Plaid yn cefnogi safleoedd niwclear Trawsfynydd a Wylfa yn unig

Rhun ap Iorwerth
  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru yn dweud y byddai ei blaid yn cefnogi gorsafoedd ynni niwclear newydd yn safleoedd Wylfa a Thrawsfynydd, ond ddim yn unman arall yng Nghymru.

Mae gorsafoedd sydd wedi cael eu datgomisiynu ar y ddau safle - gyda'r ddau safle hefyd mewn etholaethau y mae'r blaid yn eu targedu yn yr etholiad cyffredinol.

Yn y gorffennol mae ynni niwclear wedi bod yn bwnc dadleuol o fewn Plaid Cymru, ond mewn cyfweliad gyda rhaglen BBC Wales Question Time Special, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod polisi'r blaid "mor onest ag y gallwn ni fod".

Hefyd ar y rhaglen, fe soniodd Mr ap Iorwerth am ei wrthwynebiad i Brexit, gan awgrymu ei fod wedi achosi niwed gwirioneddol i'r economi.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod yna "genedlaethau o brofiad yn y maes niwclear mewn dwy ran o Gymru".

"Dydyn ni ddim yn credu y dylen ni ystyried datblygu ynni niwclear yn unrhyw le ond yr ardaloedd hynny."

Ychwanegodd ei fod yn credu bod yna "ddiffyg gonestrwydd" cyffredinol am y pwnc, a bod unrhyw ddatblygiad niwclear "ddegawdau i ffwrdd".

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â pharodrwydd ei blaid i gefnogi ynni niwclear dim ond pan all hynny fod o ddefnydd iddyn nhw, dywedodd: "Da ni'n bod mor onest ag y gallwn ni fod - beth am gael nhw yn y safleoedd hyn a ddim yn unrhyw le arall".

Gofynnwyd i Mr ap Iorwerth os ydi o'n gefnogol i ddatblygu gorsafoedd ynni niwclear newydd, dywedodd: "Yn y mannau maen nhw rŵan? Ydw.

"Dwi 'di gweithio'n galed ofnadwy i geisio sicrhau fod Wylfa yn cael ei ddatblygu ar Ynys Môn.

"Ond... ry' ni ond yn ceisio gwneud hynny os ydi hynny am fod o werth i'n cymunedau.

"'Da ni'n ystyried A, potensial amgylcheddol ynni niwclear, ond hefyd B, a fyddai hynny'n gweithio i ni yn ariannol gan ystyried yr heriau o ddatblygu cynllun fel hyn mewn ardaloedd gwledig."

Ym mis Mai cafodd safle Wylfa ar Ynys Môn ei nodi fel dewis cyntaf Llywodraeth y DU fel rhywle i adeiladu gorsaf ynni niwclear.

Cafodd y safle ei brynu gan y llywodraeth am £160m gan y datblygwyr diwethaf Hitachi - wnaeth roi'r gorau i'w cynlluniau am atomfa newydd yn 2019.

Er i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru alw am gefnogaeth Llywodraeth y DU i gynlluniau i ddatblygu adweithyddion modiwlar bach ar safle Trawsfynydd, cafodd y cynlluniau hynny eu diystyru.

Yn ystod y rhaglen cafodd perthynas y Deyrnas Unedig gyda'r Undeb Ewropeaidd ei drafod hefyd.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod ei blaid "yn ei gwneud hi'n glir yn eu hymgyrch ar gyfer yr etholiad, eu bod yn credu y dylai'r Deyrnas Unedig ailymuno â'r farchnad sengl a'r undeb tollau.

"Mae'n gwbl amlwg i mi, pam na fydda ni'n ceisio mynd i'r afael â rhywfaint o'r niwed gafodd ei achosi gan Brexit?"

Ychwanegodd nad "troi'r cloc yn ôl" oedd y nod, ond "ceisio delio â'r niwed" sydd wedi ei achosi.

Yn ogystal, nododd nad oedd yn credu y dylai pobl ar gyflogau isel a chanolig wynebu cyfraddau treth incwm uwch.

Eglurodd y byddai cynnig y blaid i gynyddu'r budd-dal plant yn cael ei ariannu gan gyflwyno trethi ar enillion cyfalaf a ffawdelw (windfall tax).