'Dim dewis' ond torri lwfans tanwydd gaeaf - Ysgrifennydd Cymru

Jo StevensFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llywodraeth Llafur y DU "wedi etifeddu sefyllfa economaidd enbyd gan y llywodraeth Geidwadol," meddai Jo Stevens

  • Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, yn dweud “nad oes gennym ni unrhyw ddewis arall” wrth gael ei herio am bolisi Llafur i dorri’r lwfans tanwydd gaeaf.

Roedd AS Canol Caerdydd yn siarad o Lerpwl ar ddechrau cynhadledd flynyddol Plaid Lafur y DU.

“Rydyn ni wedi etifeddu sefyllfa economaidd enbyd gan y llywodraeth Geidwadol,” meddai Jo Stevens wrth raglen Politics Wales y BBC.

“Llinell gyntaf ein maniffesto y cawsom ein hethol arni – gyda mandad enfawr, gan gynnwys yng Nghymru – lle enillon ni 27 o'r 32 o seddi – oedd dod â sefydlogrwydd economaidd i’r wlad.

"Dim ond os ydym yn datrys hynny y gallwn osod y sylfeini, ac mae rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd yn gynnar.

"Mae yna bensiynwyr yng Nghymru sydd ddim yn cael credyd pensiwn. Rydym am i bob pensiynwr sy'n gymwys i gael credyd pensiwn gymryd hynny oherwydd ei fod yn werth hyd at £3900.

"Mae ASau ledled Cymru yn gweithio i wneud yn siŵr, ynghyd â chydweithwyr mewn cynghorau a llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr bod pobl sy’n gymwys yn gwneud cais amdano.

"Nid ydym eisiau gorfod gwneud y mathau o benderfyniadau yr ydym wedi gorfod eu gwneud ynghylch lwfans tanwydd gaeaf ond nid oes gennym unrhyw ddewis arall oherwydd yr etifeddiaeth economaidd enbyd honno.

"Ond, os gosodwn ni’r seiliau fe allwn ni ddechrau ailadeiladu’r wlad a bydd pobl yn gweld y gwahaniaeth mae cael llywodraeth Lafur mewn grym yn ei wneud wrth i ni ddechrau ein degawd o adnewyddu cenedlaethol.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan gyda Jo Stevens a Keir Starmer

Yn ôl amcangyfrifon llywodraeth y DU, mae disgwyl i benderfyniad llywodraeth Lafur newydd Syr Keir i dorri taliadau tanwydd gaeaf i’r rhan fwyaf o bensiynwyr effeithio ar 400,000 o gartrefi yng Nghymru.

Bydd y newid yn golygu mai dim ond y pensiynwyr sy’n derbyn credydau pensiwn neu fudd-daliadau eraill fydd yn gymwys ar gyfer y taliad, sy’n werth hyd at £300.

Ymatebodd Jo Stevens i sylwadau diweddar y Prif Weinidog – oedd yn cymharu ei dylanwad ar Keir Starmer â’i dylanwad ar Donald Trump.

Wrth siarad ar raglen Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd Eluned Morgan: “Peidiwch â gorbwysleisio fy nylanwad” ar arweinydd a phrif weinidog Llafur y DU.

Pan ofynnwyd iddi pam nad oedd hi wedi ei alw i ofyn am ailfeddwl am y toriadau, dywedodd: “Gallwn i alw ar Donald Trump i wneud pethau hefyd.”

'Y berthynas wedi trawsnewid'

Fe wnaeth Ms Stevens wadu unrhyw awgrym bod hyn yn dangos diffyg parch rhwng y ddwy lywodraeth.

“Os edrychwch chi ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y 12 wythnos diwethaf, mae’r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi trawsnewid yn llwyr” mynnodd Jo Stevens.

“Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’n gilydd. Rydym wedi gwneud nifer o gyhoeddiadau am reilffyrdd gogledd Cymru er enghraifft lle rydym yn mynd i fod yn cynyddu nifer y trenau 50%.

"Rwyf wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â TATA a’r fargen well yr ydym ni fel Llywodraeth y DU wedi’i chyflawni ar gyfer gweithlu TATA a’r cyhoeddiad a wneuthum ym mis Gorffennaf, o fewn wythnosau i ddod i rym, tua £13.5 miliwn i helpu gweithwyr sydd wedi eu heffeithio gan y cyfnod pontio ym Mhort Talbot ac i lawr yr afon.

"Mae yna lawer o feysydd lle rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd ... byddwn ni'n cael ein barnu ar ein cyflawniad.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynhadledd flynyddol y Blaid Lafur yn cael ei gynnal yn Lerpwl

Mae Ysgrifennydd Cymru hefyd wedi dweud wrth y BBC y gallai rheolau ynghylch rhoddion "fod yn rhywbeth y mae'r pwyllgor moderneiddio newydd yn edrych arno".

Pan ofynnwyd iddi a yw’n credu y dylid newid y rheolau, dywedodd: "Rwy'n meddwl bod sgwrs i'w chael am ystod eang o faterion.

"Yr hyn a welsom o dan lywodraeth Geidwadol y blynyddoedd diwethaf, wyddoch chi, nid dim ond pethau'n ymwneud â lobïo ac arian a llygredd.

"Rydych chi'n gwybod bod y rheini'n bethau gwahanol iawn i'r rhai a neu beidio, rydych chi'n cofrestru buddiant o fewn 28 diwrnod ac rydych chi'n ceisio eglurhad ar fuddiant sydd wedyn yn golygu bod yn rhaid i chi roi rhywbeth ychwanegol yn y gofrestr i ddweud beth rydych chi wedi'i wneud rydw i'n meddwl, chi'n gwybod, yw hynny - i gymharu'r ddau beth hynny yn gywerthedd ffug."

Dadansoddiad

Teleri Glyn Jones, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

Yn eu cynhadledd Lafur gyntaf yn y DU ers buddugoliaeth ysgubol yn yr Etholiad Cyffredinol bydd gan Lafur Cymru ddigon i'w drafod wrth iddyn nhw ymgynnull yn Lerpwl.

Ar ôl addo gwell perthynas rhwng llywodraethau’r DU a Chymru o dan faner Llafur, cododd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, amheuon yr wythnos hon drwy ddweud fod ganddi'r un faint o ddylanwad ar y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer, a be sydd ganddi ar Donald Trump.

Ond mae'r wythnos hon yn gyfle i newid hynny - gyda phleidiau eraill fel Reform a Phlaid Cymru yn herio goruchafiaeth Llafur dros Gymru yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026, bydd Eluned Morgan yn defnyddio cynhadledd y blaid i bwyso ar ei chydweithwyr yn San Steffan yr angen iddi gyflawni.

Mae rhestrau aros ar eu huchaf erioed ac mae angen buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel gofal cymdeithasol, trafnidiaeth ac ysgolion.

A all Eluned Morgan ddarbwyllo Keir Starmer fod ganddo gymaint i'w golli ag sydd ganddi pe bai Llafur yn disgyn wrth y rhwystr gwleidyddol nesaf.

Pynciau cysylltiedig