Un o bob 20 sy'n medru'r Gymraeg byth yn ei siarad - arolwg

CymraegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd 42,800 eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad

  • Cyhoeddwyd

Mae un o bob 20 o bobl yng Nghymru sy'n gallu siarad Cymraeg byth yn gwneud hynny.

Dyna'r awgrym o'r data am y Gymraeg o'r arolwg blynyddol o'r boblogaeth (ABB).

Dywedodd 42,800 o bobl eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu, sef 5.1% o bobl dair oed neu hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg, yn ôl yr ABB.

Yn y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2024, yn ôl yr ABB roedd 27.4% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Dyma'r ganran isaf i'w chofnodi ers dros wyth mlynedd, sy'n cyfateb i oddeutu 843,500 o bobl.

Mae'r amcangyfrif diweddaraf tua 1.8 pwynt canran yn is na'r flwyddyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023, pan amcangyfrifwyd fod 29.2% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Yn ôl prif weithredwr Dyfodol i'r Iaith, Dylan Bryn Roberts, "yr hyn sy'n glir, ac rydyn ni'n gwybod ers blynyddoedd lawer, yw nad oes fawr o gyfle gan lawer o siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith mewn cymunedau Saesneg-yn-bennaf neu wrth eu gwaith".

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cymryd ystod o gamau i gyflawni ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac i gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio'u Cymraeg.

"Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth i hybu addysg Gymraeg, gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16-25 oed, gweithio i gynnal ein cymunedau Cymraeg eu hiaith, a datblygu technoleg Gymraeg."

14% yn siarad Cymraeg yn ddyddiol

Roedd plant a phobl ifanc 3 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (48.1%, 235,700) nag unrhyw grŵp oedran arall.

Mae hyn yn gyson dros amser ond mae canran y plant a phobl ifanc 3 i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.

Mae'r ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos:

  • Yng Ngwynedd (92,500), Sir Gaerfyrddin (90,600) a Chaerdydd (85,600) y mae'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg.

  • Ym Mlaenau Gwent (8,100) a Merthyr Tudful (8,500) y mae'r niferoedd isaf.

  • Yng Ngwynedd (76.0%) ac Ynys Môn (62.6%) y mae'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.

  • Ym Mlaenau Gwent (12.0%) a Rhondda Cynon Taf (13.3%) y mae'r canrannau isaf.

  • Adroddodd 14.0% (430,000) o bobl dair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 5.4% (167,000) yn wythnosol a 6.6% (203,300) yn llai aml.

  • Nid oedd 72.6% yn gallu siarad Cymraeg.

  • Dywedodd 31.7% (975,700) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 24.1% (740,400) ddarllen yn Gymraeg a 22.0% (675,200) ysgrifennu yn Gymraeg.

Dylan Bryn Roberts, Dyfodol i'r IaithFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y gamp yw "creu sefyllfaoedd naturiol – yn y gwaith, neu Gymreigio'r stryd fawr – lle mae'n dod yn fwy posibl i bobl ddefnyddio'r iaith" meddai Dylan Bryn Roberts

Dywedodd Dylan Bryn Roberts, prif weithredwr y mudiad ymgyrchu Dyfodol i'r Iaith, mai "un o brif wendidau" targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yw "rhoi y pwysoliad bron yn llwyr ar addysg i greu siaradwyr Cymraeg ac nid ar fyd gwaith a gweithleoedd dwyieithog, ar fyd cymdeithasol na byd teuluol/yr aelwyd".

O ganlyniad, meddai, "er llwyddiant y gyfundrefn addysg o ran creu pobl ifanc sy'n gallu'r Gymraeg, bydd cyfradd ohonynt yn cefnu ar yr iaith ar ôl gadael ysgol a hynny am nifer o resymau ond mae diffyg cyfleoedd yn un o'r rhai amlwg".

"Mae angen gwneud y Gymraeg yn fwy perthnasol i bob agwedd o fywyd pobl ac ymhob ran o Gymru.

"Her nid ansylweddol ond rhaid cymryd camau llawer mwy blaengar ac ar raddfa llawer mwy i geisio Cymreigio Cymru a chreu gwlad gwirioneddol ddwyieithog."

Cyfrifiad neu arolwg blynyddol?

Mae'r llywodraeth yn ystyried mai'r cyfrifiad ydy'r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Mae'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi'i seilio ar ddata'r cyfrifiad.

Roedd 582,400 o siaradwyr Cymraeg wedi eu cofnodi yng Nghyfrifiad 2001, 562,000 yn 2011 a 538,300 yn 2021.

Ond mae'r ABB yn ffynhonnell ddefnyddiol er mwyn edrych ar dueddiadau yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg rhwng cyfrifiadau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi, "arferai'r amcangyfrifon hyn fod yn ystadegau swyddogol achrededig" ond o ganlyniad i "ostyngiad ym maint y sampl dros y blynyddoedd diwethaf... a'r ffaith nad yw'r arolwg wedi'i ailbwysoli i'r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylid ailddynodi'r amcangyfrifon yn ystadegau swyddogol".

"Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn", meddai.

Esboniodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y BBC mai'r sampl ar gyfer y cwestiynau ar yr iaith Gymraeg oedd 14,882.

Ynghylch y ffaith bod yr amcangyfrif diweddaraf yn nodi bod nifer y bobl dair oed neu hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg tua 1.8 pwynt canran yn is na'r flwyddyn flaenorol, dywedodd y llywodraeth, "mae'r gostyngiad hwn yn arwyddocaol yn ystadegol, ond dylid dehongli'r gostyngiad gyda gofal gan fod newid wedi bod yn y modd y cynhelir yr arolwg rhwng y ddau gyfnod, ac hefyd y penderfyniad i atal statws ystadegau swyddogol achrededig yr arolwg dros dro".

"Cafodd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb eu hatal ym mis Mawrth 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws (Covid-19), a chynhaliwyd yr holl gyfweliadau dros y ffôn.

"Ailgyflwynwyd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb yn ystod tymor yr hydref 2023 sy'n golygu fod y data diweddaraf yn seiliedig ar gyfuniad o gyfweliadau dros y ffôn a wyneb yn wyneb."