'Rhy syml gwahardd plant sy'n cario cyllyll'

Owen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Owen Evans bod ymddygiad disgyblion yn gwaethygu, gydag ysgolion yn gweld mwy o "anghenion cymhleth"

  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhy syml gwahardd plant sy'n cario cyllyll, yn ôl prif arolygydd y corff arolygu ysgolion, Estyn.

Wrth siarad ar bodlediad Walescast dywedodd Owen Evans bod angen mynd at wraidd y broblem a deall pam bod disgyblion yn penderfynu mynd â chyllyll i'r ysgol.

Dydd Llun, cafodd merch 14 oed ei dyfarnu yn euog o geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill 2024.

"Efallai bod gyda chi blentyn sydd â phob posibilrwydd o redemption ond maen nhw wedi cwympo mewn i ymarfer gwael a dydyn ni ddim yn gallu gwahardd rhain o gymdeithas," esboniodd.

Ychwanegodd Mr Evans bod sawl rheswm y tu ôl i benderfyniadau plant i fynd â chyllell i'r ysgol, ac na fyddai polisi "one-size-fits-all" yn gweithio.

"Mae'n rhaid edrych ar pam.

"Mae'r plant sy'n mynd â chyllyll i'r ysgol yn teimlo dan fygythiad, neu yn teimlo fel bod plant eraill yn mynd â chyllyll i'r ysgol.

"Mae'n rhaid taclo prif reswm y mater."

Mae ymosodiadau cyllyll mewn ysgolion yng Nghymru yn anghyffredin iawn, gyda'r achos yn Ysgol Dyffryn Aman yn ddigwyddiad prin.

"Ond fe wnaeth yr achos ddigwydd," meddai Mr Evans, gan ychwanegu bod "gwersi i'w dysgu".

Ymddygiad yn gwaethygu

Yn ôl Mr Evans, mae ymddygiad disgyblion yn gwaethygu, gydag ysgolion yn gweld mwy o "anghenion cymhleth".

"Mewn ysgolion cynradd, ry'n ni'n gweld plant sydd ddim yn gallu defnyddio'r toiled.

"Ers y pandemig, ry'n ni'n gweld mwy o bobl ifanc yn mynd i'r ysgol ddim yn gallu siarad, ddim yn gallu cyfathrebu.

"Ma' hynny'n broblem."

Ysgol Dyffryn AmanFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Daw sylwadau Owen Evans ar ôl i ferch 14 oed gael ei dyfarnu yn euog o geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman

Dywedodd bod angen mwy o gefnogaeth ar ddisgyblion, athrawon ac ysgolion, ond fe wnaeth hefyd gydnabod bod yna "broblemau gyda chapasiti".

"Lle mae arweiniad cryf a pholisïau cyson ar ymddygiad a phan mae mesurau cefnogaeth dda mewn lle i'r plentyn a'r teulu, yna mae modd gwneud gwahaniaeth go iawn yn yr amgylchiadau hynny.

"Mae'r gwasanaethau cefnogaeth o gwmpas yr ysgol angen bod mewn sefyllfa dda i adnabod achosion, ond mae hynny ar hyn o bryd yn anodd," meddai, gan ychwanegu bod y galw ar ôl y pandemig "bron wedi dyblu".

Mae Lynne Neagle AS, ysgrifennydd addysg Cymru, wedi dweud y byddan nhw'n cynnal uwchgynhadledd ymddygiad y flwyddyn nesaf er mwyn mynd i'r afael â phroblemau "cymhleth" sy'n wynebu ysgolion.

'Rhaid gwahardd disgyblion sy'n cario cyllyll'

Yn ymateb i'r sylwadau hynny dywedodd Neil Butler o undeb addysg NASUWT bod gwahardd disgyblion sy'n cario cyllyll yn allweddol o ran sicrhau diogelwch.

Dywedodd ei fod yn cytuno bod angen deall pam y byddai plentyn yn dod â chyllell i'r ysgol, ond mai'r flaenoriaeth yw cadw disgyblion ac athrawon yn ddiogel, sy'n gofyn am waharddiad ar unwaith.

"Dyw hynny ddim yn eu heithrio o gymdeithas - mae hynny'n nonsens," meddai.

Ychwanegodd na fyddai'n golygu na fyddai'r plentyn yn cael addysg, ond yn hytrach gallai chwilio am addysg mewn "lleoliad mwy addas" nac ysgol brif ffrwd tra'n cael ei asesu.

"Os yw'r plentyn sydd wedi cario cyllell i'r ysgol yn aros yno tra bod y gweithwyr seicolegol yn eu hasesu, maen nhw'n parhau i fod yn berygl i blant eraill yn yr ysgol," meddai.

"Mae mor syml â hynny mewn gwirionedd. Rhaid bod yn glir mai dyna'r canlyniad.

"Mae'n rhaid i ni roi diwedd ar hyn. Mae'n rhaid i ni atal hyn nawr ac mae hynny'n golygu gwaharddiadau clir ar gyfer y math yna o ymddygiad."

Pynciau cysylltiedig