Dicter am enw Saesneg ar stad o dai newydd ym Maldwyn

Arwydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Vaughan Jones yn dweud fod yr "arwydd anferth, hyll 'ma wedi fy nghythruddo i’n llwyr"

  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion Pontrobert ym Maldwyn wedi cael eu cythruddo ac yn "berwi” o weld arwydd ag enw uniaith Saesneg i stad o dai newydd yn y pentref - Maple Walk.

Mae cwmni datblygu Primesave o’r Amwythig wedi cael caniatâd i adeiladu naw byngalo ar gyrion y pentref ac yn eu gwerthu drwy gwmni Roger Parry.

Mae Sian Vaughan Jones, sy’n byw’n lleol, yn dweud bod yr "hysbyseb yn fy nghorddi a 'neud fi deimlo’n sâl".

“Fe welais i’r arwydd anferth, hyll 'ma ac mae wedi fy nghythruddo i’n llwyr. Mae’r enw yn erchyll!"

Dywed Cyngor Sir Powys mai enw marchnata gan y datblygwr dros dro yw Maple Walk, ac nad ydyn nhw'n rhan o'r enwi ar y dechrau.

Eu polisi nhw yw hybu enwau Cymraeg yn unol â hanes a threftadaeth yr ardal, medd llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Vaughan Jones yn dweud bod yr "hysbyseb yn fy nghorddi ac yn ‘neud fi deimlo’n sâl"

Dywed Sian Vaughan Jones bod sawl un yn cwyno - yn eu plith Cymry Cymraeg a di-Gymraeg.

“Dwi ‘di siarad efo dau berson y bore 'ma, oedd digwydd bod ddim yn siarad Cymraeg ac maen nhw hyd yn oed yn meddwl bod yr enw yn un ych-a-fi. Dwi’n berwi am y peth!

“Ni newydd gael Eisteddfod yr Urdd, lai na dwy filltir o’r safle yma – mi fyse pobl fyddai’n byw yma wedi clywed bob dim o faes y Steddfod, a rŵan ni’n cael ein bychanu gan gam fel hyn.

“Mae 'na elfennau positif, llewyrchus wedi dod o’r Eisteddfod. Mae’r ysgol Gymraeg yn y pentref yn ffynnu a thyfu drwy’r amser, mae pobl eisiau addysg Gymraeg, mae Ysgol Uwchradd Caereinion newydd gael ei chlustnodi’n ysgol cyfrwng Cymraeg, ac wedyn ni’n cael hyn!

“S'dim sôn am yr iaith Gymraeg a’r ysgol ar wefan y cwmni yn eu disgrifiad o’r ardal.

“Mae’r hysbyseb yn fy nghorddi ac yn ‘neud fi deimlo’n sâl.

“Dwi mor siomedig bod hyn yn digwydd o hyd, ein bo’ ni dal yn gorfod brwydro dros bethe fel hyn yn 2024. Mae’n ofnadwy.”

Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na gyffro mawr ym Mhontrobert o gael Eisteddfod yr Urdd ar stepen drws, lai na ddwy filltir i ffwrdd ym Mathrafal, Meifod

Un arall sy’n dweud ei bod yn “teimlo’n drist ac yn flin” yw Mair White.

"Fel un sy’n byw rhyw filltir allan o’r pentre, fe ges i sioc o weld enw’r lle, Maple Walk! Dwi’n meddwl ei fod yn warthus rhoi enw felly mewn pentre Cymraeg," meddai.

"Ar ôl yr holl gyffro a'r paratoi at y Steddfod ar ein stepen drws ac ymfalchïo yn ein Cymreictod, roedd gweld yr arwydd uniaith Saesneg yma a'r enw chwithig 'Maple Walk' fel ergyd yn fy nghalon, a hynny cyn i'r holl addurniadau hardd o Mr Urdd a'r baneri Cymraeg gael eu tynnu i lawr.

“Mae cymaint o hanes ym Mhontrobert gyda chapel John Hughes a’r emynyddes Ann Griffiths, dydy enw fel hyn ddim yn cyd-fynd gyda Chymreigrwydd y pentref.

