Cadeirydd 'ddim yn gwybod' am gynllun i drin cleifion yn Lloegr
- Cyhoeddwyd
Doedd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddim yn gwybod am gynllun newydd llywodraethau Cymru a Phrydain i gydweithio'n agosach er mwyn lleihau rhestrau aros.
Fe gyhoeddodd y ddwy lywodraeth Lafur yr wythnos hon y gallai cleifion gael eu trin ar naill ochr y ffin er mwyn ceisio lleihau'r nifer sydd ar restrau aros.
Wrth siarad wedi cyfarfod blynyddol y bwrdd iechyd, fe ddywedodd Dyfed Edwards hefyd nad oedd o’n credu bod y bwrdd iechyd yn barod i ddod allan o fesurau arbennig ond bod gwaith da a chynnydd yn digwydd.
Dywedodd wrth Newyddion S4C mai’r flaenoriaeth o hyd yw gwella safon y gofal a’r ddarpariaeth i’r 700,000 o gleifion yng ngogledd Cymru.
- Cyhoeddwyd23 Medi
- Cyhoeddwyd6 Medi
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
Fel rhan o'r cynllun newydd mi fyddai cleifion o Loegr hefyd yn gallu derbyn triniaeth yng Nghymru, ond yn ôl cadeirydd bwrdd iechyd y gogledd mae rhannu adnoddau eisoes yn digwydd.
“Mae 'na gydweithio yn digwydd rhyngom ni fel bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr," meddai Mr Edwards.
“Maen nhw’n rhan hanfodol o’r hyn allwn ei gynnig i gleifion bob dydd a phob wythnos.
“Ond mae’r mater o ddweud bod byrddau iechyd eraill yn gallu cymryd pobl o restrau aros... dwi’n meddwl fod hynny’n fater arall sydd angen ei wyntyllu yn ofalus a gweld be di’r manylion”.
Symud y broblem o un wlad i’r llall?
Wrth holi a oedd Mr Edwards yn gwybod am y manylion cyn y cyhoeddiad ddydd Llun yng nghynhadledd y blaid Lafur yn Lerpwl, dywedodd “dwi ddim yn meddwl bod neb yn gwybod am y cyhoeddiad”.
Yn ôl Mr Edwards, roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan eisoes wedi awgrymu cydweithio ar draws y ffin pan yr oedd hi'n weinidog iechyd, ond mae’n mynnu hefyd bod angen gweld rhagor o fanylion.
“O ble mae’r gefnogaeth am ddod, o le mae’r cynnig yn mynd i ddod?
“Mae’r ysbytai yna (yn Lloegr) eu hunain ‘dan bwysau dwi’n tybio, ac mae 'na beryg yn does i ni symud y broblem o un wlad i’r llall,” meddai.
Yn 2023 fe roddwyd bwrdd iechyd y gogledd ‘dan fesurau arbennig oherwydd pryderon sylweddol gan Lywodraeth Cymru.
Bron i 18 mis yn ddiweddarach, wrth ofyn a oedd Mr Edwards yn credu ei bod hi'n amser dod a’r trefniant yna i ben, dywedodd nad oedd “dyddiad pendant” i hynny.
“Be dwi’n ei weld ydi cyfle i gyd-weithio efo’r llywodraeth i greu'r bwrdd iechyd gorau posib i gleifion.
“Fyddwn i ddim mewn mesurau arbennig am byth ond byddwn i’n dweud ei bod hi dal yn ddyddiau cynnar,” ychwanegodd.
Wrth drafod y flwyddyn sydd i ddod, dywedodd Mr Edwards fod gwaith da ar y gweill gan y dros 20,000 o staff sy’n gweithio i’r bwrdd iechyd ond bod yr hinsawdd ariannol yn parhau yn heriol.
“Dwi’n gobeithio bydd dyfodol ariannol ein gwasanaethau cyhoeddus yn well nag ydi o ar hyn o bryd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
- Cyhoeddwyd17 Chwefror