Oedi wrth gyflwyno TGAU Iaith Arwyddion Prydain
- Cyhoeddwyd
Mae Iaith Arwyddion Prydain (BSL), fel ieithoedd eraill, weithiau'n amrywio yn dibynnu ar ba ran o’r wlad yr ydych yn byw.
Fel llaeth a llefrith yn Gymraeg, yn BSL mae “bore da”, enwau lliwiau a rhifau yn wahanol o le i le.
Dywedodd Cymwysterau Cymru bod y gwaith ychwanegol sydd ei angen i gytuno ar eirfa yn un rheswm am oedi cyn cyflwyno'r TGAU BSL.
Roedd y cymhwyster i fod i gael ei ddysgu o fis Medi 2026 ond fe fydd e nawr yn dechrau yn 2027.
Oedi'n beth 'da'
Dywedodd un arbenigwr fod oedi yn beth “da” i wneud yn siŵr fod y TGAU o’r safon uchaf.
Mae Sarah Lawrence, sy'n diwtor Iaith Arwyddion Prydain ac yn ymgyrchu yn y maes, yn credu fod y TGAU newydd yn “gyfle arbennig ond mae’n rhaid ei wneud yn iawn".
Dywedodd fod yna brinder athrawon sydd â’r cymwysterau i ddysgu’r TGAU.
“Mae dwy broblem fawr mewn gwirionedd,” meddai Ms Lawrence.
“I ddechrau, yr holl athrawon sy' mas 'na – ond does dim sgiliau BSL ganddyn nhw, a wedyn mae’r rheiny sydd â sgiliau BSL uchel ond sy' heb y cymhwyster dysgu.”
Ychwanegodd fod rhai o fewn y gymuned fyddar yn credu mai dim ond pobl fyddar ddylai addysgu’r cymhwyster, ond dydy Sarah ddim yn cytuno.
“O ble gawn ni ddigon o bobl fyddar i ddysgu’r pwnc?” meddai.
'Tafodiaith rhanbarthol Gymreig'
Dywedodd Cymwysterau Cymru, sy’n arwain y cynlluniau, mai’r bwriad oedd cynnig y cymhwyster o fis Medi 2026, ond bod yna “heriau ychwanegol” am fod y TGAU yn un newydd sbon.
Un o’r rheiny yw “sefydlu geirfa o iaith a gwahaniaethau tafodieithol”.
Dywedodd y corff, yn wahanol i wledydd eraill y Deyrnas Unedig, “does gan Gymru ddim dull canolog o ddatblygu a chytuno arwyddion BSL newydd".
Mae Sarah Lawrence yn arbenigwr ar y "tafodiaith rhanbarthol Gymreig" ac mae hi’n esbonio, yn hanesyddol, fod tafodieithoedd yn gysylltiedig â lleoliadau ysgolion byddar.
Mae hynny wedi arwain at arwyddion gwahanol ar gyfer y lliwiau, er enghraifft, a geiriau megis “pobl” a “cacen”.
Rhaid ystyried sut mae darparu'r cymhwyster trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, meddai.
Yn Ysgol Tre Ioan yng Nghaerfyrddin, mae Siân Evans yn cyflwyno’r iaith i’r athrawon a'r disgyblion ar ôl bod ar gwrs hyfforddiant BSL.
“Mae’r plant yn joio, ma’r staff yn edrych 'mlaen i gael yr arwydd neu’r patrwm bob wythnos yn y cyfarfodydd staff," meddai.
"Ac mae’r plant yn mynd gartre, maen nhw’n holi 'Mam, sut fi’n arwyddo hwn?'
"Maen nhw'n joio, maen nhw moyn gwybod mwy am yr iaith.”
Cyn gwneud y cwrs chwech wythnos i athrawon, a gafodd ei rhedeg gan gwmni Sarah Lawrence, doedd gan Siân ddim syniad bod arwyddion yn amrywio ond “'nath Sarah tafodiaith Gymraeg gyda ni”.
Mae’n croesawi’r TGAU newydd ac yn credu ei fod e'n "syniad arbennig o dda".
"Ma' fe’n agor shwt gyment o ddryse i bob un."
Ond mae hi'n cydnabod fod yna heriau o ran staff i ddarparu'r cymhwyster.
Ymgynghori
Y bwriad yw cynnig TGAU fydd yn addas i ddechreuwyr ac i blant byddar neu sy'n clywed.
Fe fydd Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar ffurf y cymhwyster yn ddiweddarach yn 2024.
Fe ddywedon nhw y byddai’r TGAU yn canolbwyntio ar ddysgu sut i gyfathrebu drwy'r iaith, gydag elfen o ddysgu am yr hanes.
Yn Lloegr, fe fydd TGAU yn Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd1 Mai 2021