"Mae mor bwysig ein bod yn cadw traddodiad a naws Gymraeg y pentref."

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mair White gyda chae 'Maple Walk' yr un pellaf y tu ôl iddi

Mae Mair White hefyd yn poeni pwy fydd yn prynu’r byngalos yma, ac yn dweud bod mwy o angen am dai fforddiadwy i deuluoedd ifanc, lleol.

“Dydy’r byngalos 'ma ddim yn mynd i ddenu pobl ifanc yn anffodus. Pobl wedi ymddeol fydd yn dod.”

Mae’r byngalos yn amrywio mewn pris o £295,000 i £380,000.

Enw marchnata dros dro

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys fod yr arwydd yn un "marchnata y mae'r datblygwr wedi ei osod fel rhan o'r datblygiad".

"O ran enwi strydoedd newydd, polisi y cyngor yw hybu enw Cymraeg cyn enw dwyieithog a rhoi enw sy'n gydnaws â hanes a threftadaeth leol yr ardal.

"Mae ymgynghoriadau gyda chyngor cymuned/tre, y Post Brenhinol a thîm cyfieithu y cyngor yn rhan o roi enw ar bob datblygiad sy'n cynnwys tri neu fwy o gartrefi.

"Ar ddatblygiadau mwy, yn aml mae datblygwyr yn defnyddio enw marchnata tra bod y tai yn cael eu hadeiladu a dyw'r cyngor ddim yn rhan o hynny.

"Mae'r cyngor yn annog datblygwyr i enwi a rhifo tai yn ystod camau cyntaf y gwaith adeiladu er mwyn atal dryswch rhwng yr enw marchnata a'r enw swyddogol."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y byngalos yn cael eu hadeiladu yn y cae yma ym Mhontrobert

Mae Bryn Davies, sy’n gynghorydd Cyngor Powys ar gyfer ward gyfagos, yn dweud ei fod wedi derbyn nifer o gwynion am yr hysbyseb.

“Mae hyn yn mynd yn gwbl groes i bolisi Cyngor Powys, bod yr enw a’r poster yn uniaith Saesneg. Mae’n gorfod bod yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

“Fe ddylai’r enw fod wedi mynd trwy’r cyngor cymuned lleol hefyd, dwi ddim yn siŵr a ydy o.”

Dim ymgynghoriad â'r gymuned

Mae’r cyngor cymuned lleol yn dweud nad oedden nhw’n ymwybodol o’r enw ac na fu ymgynghori gyda nhw.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod wedi derbyn nifer o gwynion, ac fe fydd y cyngor cymuned yn trafod y mater yn eu pwyllgor yr wythnos nesaf.

Yn y cyfamser, mae eu cadeirydd Cath Williams wedi ysgrifennu at gwmni Primesave i ddweud ei bod hi, ar lefel bersonol, yn drist iawn o weld yr enw Saesneg.

Mae'n dweud iddi gael ymateb gan gyfarwyddwr Primesave yn dweud: "Ar hyn o bryd dim ond yr enw a ddefnyddiwn ar gyfer marchnata yw hwn, mae'n siŵr mai Cymraeg fydd y cyfeiriad post mewn gwirionedd."

Ychwanegodd Ms Williams: "Mae hefyd yn gofyn am awgymiadau o enwau i’w ystyried, sydd wedi codi fy nghalon ychydig."

Cyfrifoldeb y datblygwr

Dywedodd cwmni Roger Parry, sy'n gyfrifol am werthu'r byngalos, nad oedden nhw'n rhan o enwi'r stad, ac mai cyfrifoldeb y datblygwr fyddai hynny.

Ychwanegodd mai'r datblygwyr fyddai hefyd yn gyfrifol am yr arwydd, ac nad oedden nhw'n ymwybodol ohono tan i'r BBC gysylltu â nhw.

Mae BBC Cymru wedi gwneud cais am sylw gan gwmni Primesave.