog yn y Trysorlys, James Murray AS fore Mawrth.

Yn ei chyllideb fis Hydref y llynedd, fe gyhoeddodd y Canghellor, Rachel Reeves y byddai ffermydd sydd werth dros £1m yn wynebu treth etifeddiant yn y dyfodol ar raddfa o 20%.

Ers hynny, mae'r llywodraeth wedi honni droeon bod lwfansau eraill yn golygu bod y trothwy mewn gwirionedd yn nes at £3m i nifer.

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod y newidiadau yn deg ac yn effeithio ar y "ffermwyr mwyaf cyfoethog".

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones ei fod yn "siomedig iawn" gyda'r hyn ddigwyddodd yn y cyfarfod fore Mawrth.

"Aethon ni yno yn disgwyl cael y cyfle i gynnig a chwilio am ddatrysiad i'r mater yma - yr argyfwng enfawr rydyn ni'n wynebu fel diwydiant.

"Roedd gynnon ni ddatrysiad ac opsiwn arall i'r Trysorlys fyddai ddim wedi cael yr un effaith ddinistriol ar ffermydd teuluol ar draws y wlad.

"Doedden nhw ddim yn hapus a ddim hyd yn oed yn barod i ystyried opsiynau eraill."

Ond dywedodd Mr Jones y byddai'n "dyfalbarhau".

"Mae'n aelodau ni ar hyd a lled y wlad, mae 'na ffermydd teuluol sy'n dibynnu arnon ni i geisio dod at ddatrysiad gwell, a byddwn ni'n parhau i wneud hynny, beth bynnag wnawn ni."

'Sicr' y bydd rhagor o brotestiadau

Mewn cyfweliad ar raglen y Post Prynhawn, ychwanegodd Mr Jones ei fod yn rhagweld rhagor o brotestiadau yn cael eu cynnal.

"Dwi'n gwrthod ildio am y rheswm syml fod yr effaith y mae hyn yn mynd i'w gael ar y diwydiant yn enfawr... mae'n rhaid i ni ddyfalbarhau.

"Mae'r ymrwymiad i barhau, ac i geisio gwneud rhywbeth i newid y dreth yma am fod yn un o'r uchelgeisiau mwyaf sydd gen i.

"Mae'n sicr y bydd 'na fwy o brotestiadau... mae'r emosiwn yn uchel. Mae'r ffermwyr sydd wedi bod trwy'r ffigyrau yn gweld fod hyn am fod yn niweidiol iawn i'w busnesau, ac i'r bobl ifanc sy'n dymuno dod i mewn i'r diwydiant.

"Gobeithio wir y daw 'na well ddatrysiad i'r broblem yma."

'Taflu ffermwyr i ffau'r llewod'

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman eu bod wedi egluro yn y cyfarfod bod ffermwyr yn ceisio delio gyda "phoen meddwl a straen".

"Ond doedd dim arwydd eu bod nhw'n fodlon newid unrhyw beth a dim parodrwydd i drafod ymhellach wrth symud ymlaen a dod o hyd i ffordd ymlaen i ni fel ffermwyr."

Dywedodd Aelod Seneddol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, David Chadwick AS bod Llywodraeth y DU yn "taflu ffermwyr Cymru i ffau'r llewod".

Ychwanegodd AS Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe y gallai hyn "fod yr hoelen olaf yn yr arch i nifer o gymunedau sy'n gweld pethau'n anodd".

"Bydd yn golygu y bydd pobl yn symud o gefn gwlad ac yn effeithio ar yr iaith Gymraeg, yn ogystal â'r economi," meddai.

Mae'r BBC wedi cysylltu â Llywodraeth y DU am ymateb.