Galw am sefydlu clinig menopos yn y gogledd-orllewin
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Ynys Môn wedi lansio ymgyrch i sefydlu clinig gwasanaethau menopos yng ngogledd-orllewin Cymru.
Er bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn darparu clinigau menopos yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy, mae pryder bod menywod mewn rhannau eraill o'r dalgylch yn colli allan.
Mae Delyth Owen, 61, o Lanfaelog ger Rhosneigr, wedi llunio deiseb sy'n galw am sefydlu clinig tebyg yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor gan fod "genod yma yn cael eu hanghofio".
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod eu "harbenigwyr menopos yn aml yn cynnal ymgynghoriadau rhithiol i osgoi teithio, a all fod yn anodd i rai, ac mae hyn yn cael ei werthfawrogi'n fawr".
Fe ddechreuodd Delyth Owen brofi symptomau'r menopos yn ei 50au.
"Oedd fy iechyd meddwl yn isel ofnadwy, oedd o fel bod cwmwl du pob amser yna... Nes i ddechrau'r symptomau yn meddwl be' oedd yn digwydd i fi?
"Dwi'n cofio bod yn siopa a jyst beichio crio am ddim rheswm. Dwi'n cofio mynd mewn i'r car a ddim isio dreifio adra."
'Anodd siarad' am y menopos
Wedi iddi ddeall mai'r menopos oedd wrth wraidd y symptomau fe aeth ati i ddarganfod mwy am y cyflwr, ond mae hi'n dweud bod y pwnc yn un tabŵ ar y pryd.
"Roedd hi'n anodd cael sgwrs am y menopos ar y pryd - oedd o fel bod pobl yn embarrassed i siarad amdano fo, ond mae hyn wedi newid yn fwy diweddar," meddai.
Nôl yn 2017 fe sefydlodd Delyth y caffi menopos cyntaf ar Ynys Môn - rhywle fyddai'n rhoi cyfle i fenywod ddod at ei gilydd i drafod eu profiadau a rhannu cyngor yn yr iaith Gymraeg.
Ond yn sgil y cyfnod clo fe ddaeth y prosiect yma i ben.
Daeth y syniad o sefydlu deiseb wedi i Delyth orfod teithio 83 o filltiroedd o'i chartref i weld arbenigwr yn Wrecsam.
"Na'th o daro fi, yn lle gofyn i gannoedd o ferched deithio o lefydd fel Ynys Môn neu Ben Llŷn i Wrecsam er mwyn cael triniaeth, pam na all y bwrdd iechyd yrru ymgynghorydd sy'n arbenigo yn y maes i Ysbyty Gwynedd am un neu ddau ddiwrnod yr wythnos?" meddai.
"Mae'n bwysig bod merched yn cael cyfle i siarad wyneb yn wyneb â rhywun am eu profiadau.
"Mae'r menopos yn gallu bod yn rhywbeth anodd i siarad amdano, a tydi siarad gyda rhywun ar gamera ar-lein ddim digon da yn fy marn i.
"Mae gan bawb yr hawl i gael gweld rhywun wyneb wrth wyneb."
Y gefnogaeth 'wedi fy nychryn'
Ers lansio'r ddeiseb mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo yn cefnogi'r ymgyrch.
"Dwi wedi dychryn faint sydd wedi cysylltu â fi trwy'r ffôn, drwy Facebook... 'sa chi ddim yn credu faint o negeseuon dwi 'di gael," meddai Delyth.
"Fyswn i'n dangos fy ffôn i chi, mae'n orlawn rŵan o bobl sydd eisiau mwy o wybodaeth, pobl sydd eisiau dod at ei gilydd ac eisiau gwasanaeth ar eu stepen drws.
"Mae 'na' genod yma sydd ddim yn gallu fforddio costau teithio, ddim yn medru fforddio talu rhywun i warchod iddyn nhw, ddim yn medru fforddio cael diwrnod i ffwrdd o'r gwaith i deithio i Wrecsam; mae'r genod yma yn cael eu hanghofio".
Wrth ymateb i'r ddeiseb fe ddywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: "Mae 'na ddiffyg trafod wedi bod am y menopos ers yn llawer rhy hir.
"Mae'n effeithio ar hanner y boblogaeth, ac eto dydyn ni ddim wedi bod yn trio gwneud yn siŵr bod y gefnogaeth sydd ei angen ar gael i ferched.
"Mae yna wasanaeth yn y gogledd erbyn hyn, ond mae'r ffaith nad oes yna wasanaeth yn lleol ar gyfer pobl sy'n byw yn y gogledd-orllewin yn broblem o hyd.
"Rydw i wedi ysgrifennu at y bwrdd iechyd. Yn syml iawn, mae angen cryfhau'r gwasanaeth."
Dywedodd Geeta Kumar, arweinydd gwasanaethau i ferched ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Mae ein clinigau menopos arbenigol yn cael eu darparu o Ysbyty Glannau Dyfrdwy ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
"Mae'r clinigau hyn yn cael eu harwain gan ein tri gynaecolegydd ymgynghorol sydd wedi'u hachredu fel arbenigwyr menopos gan Gymdeithas Menopos Prydain.
"Mae'r clinigau hyn ar gyfer cyngor arbenigol yn ymwneud â'r menopos i gleifion ar draws gogledd Cymru, sydd ag anghenion mwy cymhleth fel methiannau triniaeth luosog neu broblemau meddygol cymhleth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020