'Angen i'r heddlu fod yn fwy atebol' - Dem Rhydd
- Cyhoeddwyd
Mae angen i'r heddlu fod yn fwy atebol i’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, ac yn agored ynglŷn â pha mor dda y maen nhw’n gweithredu, yn ôl arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
Roedd Jane Dodds yn siarad â BBC Cymru cyn yr etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, fydd yn cael eu cynnal ar 2 Mai.
Dylai heddluoedd fod yn "gwrando ar eu cymunedau", "bod yn eu cymunedau" ac yn ymateb i'w hanghenion, meddai.
Er nad ydyn nhw'n gyfrifol am redeg gwasanaeth yr heddlu o ddydd i ddydd, mae'r comisiynwyr yn gosod blaenoriaethau ar gyfer yr heddlu, a'u cyllidebau.
Mae pedwar ohonynt yng Nghymru ar gyfer pob ardal heddlu ac mae ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol, fel y prif bleidiau eraill, yn sefyll ym mhob ardal - Dyfed-Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru.
Dywedodd Ms Dodds fod angen i'r heddlu ymateb yn well i achosion o stelcian, "a all arwain at drais pellach, ac rydym am weld gwell ymatebion ar drais yn y cartref hefyd".
Wrth nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Stelcio yr wythnos ddiwethaf, dywedodd fod angen "cydlynu aml-asiantaeth effeithiol a buddsoddi mewn hyfforddiant cynhwysfawr i'r heddlu, erlynwyr a barnwyr" er mwyn sicrhau "cyfiawnder i ddioddefwyr o'r diwedd".
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y DU, Syr Ed Davey, wedi galw am gael gwared â Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd, gan roi'r arian sy'n cael ei arbed i "wella plismona rheng flaen".
Nid oedd Ms Dodds am ymhelaethu ar yr awgrym hwnnw yn ei chyfweliad, ond dywedodd fod y blaid yn "bryderus am yr hyn maen nhw'n ei wneud".
Wedi i gomisiynwyr gael eu hethol, ni ddylen nhw gael penodi dirprwyon anetholedig ar gost i'r cyhoedd, meddai.
Dywedodd eu bod "am weld fersiwn lai" o Gomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd.
Ar hyn o bryd mae Llafur yn dal tair o bedair swydd comisiynydd Cymru, gyda Phlaid Cymru yn dal Dyfed-Powys.
Pwy sy'n ymgeisio?
Gwent
Donna Cushing, Plaid Cymru
Mike Hamilton, Democratiaiad Rhyddfrydol Cymru
Hannah Jarvis, Ceidwadwyr Cymreig
Jane Mudd, Llafur Cymru
De Cymru
Sam Bennett, Democratiaiad Rhyddfrydol Cymru
George Carroll, Ceidwadwyr Cymreig
Dennis Clarke, Plaid Cymru
Emma Wools, Llafur Cymru
Dyfed-Powys
Justin Griffiths, Democratiaiad Rhyddfrydol Cymru
Ian Harrison, Ceidwadwyr Cymreig
Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru
Philippa Ann Thompson, Llafur Cymru
Gogledd Cymru
Andy Dunbobbin, Llafur Cymru
Ann Griffith, Plaid Cymru
Brian Jones, Ceidwadwyr Cymreig
David Richard Marbrow, Democratiaiad Rhyddfrydol Cymru
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024