Cyfri etholiad y Senedd i ddigwydd y diwrnod ar ôl y bleidlais

Bydd yn rhaid i'r cyfri ddechrau rhwng 09:00 ac 11:00 ar fore Gwener, 8 Mai
- Cyhoeddwyd
Bydd y gwaith o gyfri pleidleisiau adeg etholiad Senedd Cymru ym mis Mai yn dechrau y diwrnod ar ôl y bleidlais, yn hytrach na dros nos.
Mae Bwrdd Rheoli Etholiadau Cymru'n dweud bod mwy o bobl yn gallu dilyn y canlyniadau diweddaraf os fydd y cyfri'n digwydd yn ystod y dydd.
Nid dyma'r tro cyntaf i gyfri ddigwydd yng ngolau dydd yng Nghymru - digwyddodd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021 a hefyd yn etholiadau lleol 2022.
Mae'r bwrdd hefyd yn dweud y bydd staff etholiadol yn cael gorffwys, a bydd gan swyddogion a'u timau bopeth y bydd ei angen arnynt wrth law.

Yn draddodiadol mae'r cyfri wedi digwydd ar noson y bleidlais, gyda staff a gwirfoddolwyr, newyddiadurwyr a phleidiau gwleidyddol yn aros i fyny trwy'r nos i ddilyn.
Ond ar fore Gwener, 8 Mai, bydd yn rhaid i'r cyfri ddechrau rhwng 09:00 ac 11:00.
Bydd rhywfaint o hyblygrwydd i ganiatáu i swyddogion canlyniadau wirio papurau pleidleisio ar unwaith pan fydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau am 22:00 y noson gynt.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref

- Cyhoeddwyd7 Mai

- Cyhoeddwyd7 Mai

- Cyhoeddwyd7 Mai
