Warren Gatland 'yn dal i frifo' ar ôl gadael fel prif hyfforddwr

Warren GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Cymru 20 o'u 26 gêm brawf yn ystod ail gyfnod Gatland wrth y llyw

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-brif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, yn dweud ei fod yn "dal i frifo" ar ôl gadael ei swydd.

Ar ôl i Gymru golli 14 gêm brawf yn olynol, cafodd y penderfyniad ei wneud ar y cyd rhwng Undeb Rygbi Cymru a Gatland i ddod a'i ail gyfnod fel prif hyfforddwr i ben.

Prif hyfforddwr Rygbi Caerdydd, Matt Sherratt, fydd yn cymryd yr awenau ar gyfer tair gêm olaf y Chwe Gwlad eleni.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Telegraph, dywedodd Gatland fod yr holl "negyddiaeth gan y wasg yng Nghymru wedi ychwanegu at y pwysau".

O'r 26 gêm brawf i Gymru eu chwarae yn ystod ail gyfnod Gatland, fe wnaethon nhw golli 20 ac ennill chwech.

Mae'r rhediad presennol o 14 colled o'r bron yn cynnwys dwy gêm yn erbyn yr Eidal a gêm gartref yn erbyn Fiji, ac mae Cymru wedi disgyn i'r 12fed safle yn rhestr detholion y byd.

Daeth y cyhoeddiad ynglŷn â'i ymadawiad ar 11 Chwefror, rai dyddiau wedi'r golled o 22-15 yn erbyn yr Eidal yn Rhufain.

Mae is-hyfforddwr Gatland, Rob Howley, hefyd wedi gadael ei rôl wrth i Sherratt wneud newidiadau i'w garfan ac i'w staff.

Chwaraewyr Cymru wedi'r golled i'r EidalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Cymru yn gobeithio osgoi 15fed colled o'r bron yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn

Dywedodd Gatland, 61, ei fod wedi teimlo pwysau mawr yn ystod wythnosau olaf ei gyfnod wrth y llyw, a bod beirniadaeth gan gyn-chwaraewyr hefyd wedi ei siomi.

"Mi fydd y negyddiaeth yma yn diflannu, mi fydd hynny'n mynd," meddai, "ond ydw i'n dal i frifo rhywfaint? Ydw, wrth gwrs fy mod i. Ond mi ddo'i dros hynny yn ddigon sydyn."

"Mae'n rhaid i chi roi mwgwd ymlaen mewn ffordd a pheidio dangos gormod o emosiwn, ond dwi wedi teimlo fod y negyddiaeth gan y wasg yng Nghymru wedi ychwanegu at y pwysau ar fy ysgwyddau.

"Ro'n i wastad yn meddwl 'pryd y mae rhywun am ddechrau ymladd o'm mhlaid i?'

"Mae'n anodd, ond mae'r cyn-chwaraewyr yn ceisio sefydlu eu hunain yn y gêm, ac mae'n rhaid i chi ddod ar draws yn wrthrychol. Ac yn aml, drwy fod yn wrthrychol roedden nhw'n feirniadol.

"O be' wela' i mae sawl un na fyddai'n gweithio yn y cyfryngau nawr pe na bai nhw wedi chwarae i Gymru neu'r Llewod ac wedi bod yn llwyddiannus."

'Pobl eisiau gweld chi'n methu'

O dan arweiniad Gatland rhwng 2007 a 2019 llwyddodd Cymru i gipio pedwar teitl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, tair Camp Lawn ac fe wnaethon nhw ymddangos ddwywaith yng ngemau cyn-derfynol Cwpan y Byd.

Ond mynnodd nad oedd yn difaru dychwelyd am ail gyfnod fel prif hyfforddwr er gwaetha'r canlyniadau siomedig.

Esboniodd hefyd fod y gêm yn erbyn yr Eidal yn y Chwe Gwlad wastad yn gêm yr oedd rhaid iddo ennill.

"Yn y diwrnodau cyn y gêm, fe wnes i benderfyniad heb feddwl gormod am y peth. Os nad oedden ni'n ennill, yna fyddai'n rhaid i mi ystyried fy nyfodol yn y swydd.

"Dyna fyddai'r amser gorau i adael, a dyna fyddai'r peth gorau i'w wneud o safbwynt pawb."

Ychwanegodd fod y penderfyniad i ddiswyddo Rob Howley wedi ei synnu, ac y bydd angen i'w olynydd parhaol fod â chroen trwchus.

"Mae 'na nifer o bobl sydd am eich gweld chi'n llwyddo, ond mae 'na nifer o bobl hefyd sydd am eich gweld chi'n methu. A dwi wedi cael profiad o hynny fy hun."